Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Atgyweirio tai - gwasanaethau a rhannau a ddefnyddir ar y cyd

Os ydych yn byw mewn tŷ neu floc o fflatiau gyda thenantiaid eraill, bydd mannau yn yr eiddo a gwasanaethau a fydd yn cael eu defnyddio gan sawl person. Eich cyfrifoldeb chi fydd atgyweirio a chynnal a chadw rhai mannau a rhai gwasanaethau, ac eraill yn gyfrifoldeb eich landlord. .

Beth yw gwasanaethau a mannau cyffredin ?

Y mannau cyffredin yw'r mannau hynny mewn tw neu floc o fflatiau neu stryd neu stâd lle mae gan y tenantiaid hawl i'w defnyddio ar y cyd â thenantiaid eraill a'r landlord yn gyfrifol amdanynt. Dyma enghreifftiau o fannau cyffredin:

  • mannau parcio a rennir
  • gerddi a rennir
  • llwybrau a rennir
  • cynteddau a rennir
  • grisiau a rennir
  • ceginau ac ystafelloedd ymolchi a rennir.

Y gwasanaethau cyffredin yw'r rhai hynny a ddarperir mewn mannau cyffredin ac a ddarperir er budd mwy nag un tenant. Dyma enghreifftiau o wasanaethau cyffredin:

  • goleuadau mewn mannau a rennir y tu mewn a'r tu allan i dw a rennir neu floc o fflatiau
  • gorchuddion to i dai a rennir a blociau o fflatiau
  • draeniau a rennir i flociau o fflatiau a blociau o garejys
  • lifftiau a rennir
  • llithrenni gwaredu sbwriel a rennir mewn blociau o fflatiau

Cyfrifoldeb dros atgyweirio gwasanaethau a mannau cyffredin

Bydd llawer o gytundebau tenantiaeth yn nodi pa waith atgyweirio y mae'r landlord yn gyfrifol amdano. Mae'r atgyweiriadau hyn yn cael eu pennu yn y cytundeb tenantiaeth ac maent yn debygol o gynnwys nifer o atgyweiriadau i fannau neu wasanaethau cyffredin.

Mewn unrhyw achos, dan y gyfraith rhaid i landlordiaid sicrhau bod rhai rhannau o eiddo a rhai gwasanaethau'n gweithio'n iawn ac mewn cyflwr da.

Mae'r gofynion hyn yn ymwneud yn bennaf â chadw strwythur a thu allan yr eiddo mewn cyflwr da a sicrhau bod rhai gosodion, yn arbennig gosodion sy'n gysylltiedig â goleuo, gwresogi a glanweithdra, yn gweithio'n iawn. Yn ychwanegol, dylai cynghorau sicrhau bod fflatiau, lifftiau, llithrenni gwaredu sbwriel a goleuadau a rennir mewn mannau a rennir mewn blociau o fflatiau'n cael eu cynnal a'u cadw'n briodol. Mae'r gofynion hyn yn berthnasol pa un a ydynt yn cael eu crybwyll yn y cytundeb tenantiaeth neu beidio.

Dylech fod yn ymwybodol fel tenant mai chi sy'n gyfrifol am gadw pob mynediad, llwybr, cyntedd a grisiau cyffredin yn lân ac yn ddi-rwystr, ac i beidio â difrodi'r mannau hyn.

Beth i'w wneud os sylwch fod angen gwneud gwaith atgyweirio i fannau neu wasanaethau cyffredin

Ar brydiau bydd tenantiaid yn gweld bod angen gwneud gwaith atgyweirio i fannau neu wasanaethau cyffredin. Dylech anfon cais at eich cyngor lleol cyn gynted ag y bo modd yn gofyn iddynt wneud yr atgyweiriadau hyn. Dylai'r cyngor wneud yr atgyweiriadau y mae'n gyfrifol amdanynt o fewn amser rhesymol.

Os ydych yn gwybod bod difrod yn cael ei wneud yn fwriadol gan unigolyn neu grwpiau o unigolion, dylech gysylltu â'ch cyngor lleol. Bydd y cyngor yn croesawu gwybodaeth o'r fath, a allai arwain at y bobl hynny'n gorfod talu'r costau yn hytrach na'r tenantiaid.

Bydd y dolenni isod yn gofyn i chi roi manylion ble'r ydych yn byw ac yna'n mynd â chi at wefan eich awdurdod lleol ble gallwch gael mwy o wybodaeth.

Allweddumynediad llywodraeth y DU