Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Y system gynllunio - pwy sy'n penderfynu beth

Mae'r llywodraeth wedi rhoi'r cyfrifoldeb dros benderfynu ar faterion cynllunio i awdurdodau lleol. Mae dau brif fath o awdurdod lleol - Cynghorau Dosbarth a Sir, gyda'r ddau'n ymgymryd â rolau gwahanol. Ceir Cynghorau Unedol hefyd sy'n cyfuno rolau'r Cynghorau Sir a Dosbarth.

Beth mae Cynghorau Dosbarth yn ei wneud

Mae Cynghorau Dosbarth yn delio gyda materion cynllunio lleol yn ogystal ag iechyd yr amgylchedd a chasglu sbwriel. Maent yn paratoi Cynllun Lleol ar gyfer eu hardal ac yn delio gyda'r rhan fwyaf o geisiadau cynllunio.

Fel rhan o'r system gynllunio newydd ar gyfer Lloegr, bydd pob cyngor dosbarth yn paratoi fframwaith datblygu lleol - portffolio o ddogfennau datblygu lleol i ddisodli'r cynllun lleol a rheoli sut y bydd newid yn digwydd yn yr ardal.

Beth mae Cynghorau Sir yn ei wneud

Mae'r Cynghorau Sir yn gyfrifol am wasanaethau megis Addysg, Gwasanaethau Cymdeithasol a chynllunio ar draws y sir. Mae'r Cyngor Sir yn paratoi Cynllun Strwythur ar gyfer eu hardal gyfan a chynlluniau eraill sy'n delio gyda mwynau a gwastraff.

Beth mae Cynghorau Unedol yn ei wneud?

Yn y gorffennol, mae cynghorau unedol wedi paratoi Cynllun Datblygu Unedol ar gyfer eu hardal. Mae hwn yn cyfuno'r Cynllun Strwythur a'r Cynllun Lleol. Fel rhan o'r system gynllunio newydd, bydd pob cyngor unedol yn paratoi fframwaith datblygu lleol.

Y math o gyngor a roddir

Mae Awdurdodau Cynllunio Lleol yn cyflogi cynllunwyr proffesiynol i'w cynghori wrth baratoi Cynlluniau Datblygu ac wrth wneud penderfyniadau ar geisiadau cynllunio unigol. Mae'r swyddogion hyn yn ffynhonnell bwysig o wybodaeth a chyngor lleol, a'r rhain ddylai fod eich pwynt cyswllt cyntaf.

Beth sy'n digwydd nesaf

Pan fyddwch yn cyflwyno cais am ganiatâd cynllunio i'r cyngor, rhaid gwneud archwiliadau i sicrhau ei fod yn cynnwys yr holl wybodaeth sy'n ofynnol dan y gyfraith.

Ymhlith y rhain, mae:

  • sicrhau bod yr holl ffurflenni wedi'u llenwi'n gywir;
  • sicrhau bod cynlluniau lleoliad wedi'u cynnwys ynghyd â chynlluniau manwl a gweddluniau o unrhyw waith adeiladu arfaethedig;
  • sicrhau bod y ffi gywir wedi'i chyflwyno

Os yw'r cais a'r wybodaeth ategol yn gywir, mae'r cais yn 'ddilys' ac fe'i rhoddir i swyddog achos. Os bydd angen rhagor o wybodaeth, bydd y cyngor yn cysylltu â chi cyn y bydd y cais yn cael ei ddilysu.

Unwaith y dilysir eich cais a'i roi i swyddog achos, fe'ch hysbysir o hynny drwy'r post. Fel arfer mae gan y cyngor wyth wythnos ddechreuol (13 wythnos ar gyfer ceisiadau mawr) i ddilysu cais. Os bydd angen gwneud newidiadau i gynlluniau neu os bydd angen rhagor o wybodaeth ategol, gellir ymestyn y cyfnod hwn os bydd y ddau barti'n cytuno i hynny.

Os na cheir penderfyniad ar eich cais o fewn wyth wythnos, cewch apelio at yr Ysgrifennydd Gwladol dros yr Amgylchedd.

Rhaid i'r cyngor hysbysu unrhyw gymdogion sy'n byw gerllaw'r safle neu bartïon eraill o'r datblygiad arfaethedig. Caniateir cyfnod o 21 diwrnod i dderbyn unrhyw sylwadau.

Nid yw'r cyngor yn gallu cyhoeddi penderfyniad cyn diwedd y cyfnod ymgynghori hwn gan fod barn y rhai yr ymgynghorwyd â hwy yn cael eu hystyried mewn materion cynllunio.

Beth mae swyddogion achos yn ei wneud?

Y swyddog achos yw’r person sy’n delio gyda’ch cais a fe/hi fydd eich prif gyswllt ar ei cyfer. Byddant yn cynnal arolygon safle ac yn cysylltu gyda'r ymgeisydd a phartïon eraill â diddordeb i geisio datrys unrhyw broblemau.

Bydd y swyddog achos yn paratoi adroddiad ar y prif faterion cynllunio sy'n berthnasol i'r achos, unrhyw ymgynghoriadau ac yn argymell a ddylid cymeradwyo'r cais neu beidio.

Bydd argymhelliad y swyddog achos yn seiliedig ar ganllawiau cynllunio cenedlaethol, polisïau'r cyngor yn y cynllun datblygu lleol ac unrhyw sylwadau a dderbyniwyd. Bydd y swyddog achos yn gallu darparu manylion argymhelliad, ar gais.

Gwneud y penderfyniad

Y cyngor sy'n penderfynu ar eich cais cynllunio. Pennaeth amgylchedd y cyngor sy'n penderfynu ar y rhan fwyaf o geisiadau cynllunio dan y cynllun dirprwyo.

Mae'r cynllun yn berthnasol i geisiadau nad oes anghydfod yn eu cylch ar gyfer mân ddatblygiadau megis codi estyniadau i dai, ffensys, estyniadau neu newidiadau bychain i adeiladau masnachol a hysbysebion.

Ymholiadau a alwyd i mewn

Weithiau, caiff ceisiadau cynllunio eu 'galw i mewn' gan yr Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol. Digwydd hyn fel arfer dim ond gyda cheisiadau mawr neu y mae anghydfod mawr yn eu cylch. Y Dirprwy Brif Weinidog sy'n penderfynu ar ymholiadau a alwyd i mewn.

Cewch fwy o wybodaeth am y broses gwneud cais ar y Porth Cynllunio.

Allweddumynediad llywodraeth y DU