Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Tai addas - ydy'ch cartref yn ffit i fyw ynddo?

Rhaid i'ch cartref fod mewn cyflwr da, yn ddiogel a chadarn heb unrhyw ddiffygion a allai'ch peryglu chi neu'ch teulu. Bydd gan eich cyngor ganllawiau i'w helpu i ystyried addasrwydd unrhyw eiddo a ddefnyddir fel cartref domestig.

Beth yw'r canllawiau?

Ystyrir bod cartref yn ffit i'w ddefnyddio oni fydd yn peidio â bodloni un o'r gofynion canlynol:

  • mae strwythur yr adeilad yn gadarn
  • does dim angen gwneud gwaith atgyweirio mawr iawn arno
  • does dim tamprwydd yn yr adeilad a allai fod yn niweidiol i iechyd y preswylwyr (os oes rhai)
  • mae ganddo ddarpariaeth goleuo, gwresogi ac awyru digonol
  • mae ganddo gyflenwad digonol o ddŵr glân ac iach trwy bibellau
  • mae cyfleusterau boddhaol yn yr eiddo ar gyfer paratoi a choginio bwyd, gan gynnwys sinc gyda chyflenwad digonol o ddŵr poeth ac oer
  • mae yno doiled wedi'i leoli mewn man addas, at ddefnydd y preswylwyr yn unig (os oes rhai)
  • mae yno, ar gyfer defnydd personol y preswylwyr (os oes rhai), faddon neu gawod sefydlog mewn man addas a basn, pob un gyda chyflenwad digonol o ddŵr oer a phoeth
  • mae ganddo system effeithiol ar gyfer draenio dŵr budr a dŵr wyneb

Os bydd eich cyngor yn teimlo nad yw eiddo'n ffit i fyw ynddo, bydd yn cymryd camau priodol i ddelio gyda'r broblem. Mae gan y cyngor sawl opsiwn, wrth ddelio gydag eiddo:

  • rhybudd atgyweirio
  • gorchymyn cau
  • gorchymyn dymchwel, neu
  • cynnwys yr eiddo mewn ardal glirio

Bydd eich cyngor yn dilyn gweithdrefnau penodol bob amser ar ôl iddo wneud penderfyniad am eiddo anaddas. Os teimlwch y bydd penderfyniad nad yw eiddo'n ffit i fyw ynddo yn effeithio arnoch chi, rhaid i chi gysylltu'n uniongyrchol â'ch cyngor.

Beth yw rhybudd atgyweirio?

Os oes angen gwneud gwaith atgyweirio ar eiddo, gall y cyngor gyhoeddi gorchymyn atgyweirio i sicrhau bod y gwelliannau hyn yn cael eu gwneud. Bydd eich cyngor hefyd yn mynnu bod y gwaith atgyweirio'n cael ei wneud erbyn dyddiad penodol. Yn aml defnyddir rhybudd atgyweirio ar gyfer gwaith megis atal tamprwydd, ailblastro a phlymio.

Beth yw gorchymyn cau?

Gyda gorchymyn cau, rhaid i'r cyngor gymeradwyo yn gyntaf unrhyw ddefnydd y bwriedir ei wneud o'r eiddo. Mae hyn yn golygu bod y cyngor yn cyhoeddi'r math hwn o orchymyn i atal pobl rhag byw yn yr adeilad.

Beth yw gorchymyn dymchwel?

Fel yr awgryma'r enw, cyhoeddir y gorchmynion hyn pan mai dymchwel yr adeilad yw'r peth mwyaf ymarferol i'w wneud.

Beth yw ardal glirio?

Mae ardal glirio'n cynnwys tai nad ydynt yn ffit i bobl fyw ynddynt a byddant yn cael eu dymchwel. Ystyrir mai dyma'r ffordd orau o ddelio gyda chasgliad o dai nad ydynt o unrhyw ddefnydd ymarferol mwyach. Mae'n bwysig cofio fod hon yn weithdrefn fanwl iawn. Ni fydd unrhyw ardal yn cael ei chlirio heb ymgynghori'n llawn â'r bobl hynny yr effeithir arnynt gan y penderfyniad.

Rhagor o wybodaeth

Doeth o beth bob amser yw siarad ag adran dai eich cyngor os oes gennych bryderon am eich cartref. Bydd eich cyngor yn rhoi gwybodaeth lawn i chi am eich cartref a sut y mae'n cael ei ystyried yn ffit i fyw ynddo o dan y gyfraith.

Allweddumynediad llywodraeth y DU