Ydych chi awydd diwrnod lle gallwch ddysgu rhywbeth wrth gael hwyl? Beth am ymweld ag amgueddfa neu oriel? Mae yna gannoedd ledled y DU sy'n cynnig rhywbeth diddorol ar gyfer pob chwaeth a diddordeb. O hanes lleol i gelf cyfoes, ac o ddeinosoriaid i longau gofod, mae yna rywbeth i bawb.
Gallwch gymryd rhan yn un o'r llu o weithdai a digwyddiadau sydd ar y gweill ledled y wlad. Yn aml iawn, bydd digwyddiadau a gweithgareddau arbennig yn cael eu cynnal i blant, yn enwedig yn ystod gwyliau'r ysgol.
Gallwch hefyd ddefnyddio'r wefan '24 Hour Museum' er mwyn chwilio am yr holl ddigwyddiadau mewn amgueddfeydd ac orielau sy'n cael eu cynnal ledled y DU. Drwy ddefnyddio'r cyfleuster hwn, gallwch gael gwybod beth sy'n digwydd mewn canolfan leol heddiw.
Os nad ydych chi eisiau mentro ymhell, mae wastad yn bosib i chi fynd ar daith ar-lein drwy rith-arddangosfa - fel y rheini sydd wedi'u cynnwys ar wefan 24 Hour Museum. Mae arddangosfeydd ar-lein yn eich galluogi i werthfawrogi darnau o gelf a ffotograffau neu drugareddau hanesyddol o gysur eich cartref. Fodd bynnag, os byddwch yn dewis ymweld ag un o'r safleoedd hyn, cofiwch y gall y cynnwys fod yn anaddas i blant am fod y thema'n un a fwriedir ar gyfer oedolion.