Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Mwynhau dyfrffyrdd

Awydd cael tipyn o hwyl mewn cwch? Fe allech chi byntio i lawr yr afon neu fod yn beilot ar gwch hir ar gamlas. Beth am gael gwybod rhagor am yr hyn y gallwch ei wneud ar y dyfrffyrdd a mwynhau manteision mynd am dro ar lan yr afon, mynd ar daith rwyfo, pysgota am awr neu ddwy, neu roi cynnig ar fath newydd o chwaraeon dŵr.

Dod o hyd i'ch dyfrffordd leol

Lle bynnag y byddwch chi, mae'n siŵr bod dyfrffordd wrth law felly holwch Ddyfrffyrdd Prydain i gael gwybod ble mae'r un agosaf. Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod rheolau'r dyfrffyrdd ac yn eu dilyn - gallwch lwytho taflen gan Ddyfrffyrdd Prydain neu gysylltu â'ch swyddfa dyfrffyrdd leol.

Diogelwch dŵr

Mae'r dyfrffyrdd yn llefydd rhagorol i'w mwynhau ond mae'n hollbwysig cofio'r rheolau diogelwch.
Edrychwch ar y canllawiau diogelwch ar y dŵr gan y Gymdeithas Frenhinol er Atal Damweiniau. Cewch fwy o wybodaeth am ddiogelwch hefyd gan Asiantaeth yr Amgylchedd.

Gweithgareddau ar y dŵr neu ar lan y dŵr

Os ydych yn mwynhau pysgota mewn dŵr croyw, edrychwch ar y wybodaeth am bysgota â gwialen a ddarperir gan Asiantaeth yr Amgylchedd. Cewch yno gyngor am sut i helpu bywyd gwyllt, gweld pa ddigwyddiadau pysgota sydd ar y gweill a phrynu'ch trwydded gwialen ar-lein.

Os byddwch chi'n awyddus i fentro mewn cwch ond heb blymio i'r dwfn o'r blaen, edrychwch ar ganllawiau Dyfrffyrdd Prydain i gyw-gychwyr. Hefyd, fe welwch chi gynghorion am ddiogelwch i ganw-wyr a rhwyfwyr.

P'un ai mynd â'r ci am dro ynteu grwydro'n hamddenol ar hyd glan yr afon yw'ch dymuniad, gall Dyfrffyrdd Prydain ddweud wrthych ymhle mae 'na lwybr cerdded ar hyd y dyfrffyrdd yn eich ardal chi.

Edrychwch ar restr llwybrau seiclo Dyfrffyrdd Prydain i weld ble y gallwch chi reidio'ch beic ar lan y dŵr. Cyn i chi gychwyn, holwch Ddyfrffyrdd Prydain a oes angen trwydded seiclo arnoch.


Gall Dyfrffyrdd Prydain hefyd ddweud wrthych am y bywyd gwyllt y byddwch yn debygol o'i weld ar ein dyfrffyrdd.

Ble gewch chi fynd ar ddyfrffyrdd neu ar eu glannau

Mae afonydd, yn ogystal â'r tir sydd ar eu glannau, yn eiddo i'r sawl sydd biau'r tir. Hyd yn oed os oes hawl tramwy ar lan afon, nid yw hynny'n golygu bod gennych chi'r hawl i bysgota yno. Weithiau, mae'n bosib y bydd y perchennog yn lesio'r hawliau pysgota i glwb ac mae'n bosib mai dim ond aelodau'r clwb hwnnw sydd â'r hawl i fynd at lan y dŵr.

Yn ôl y gyfraith, mae'r llwybr tynnu sydd ar lan camlas yn rhan o'r gamlas ei hun. Mae'r llwybr tynnu ar lan camlas fel arfer ar gael i'r cyhoedd gerdded arno, ac weithiau i seiclo arno. Fel arfer, drwy ganiatâd y ceir gwneud hyn, ond ar rai llwybrau tynnu, ceir hawliau tramwy i'r cyhoedd. Dyfrffyrdd Prydain sydd biau llawer o'r llwybrau tynnu hyn. Dylech ddilyn yr is-ddeddfau neu'r cyfyngiadau ar lwybrau tynnu, a bod yn arbennig o ofalus wrth ymyl unrhyw loc.

Nid yw llynnoedd naturiol a'u glannau bob amser ar agor i'r cyhoedd. Nid yw unrhyw hawl mynediad i'r tir sydd o gwmpas llyn o anghenraid yn golygu bod gennych hawl i fynd i'r dŵr, na hawl i nofio, pysgota neu lansio cwch.
Y cwmnïau dŵr, Dyfrffyrdd Prydain, neu gwmnïau preifat biau'r cronfeydd dŵr a'r tir sy'n ffinio arnynt. Nid oes hawliau cyffredinol i'r cyhoedd, ond gall fod rhywfaint o hawl mynediad trwy ganiatâd.

Natur a bywyd gwyllt

Mae gwlyptiroedd yn amrywio o byllau i afonydd, o welyau cyrs i gorsydd ac ynddynt ceir amrywiaeth enfawr o blanhigion ac anifeiliaid ac maent yn hafan i'r rhai sy'n mwynhau bywyd gwyllt. Os byddwch yn ffodus, cewch weld dyfrgwn, llygod y maes yn ogystal ag amrywiaeth o bysgod ac adar.

I gael gwybod mwy am fywyd gwyllt yr afonydd a'r gwlyptiroedd ymwelwch â gwefan yr Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt. Gellir cael mwy o wybodaeth am adar sy'n nythu ger afonydd, llynnoedd a gwlyptiroedd ar wefan yr RSPB.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU