Does gan bawb ddim rhwydwaith cymorth teulu neu ffrindiau y gallant ddibynnu arno am gyngor ac arweiniad i'w helpu pan fydd pethau'n anodd. Gall gwirfoddolwyr helpu i lenwi'r bwlch hwn trwy gynnig eu hamser rhydd i ddarparu cymorth.
Perthynas anfeirniadol un-wrth-un yw mentora a chyfeillio lle gallwch wirfoddoli eich amser i gefnogi ac annog unigolyn. Bydd llawer o bobl yn chwilio am gymorth gan fentor/cyfaill ar gyfnod o newid yn eu bywyd. Er enghraifft, colli aelod o'r teulu neu newid mewn amgylchiadau personol, megis colli swydd neu ymddeoliad. Bydd llawer o wirfoddolwyr yn darparu cymorth dros gyfnod hir, gan feithrin perthynas ac ymddiriedaeth.
Daw pobl y mae angen arweiniad a chymorth arnynt o bob cefndir ac o bob oed, o bobl yn eu harddegau i'r oedrannus.
Dyma enghreifftiau o brosiectau mentora/cyfeillio:
Gellir cael rhagor o wybodaeth am wahanol gyfleoedd mentora ar wefan y Sefydliad Mentora a Chyfeillio.
Dylech fod yn barod i neilltuo cyfnod penodol o'ch amser rhydd a'ch egni, dangos llawer o ymroddiad a bod yn wrandawr da. Ni fyddwch yno i ddysgu nac i blismona'r unigolyn ond i annog a rhoi cefnogaeth. Os hoffech fod yn fentor/cyfaill gwirfoddol, gallwch chwilio drwy'r gronfa ddata genedlaethol o gyfleoedd gwirfoddoli yn y DU gan ddefnyddio gwefan 'Do-it'.
Un o'r ffyrdd gorau o gael gwybod am wirfoddoli yw darllen astudiaethau achos gan bobl sydd eisoes yn gwirfoddoli.
Stori Rachel: mae mentoriaid cyfoedion yn helpu'i gilydd i helpu'u hunain
Rachel Casey, 21, yw'r person cyntaf yng Nghaint i gymhwyso fel mentor cyfoedion ar gyfer Gwasanaeth 16plws Caint; gwasanaeth sy'n gweithio ar ran plant mewn gofal ac sy'n gadael gofal.
Cafodd Rachel, o Dover, gymorth gan fentor pan oedd hithau'n iau, ac felly penderfynodd roi cynnig ar y gwaith ei hun.
'Rhoddodd fy mentor lawer o hyder i mi heb roi pwysau arnaf i wneud pethau. Ond nid dim ond eistedd o gwmpas yn siarad yr oedden ni'n ei wneud - roedd hi'n awgrymu pethau i ni eu gwneud. Ar roedd hynny'n hwyl!
'Rydw i newydd basio'r cymhwyster Btec mewn Mentora ac rydw i'n gobeithio gweithio ym maes ieuenctid. Yn sicr dydw i ddim yn credu y byddwn wedi meddwl am hynny oni bai i mi ei wneud drwy fy ngwaith gwirfoddol. Ond ar wahân i hynny, mae gwirfoddoli yn rhoi llawer o hunanhyder i chi ac mae'n gwneud i chi deimlo'n dda amdanoch eich hun.'
Mae Rachel yn awr yn mentora Rachel arall, 18, ac mae hithau yn ei thro'n bwriadu bod yn fentor cyfoedion ei hun.
'Dw i'n meddwl ei bod yn hoffi cael ei mentora - dydy hi ddim wedi dweud fel arall eto!', meddai Rachel. 'Pan wnes i ei chyfarfod am y tro cyntaf roedd hi'n eithaf bregus, ond mae wedi dod yn ei blaen yn arbennig o dda. Mae wedi bod yn braf ei gweld yn blodeuo a gwybod fy mod i wedi helpu.'