Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Iechyd a diogelwch mewn llety ar rent

Yn gyffredinol, landlordiaid sy'n gyfrifol am gynnal a chadw eiddo a gwaith atgyweirio mawr. Mae hyn yn cynnwys gwaith atgyweirio ar yr adeiladwaith a'r tu allan i'r eiddo, offer gwresogi a dŵr poeth, basnau, sinciau, baddonau ac offer glanweithiol eraill.

Safonau tai

Dylai eiddo fod yn ddiogel ac yn iach i'r preswylwyr, ac felly dylid sicrhau bod:

  • yr eiddo yn gallu darparu system wresogi ddigonol, sydd yn ddelfrydol yn golygu gwres canolog y gellir ei reoli ac insiwleiddio, gyda chyfarpar a ffabrig yr adeilad mewn cyflwr da
  • y cyflenwadau nwy a thrydan a'r offer glanweithdra (draeniau, basnau, sinciau, baddonau a thoiledau) yn gweithio'n iawn
  • yr eiddo yn glir o rwystrau y gellid baglu neu ddisgyn drostynt
  • yr offer gwresogi dŵr yn gweithio'n iawn
  • nad oes tamprwydd yn yr eiddo

Diogelwch nwy a thrydan

Rhaid i'ch landlord sicrhau:

  • bod yr holl gyfarpar a'r gosodiadau nwy yn cael eu cadw mewn cyflwr da
  • bod boeleri nwy yn cael eu harchwilio'n flynyddol gan rywun sydd wedi'i gofrestru gyda’r Gofrestr Diogelwch Nwy
  • ei fod yn cadw cofnod o'r archwiliadau diogelwch, ac yn rhoi gwybod i chi o fewn 28 diwrnod i bob archwiliad blynyddol

Y preswylydd sy'n gyfrifol am gynnal a chadw'r cyfarpar nwy y maent hwy yn berchen arnynt, neu y mae ganddynt hawl i fynd â nhw o'r eiddo ar ddiwedd y cyfnod gosod.

Yn ôl y gyfraith, rhaid i'ch landlord sicrhau bod y system drydan ac unrhyw gyfarpar trydan a ddarperir megis poptai, tegelli, tostiwr, peiriannau golchi a gwresogyddion troch yn ddiogel i'w defnyddio. Os ydy'ch landlord yn cyflenwi cyfarpar newydd, dylai ef neu hi hefyd ddarparu'r llyfrynnau cyfarwyddiadau i gyd-fynd â nhw.

Diogelwch tân

Dan Ddeddf Tai 2004, rhaid i'r landlord wneud sawl peth gyda diogelwch tân:

  • rhaid cael ffordd ddigonol o ddianc
  • yn dibynnu ar faint yr eiddo, efallai y bydd yn rhaid cael larymau mwg a chyfarpar diffodd tanau

Os ydy'ch cyngor lleol yn ystyried yr eiddo'n Dŷ Amlfeddiannaeth y mae angen ei drwyddedu, rhaid i'ch landlord hefyd gydymffurfio ag amodau'r drwydded o ran diogelwch rhag tân.

Yn ôl y gyfraith, rhaid i'ch landlord:

  • sicrhau bod yr holl gyfarpar nwy a ddarperir yn cael eu cynnal a'u cadw'n iawn a bod plymwr sydd wedi’i gofrestru gyda Diogelwch Nwy yn gwneud archwiliad diogelwch bob blwyddyn
  • sicrhau bod y gosodiadau trydan (h.y. y system weirio sefydlog) yn cael eu cynnal a'u cadw a bod unrhyw gyfarpar trydan a ddarperir (h.y. poptai, tegelli) yn ddiogel i'w defnyddio.
  • sicrhau bod unrhyw ddodrefn ac eitemau dodrefnu eraill a ddarperir ganddynt yn bodloni'r rheoliadau gwrth-dân.

Gall Swyddog Iechyd yr Amgylchedd eich cyngor roi mwy o fanylion i chi am ddyletswyddau'ch landlord a gall orfodi eich landlord i ddarparu rhagofalon tân digonol.

I gael cyngor ymarferol ar sut i leihau'r siawns o dân yn eich cartref, ewch i'r wefan 'Fire Kills'.

Allweddumynediad llywodraeth y DU