Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Gosod eich cartref

Os ydych yn gosod neu'n ystyried gosod eich cartref, mae'n hanfodol eich bod yn ymwybodol o'ch hawliau a'ch dyletswyddau cyfreithiol. Pan fyddwch yn gosod eich eiddo i denant, mae'r denantiaeth yn awtomatig yn denantiaeth fyrddaliol sicr oni chytunwch fel arall ar bapur.

Tenantiaeth fyrddaliol

Gyda thenantiaeth fyrddaliol:

  • mae gennych hawl sicr i gael eich cartref yn ôl ar ôl chwe mis
  • gallwch godi 'cyfradd y farchnad' am rent, hynny yw, y gyfradd arferol ar gyfer eiddo tebyg yn yr ardal
  • gallwch gael eich cartref yn ôl os nad ydych wedi cael rhent o leiaf dau fis neu wyth wythnos gan eich tenant
  • gallwch droi tenantiaid allan sy'n peri niwsans i bobl leol

Am faint y mae'n rhaid i denantiaeth fyrddaliol sicr bara?

Mater i'w gytuno arno gyda'ch tenant yw hynny. Gallwch gytuno y dylai bara am gyfnod penodol (sef 'tymor penodol') neu gallwch ei adael yn ben-agored.

Sut ydych yn cael eich eiddo yn ôl?

Gallwch derfynu tenantiaeth heb roi rheswm unrhyw bryd ar ôl chwe mis, gyhyd ag y bo'r tymor penodol yr ydych wedi cytuno arno wedi dod i ben. Rhaid i chi roi o leiaf dau fis o rybudd ysgrifenedig i'ch tenant eich bod am gael eich eiddo yn ôl.

Gallwch derfynu'r denantiaeth unrhyw bryd dan rai amgylchiadau (rhesymau) er mwyn cael meddiant fel y'u pennir mewn deddfwriaeth. Mae'r rhain yn cynnwys ôl-ddyledion rhent, ymddygiad gwrthgymdeithasol, a difrod a wnaed gan y tenant. Bydd hyd y rhybudd ysgrifenedig y mae'n rhaid i chi ei roi yn dibynnu ar y rheswm yr ydych yn ei ddefnyddio.

Beth os na fydd y tenant yn gadael?

Mae'r rhan fwyaf o denantiaid yn gadael. Ni allwch droi tenant allan eich hun, ond gallwch wneud cais i'r llys sirol i gael eich eiddo'n ôl. Os yw'r cyfnod penodol wedi dod i ben, gallwch ddefnyddio trefn meddiant cyflym a all osgoi'r angen am wrandawiad llys.

Pam dim ond gadael fy eiddo yn wag?

Gallwch golli dros £5000 y flwyddyn trwy gadw cartref yn wag, trwy golli rhent, treth gyngor, yswiriant, adfeilio a mesurau diogelwch. Mae perygl hefyd yn sgîl fandaliaeth, sgwatio a chwynion gan gymdogion.

Beth os oes angen gwneud gwaith atgyweirio ar yr eiddo cyn y gellir ei osod?

Efallai y gall rhai cynghorau lleol a chymdeithasau tai eich helpu trwy ddarparu grant neu fenthyciad, neu drefnu i brydlesu a rheoli'r eiddo ar eich rhan. Cysylltwch â'ch cyngor lleol i gael manylion.

Mwy o ddolenni defnyddiol

Mae'n werth darllen y wybodaeth a geir yn y dolenni ar y dudalen hon. Gallwch hefyd gael cyngor gan gyfreithiwr, Canolfan Cyngor ar Bopeth, canolfan cyngor tai neu gymdeithas landlordiaid. Holwch a oes gan eich cyngor lleol swyddog eiddo gwag a all roi cyngor i chi.

Allweddumynediad llywodraeth y DU