Os ydych chi'n denant i'r cyngor neu'n denant i gymdeithas dai, yn weithiwr allweddol neu'n prynu tŷ am y tro cyntaf, mae amrywiaeth o gynlluniau ar gael i'ch helpu i gael eich troed ar yr ysgol dai. Defnyddiwch y canllaw hwn i ganfod pa gynlluniau allai fod ar gael i chi.
Os na allwch chi fforddio prynu tŷ, mae nifer o wahanol ffyrdd y gallwch chi gael help. Bydd gan bob cynllun unigol ei feini prawf ei hun – felly edrychwch ar fanylion pob cynllun gyda'ch landlord neu'r 'Asiant Cymorth Prynu' perthnasol. Gallech fod yn gymwys:
Cynlluniau disgownt
Cynigir y rhain gan landlordiaid cymdeithasol (tenantiaid y cyngor a thenantiaid cymdeithasau tai). Byddant yn rhoi cyfle i'r tenantiaid brynu'r tŷ y maent yn ei rentu am bris gostyngol. Cyfrifir y gostyngiad hwnnw yn ôl lle'r ydych yn byw.
Dyma'r tri phrif gynllun disgownt: ‘Hawl i Brynu’ i denantiaid y cyngor, ‘Hawl i Gaffael’ i denantiaid cymdeithasau tai a'r cynllun Cynllun 'Cymorth Prynu - Tŷ Cymdeithasol'. Dilynwch y dolenni isod i gael rhagor o wybodaeth am y cynlluniau.
Cynlluniau Cymell Ariannol
Efallai y bydd eich cyngor hefyd yn gweithredu cynllun cymell ariannol lle maent yn cynnig arian i chi am symud i dŷ llai, fel y gallant roi'r tŷ hwnnw i bobl eraill ar eu rhestrau aros y mae angen mwy o le arnynt. Mae manylion y cynllun yn amrywio o'r naill gyngor i'r llall, ac nid yw pob cyngor yn cynnig y cynllun. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch ag adran dai eich cyngor lleol.
Cymorth Prynu
Mae'r cynlluniau Cymorth Prynu yn galluogi tenantiaid cymdeithasol, gweithwyr allweddol a phobl sy'n prynu tŷ am y tro cyntaf neu sy'n methu prynu tŷ ar y farchnad agored heb gymorth, i brynu cyfran o dŷ.
Mae yna dri chynllun Cymorth Prynu, wedi'u seilio ar 'fenthyciadau ecwiti' lle mae'r benthyciwr yn rhannu unrhyw gynnydd (ac weithiau unrhyw ostyngiad) yng ngwerth yr eiddo yn ystod y benthyciad. Sef:
Gall pob un sy'n prynu tŷ am y tro cyntaf pan fo incwm eu cartref yn llai na £60,000 y flwyddyn, ac na allant brynu tŷ ar y farchnad agored, wneud cais
Mae angen i ymgeiswyr y mae ganddynt ddiddordeb gysylltu â'r asiant Cymorth Prynu perthnasol yn eu hardal i gael mwy o wybodaeth.
Cynghorir tenantiaid y mae ganddynt ddiddordeb yn y dewis Cymorth Prynu - Tŷ Cymdeithasol i gysylltu â'u landlord i gael gwybod a yw'r cynllun ar gael iddyn nhw.
Rhentu gyda Cymorth Prynu
Mae cynllun peilot newydd 'Rhentu gyda Cymorth Prynu' hefyd wedi'i gyflwyno. Mae'n bosibl y gallwch rentu eiddo newydd ei adeiladu am gyfnod penodol os na allwch gael morgais fforddiadwy ar gyfer unrhyw un o'r cynlluniau Cymorth Prynu eraill. Fel gyda chynlluniau Cymorth Prynu eraill, gallwch fod yn gymwys ar gyfer y cynllun peilot hwn os ydych yn prynu tŷ am y tro cyntaf a bod incwm eich cartref yn llai na £60,000 y flwyddyn. Mae Tŷ'r Cwmnïau, un o asiantaethau'r llywodraeth, yn rhedeg y cynllun hwn mewn ardaloedd penodol o'r DU. Bydd ar waith tan ddiwedd mis Mawrth 2009. I gael rhagor o fanylion am hyn ac am y cynllun Cymorth Prynu - Adeiladu o'r Newydd, defnyddiwch y dolenni isod.
Cymdeithasau tai a benodwyd yw'r asiantau Cymorth Prynu. Maent yn bwynt cyswllt ar gyfer dewisiadau tai fforddiadwy. Gallant ddelio â'r holl broses ymgeisio ar gyfer Cymorth Prynu - Marchnad Agored a Chymorth Prynu - Tŷ Newydd.
Fe gewch hyd i asiant Cymorth Prynu lleol drwy ddilyn y ddolen isod.
Mae prynu tŷ yn ymrwymiad ariannol mawr. Rhaid talu costau uniongyrchol, fel ffioedd cyfreithiol a Threth Stamp ar Dir, yn ogystal â chostau newydd parhaus, fel talu'r morgais, talu am atgyweirio a ffioedd gwasanaeth. Gallwch gyfrifo rhai o'r costau posib sy'n gysylltiedig â phrynu eich tŷ drwy ddarllen ‘Cynllunio i brynu cartref’.