Os ydych chi'n ei chael yn anodd cael morgais heb flaendal, efallai y bydd modd i chi gael cymorth drwy'r cynllun 'Cymorth Prynu i Rentu'. Drwy'r cynllun, gallech rentu tŷ sydd newydd gael ei adeiladu cyn prynu cyfran ohono. Yma, cewch wybod a ydych yn gymwys ar gyfer y cynllun a sut mae'n gweithio.
Mae'r cynllun Cymorth Prynu i Rentu ar gael ar gyfer eiddo penodol yn Lloegr. Cyn y gallwch gael tŷ drwy'r cynllun mae angen i chi wneud yn siŵr eich bod yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd. Mae'r cynllun yn cael ei redeg gan asiantau Cymorth Prynu, a all eich helpu gyda'r broses ymgeisio am dŷ. Bydd Cymdeithasau Tai, sef sefydliadau di-elw sy'n rheoli tai ar gyfer pobl sy'n cael anhawster prynu tŷ, yn cael eu penodi'n asiantau Cymorth Prynu.
Mae'r cynllun Cymorth Prynu i Rentu ar agor i aelwydydd sy'n ennill llai na £60,000 y flwyddyn ac na fyddent, fel arall, yn gallu prynu tŷ.
Gallech fod yn gymwys:
Gweler y dudalen 'Rhaglen Tai i Weithwyr Allweddol' i weld a ydych chi'n weithiwr allweddol.
Os ydych chi'n meddwl eich bod yn gymwys i gael cymorth i gael tŷ drwy gynllun Cymorth Prynu i Rentu, cysylltwch â'ch asiant Cymorth Prynu lleol. Os ydych chi'n weithiwr allweddol, dylech gysylltu â'r asiant Cymorth Prynu yn yr ardal yr ydych yn gweithio ynddi.
Gallwch ddod o hyd i'ch asiant Cymorth Prynu lleol drwy ddilyn y ddolen isod.
Bydd eich asiant Cymorth Prynu lleol yn asesu a ydych yn gymwys ar gyfer y cynllun, cyn edrych ar yr opsiynau sydd ar gael yn eich ardal chi. Gallwch rentu tai sydd newydd gael eu hadeiladu ar gyfradd fforddiadwy - 80 y cant (neu lai) o rent y farchnad. Gallwch rentu'r eiddo am hyd at bum mlynedd.
Bwriad Cymorth Prynu i Rentu yw rhoi amser i chi gynilo digon i allu rhoi blaendal i brynu'r eiddo. Chi fydd yn cael y dewis cyntaf i brynu'r eiddo unrhyw bryd yn ystod y denantiaeth, neu ar y diwedd.
Ar ddiwedd y cyfnod pum mlynedd bydd asiant Cymorth Prynu yn asesu eich sefyllfa eto. Os gallwch ei fforddio, gallwch brynu rhan o'r eiddo dan y cynllun Cymorth Prynu - Adeiladau Newydd. Bydd angen i chi allu talu am o leiaf 25 y cant o'r eiddo drwy gynilion a/neu forgais. I gael mwy o wybodaeth am y cynllun Cymorth Prynu - Adeiladau Newydd, dilynwch y ddolen isod.
Os yw'r asiant Cymorth Prynu yn gweld na allwch fforddio prynu unrhyw gyfran o'r eiddo, bydd eich landlord yn adolygu eich tenantiaeth. Fodd bynnag, nid oes sicrwydd y bydd yn cael ei hadnewyddu.