Os nad ydych yn gymwys ar gyfer y cynlluniau 'Hawl i Brynu' neu 'Hawl i Gaffael', neu os na allwch eu fforddio, mae dal yn bosib i chi gael cymorth i brynu eich tŷ cyngor neu'ch tŷ cymdeithas dai.
Mae'r Cynllun Cymorth Prynu Tŷ Cymdeithasol yn rhoi cyfle i denantiaid cymdeithas dai neu gyngor cymwys brynu cyfran o werth marchnad eu cartref presennol ac yn rhoi cyfle iddynt elwa ar rhwng £9,000 a £16,000 o ddisgownt yn dibynnu ar y lleoliad.
Nid yw pob cymdeithas dai neu gyngor lleol yn cynnig y cynllun felly mae'n werth holi'ch cyngor neu'ch cymdeithas dai leol a ydynt yn cynnig y cynllun ai peidio, neu os mae eich cartref yn gynwysedig.
Rhaid i denantiaid brynu o leiaf 25 y cant o werth eu tŷ a thalu rhent o ddim mwy na thri y cant o werth marchnad gweddill yr ecwiti y mae'r landlord yn berchen arno. Codir y tâl hwn yn fisol yn aml. Bydd faint o ddisgownt gewch chi yn gymesur â'r gyfran o'r eiddo yr ydych yn ei brynu.
| Enghreifftiau |
|---|
| Pe bai tŷ cyngor yn werth £240,000, a thenant yn prynu cyfran o 50 y cant, byddai'r tâl a godir gan y landlord (sef tri y cant) yn £3,600 ac felly'n £300 y mis. |
|
Os ydych chi'n gymwys am gyfanswm o £10,000 o ddisgownt gan eich cyngor/landlord cymdeithasol a'ch bod yn dymuno prynu 50 y cant o dŷ sy'n werth £200,000, byddech yn cael disgownt o £5,000 ar eich cyfran chi. |
Gallech brynu 100 y cant o'r tŷ gyda'r disgownt llawn os gallwch ei fforddio.
Mae gan brynwyr newydd yr hawl i ddisgownt ar unrhyw gyfrannau pellach yr ydynt yn eu prynu, nid dim ond ar y gyfran gyntaf. Felly yn yr enghraifft uchod, os byddwch yn prynu 25 y cant pellach, byddwch yn derbyn disgownt pellach o £4,000.
Dim ond os yw'r canlynol yn berthnasol y gallwch gael Cymorth i Brynu Tŷ Cymdeithasol:
Os oes gennych gyd-denantiaeth, gall hyd at dri o bobl wneud cais gyda'i gilydd, cyn belled â'u bod i gyd yn byw gyda'i gilydd yn y tŷ. Efallai y bydd tenantiaethau blaenorol gyda'r cyngor yn cyfrif hyd yn oed os nad oedden nhw'n dilyn ei gilydd yn barhaus.
Rhaid i chi wneud eich cais yn uniongyrchol i'ch landlord (eich cyngor lleol neu gymdeithas dai). Os ydych chi'n denant i'r awdurdod lleol cysylltwch â'ch cyngor lleol. Mae gan yr Awdurdod Gwasanaethau Tenantiaid restr o bob cymdeithas dai - a elwir hefyd yn Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig.
Bydd y ddolen isod yn eich galluogi i chwilio am fanylion cyswllt eich cymdeithas dai yn ôl enw, math a rhif cofrestru.