Mae'n debyg mai prynu cartref fydd y penderfyniad ariannol mwyaf y bydd rhaid i chi ei wneud yn eich oes felly mae'n werth cymryd amser i ystyried a yw'r dewis yn iawn i chi. Chi fydd yn gyfrifol am yr holl gostau o gynnal a chadw'r eiddo, gan gynnwys y prif atgyweiriadau adeileddol a'r atgyweiriadau a'r gwelliannau cyffredinol.
Bydd angen i chi ystyried y costau canlynol hefyd:
Mae'r broses o brynu tŷ neu fflat yn gostus hefyd, gan y bydd yn rhaid i chi dalu am y canlynol o bosibl:
Fel tenant, efallai y gallwch hawlio budd-dal tai i helpu gyda'r rhent. Fel perchen-feddiannydd, ni chewch unrhyw fudd-dal tai i helpu gyda chostau'r morgais. Efallai y cewch gymhorthdal incwm i helpu gyda chostau tai, ond nid yw hwn fel arfer yn daladwy am naw mis ar ôl ichi ei hawlio.
Os ydych yn oedrannus ac yn berchen ar eich cartref, efallai y bydd ei werth yn cael ei ystyried wrth asesu a ydych yn gymwys i gael cymorth ariannol gyda chostau gofal preswyl.
Os daw person neu gwmni atoch yn cynnig eich helpu i brynu eich tŷ cyngor, mynnwch wybod sut y mae hyn o fudd iddyn nhw a siaradwch â'ch landlord cyn cytuno i unrhyw beth.
Mae rhai cwmnïau'n cynnig arian ymlaen llaw i denantiaid mewn bargen lle mae'r cwmni'n dod yn berchen ar yr eiddo ar ôl tair blynedd. Mae hyn yn dda i'r cwmni, sy'n gallu codi mwy o rent na'r awdurdod lleol. Ond nid yw bob amser yn beth da i'r tenantiaid, oherwydd efallai na fydd yr arian y byddant yn ei gael yn ddigon i brynu cartref arall. Mae rhai tenantiaid wedi dod yn ddigartref ar ôl cytuno i gynllun o'r fath.
Os ydych am symud ymlaen i brynu eich cartref, mynnwch gyngor am unrhyw beth nad ydych yn sicr ohono. Os ydych yn denant i gyngor, gallwch gysylltu ag Uned Perchnogaeth Tai eich cyngor lleol.