Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Directgov ar eich ffôn symudol

Mae Directgov ar gael ar bob ffôn symudol sy'n gallu defnyddio'r rhyngrwyd. Os ydych chi ar grwydr neu os nad oes cyfrifiadur ar gael i chi, gallwch ddefnyddio eich ffôn i gael y wybodaeth deithio ddiweddaraf, i ddod o hyd i'ch meddyg agosaf, i ddysgu am gymorth gyda chostau gofal plant a llawer mwy.

Sut i'w gael

I ddefnyddio'r gwasanaeth, anfonwch y gair MOBILE ar neges testun i 83377 (codir tâl ar y gyfradd safonol). Yna, byddwch yn cael neges testun gyda dolen ynddi. Cliciwch ar y ddolen i weld Directgov Symudol.

Neu, teipiwch www.direct.gov.uk/mobile ar borwr rhyngrwyd eich ffôn.

I'w gwneud yn haws i ddychwelyd i Directgov Symudol, dewiswch 'Bookmark', 'Add bookmark' neu 'Favourites' ar eich ffôn. Cofiwch y bydd hyn yn amrywio yn ôl y math o ffôn sydd gennych, felly edrychwch yn llawlyfr defnyddiwr eich ffôn i gael help.

Anfon neges testun i ni

I gael mynediad hwylusach at Directgov Symudol, gallwch anfon neges gydag enw'r gwasanaeth y mae arnoch ei eisiau i 83377.

Yna, bydd Directgov yn anfon neges testun a fydd yn cynnwys dolen yn ôl atoch. Yr unig beth y mae angen i chi ei wneud yw agor y ddolen a bydd yn mynd â chi i'r dudalen briodol ar Directgov Symudol.

Anfonwch un o'r geiriau allweddol hyn i 83377

  • Anfonwch y gair 'TRAVEL' i ganfod a oes unrhyw oedi ar drafnidiaeth gyhoeddus ac ar y ffyrdd neu i chwilio am amserlenni trên i weld amserau gadael a chyrraedd
  • Anfonwch y gair 'BLUE' i ddod o hyd i doiledau cyhoeddus, gorsafoedd petrol a mannau parcio Bathodyn Glas i bobl anabl
  • Anfonwch y gair 'LICENCE' i drefnu bod ffurflen gais am drwydded yrru yn cael ei hanfon i'ch cyfeiriad
  • Anfonwch y gair 'ONLINE' i chwilio am eich canolfan UK online agosaf i gael mynediad at gyfrifiaduron a'r rhyngrwyd yn rhad
  • Anfonwch y gair 'PASSPORT' i ddod o hyd i swyddfeydd Gwirio ac Anfon, swyddfeydd cyfweliadau a swyddfeydd rhanbarthol

Dim ond pris neges testun arferol y byddwch yn ei dalu - bydd y negeseuon a gewch gan Directgov am ddim.

Cynlluniwr taith

Edrychwch ar Directgov Symudol cyn cychwyn ar daith i gael y wybodaeth ddiweddaraf am deithio a thrafnidiaeth. Yn ogystal â hysbysiadau teithio ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus a ffyrdd o amgylch y DU, gallwch chwilio am amserau gadael a chyrraedd trenau.

Gwasanaethau Bathodyn Glas

Nodwch leoliad er mwyn dod o hyd i'r toiledau cyhoeddus, y gorsafoedd petrol a'r mannau parcio Bathodyn Glas agosaf ynghyd â mapiau i'ch helpu i ddod o hyd iddynt.

Chwiliad lleol

Chwiliwch drwy amrywiaeth o wasanaethau lleol. Gallwch ddod o hyd i gyngor cyfreithiol yn lleol, manylion cyswllt eich cyngor, swyddfeydd pasport rhanbarthol, swyddfeydd cyfweliadau a Swyddfeydd Post sy'n cynnig gwasanaeth Gwirio ac Anfon Pasportau, yn ogystal â chanolfannau UK Online.

Gwasanaethau iechyd lleol ar eich ffôn symudol

Gallwch hefyd chwilio am wasanaethau lleol y Gwasanaeth Iechyd Gwladol gan gynnwys meddygon, deintyddion, optegwyr a fferyllwyr yn eich ardal leol, neu gallwch anfon neges testun er mwyn trefnu i restr o gyfleusterau iechyd lleol gael eu hanfon yn uniongyrchol i'ch ffôn symudol.

Canllawiau cyflym

Porwch drwy'r adran 'Gwybodaeth' i gael canllawiau cyflym i arian, cartrefi ac eiddo, dysgu, teithio, pasportau a chymorth cyfreithiol.

Ffurflenni a thaflenni

Gallwch drefnu i ffurflenni cais am drwydded yrru a chanllawiau cymorth cyfreithiol cynhwysfawr gael eu hanfon atoch yn uniongyrchol, am ddim, drwy'r post.

Cyhoeddiadau cyhoeddus

Ewch i adran 'Cyhoeddiadau cyhoeddus' Directgov i gael hysbysiadau terfysgaeth, cyhoeddiadau'r llywodraeth a chyngor mewn argyfwng.

Y gost

Yn yr un modd â'r wefan, ni fydd Directgov yn codi tâl arnoch am ddefnyddio'i wasanaethau symudol. Fodd bynnag, gallai gweithredwr rhwydwaith eich ffôn symudol godi tâl arnoch am ddefnyddio'r rhyngrwyd ar eich ffôn. Bydd y costau'n amrywio yn dibynnu ar eich cytundeb ffôn felly holwch eich gweithredwr i gael gwybod am dariffau.

Cysylltu â Directgov Symudol drwy byrth

T Mobile

Gallwch gyrraedd Directgov drwy ddefnyddio'r gwasanaeth 'web 'n' walk'. Cliciwch ar y tab 'See all our links' ac ewch i Directgov o dan 'Social and Chat'.

Vodafone

Ewch i hafan Vodafone Live, dewiswch yr adran 'Personal finance' a bydd Directgov i'w weld dan 'Money matters'.

O2  i-mode

Os oes gennych chi ffôn O2 i-mode, pwyswch y botwm 'i' ar eich ffôn a dewis yr i–menu. Ewch i'r adran 'Information & Directories' ac fe welwch Directgov yn y rhestr o safleoedd.

O2 Active

Os ydych chi'n ddefnyddiwr O2 Active, ewch i Directgov drwy'r adran ‘Info and Travel’.

3

I gwsmeriaid ‘3’, ewch i hafan ‘3’, yna dewiswch ‘Top sites’ ac yna ‘More top sites’.

Orange

Ewch i borth Orange World a dewis 'Internet' o ddewislen y porwr. Sgroliwch i lawr i ddod o hyd i Directgov.

Gwasanaeth sy'n ennill gwobrau

Gwobr Cyfathrebu Da mewn Technoleg Symudol 2007

Enillodd Directgov Symudol Wobr Cyfathrebu Da mewn Technoleg Symudol 2007, sy'n wobr uchel ei pharch. Mae gwasanaethau Directgov newydd yn cael eu hychwanegu drwy'r amser, felly cadwch lygad ar y datblygiadau diweddaraf.

Allweddumynediad llywodraeth y DU