Cymorth ymarferol i addasu gosodiadau eich porwr Firefox fel bo'r sgrîn yn haws ei darllen.
Mae rhai defnyddwyr yn ei chael yn haws darllen y testun ar y sgrîn trwy gynyddu maint y testun sy'n cael ei ddangos.
I wneud hyn yn Firefox, ewch i'r ddewislen 'View', dewiswch 'Text Size' ac wedyn dewis 'Increase'. Gallwch gael yr un effaith drwy ddefnyddio'r bysellfwrdd a gwasgu'r bysellau 'Ctrl' a '+' ar yr un pryd.
Mae Firefox yn darparu ffyrdd eraill o addasu sut y bydd tudalennau Directgov yn ymddangos ar eich sgrîn.
Er enghraifft, gallwch newid lliwiau'r cefndir a dewis ym mha liw yr ydych am weld testun, dolenni a dolenni yr ydych wedi ymweld â nhw o'r blaen.
Gallwch wneud y newidiadau hyn drwy:
Ar y blwch 'Font & colors' box gallwch newid y lliwiau a ddefnyddir gan Directgov trwy dicio ar y blychau 'Always use my: Fonts' a 'Always use my: Colors'.
Gallwch nodi ym mha liw yr hoffech i destun a dolenni gael eu dangos a lliw cefndir y dudalen. Gallwch hefyd ddewis lliwiau ar gyfer y dolenni yr ydych wedi ymweld â nhw o'r blaen a'r dolenni pan fydd eich llygoden yn hofran drostyn nhw.
Mae Firefox yn cyhoeddi gwybodaeth fanwl am sut i addasu ymddangosiad eu porwr.