Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Anhwylderau bwyta

Gall unrhyw un ddioddef anhwylder bwyta ond pobl ifanc sydd fwyaf mewn perygl. Er bod symptomau’n amrywio o ran math a difrifoldeb, mae 'na bethau y gallwch chi gadw llygad arnynt. Os ydych chi'n credu eich bod chi neu rywun arall yn dioddef anhwylder bwyta, holwch am gymorth a chefnogaeth.

Beth ydy anhwylder bwyta?

Yn aml, mae anhwylderau bwyta megis anorexia nervosa (a nodweddir gan y person yn osgoi bwyd) neu bulimia nervosa (a nodweddir fel arfer gan y person yn ymprydio, bwyta'n ormodol a chwydu) yn arwydd allanol o ofid mewnol. Dyma'r ffordd y mae rhai pobl - gan gynnwys plant - yn ymdopi gyda phob math o broblemau, gan gynnwys:

  • salwch neu anabledd hirdymor
  • tyndra yn y teulu neu farwolaeth yn y teulu
  • pwysau ar berson yn yr ysgol, gan gynnwys bwlio
  • cael eu cam-drin
  • pwysau ar berson i fynd ar ddeiet a bod yn denau
  • diffyg hunan-barch

Mae anhwylderau bwyta hefyd yn gysylltiedig ag iselder a chamddefnyddio cyffuriau er, mewn rhai pobl ifanc, nid yw'r rhesymau dros ddatblygu anhwylder bwyta yn glir o gwbl.

Beth ydy'r arwyddion?

Gall unrhyw un ddatblygu anhwylder bwyta. Fe'i gwelir gan fwyaf mewn merched ifanc rhwng 15 a 25 oed, er ei fod yn effeithio ar ddynion ifanc hefyd.

Gall cyfuniad o'r symptomau canlynol ddangos bod gan rywun anhwylder bwyta:

  • pwyso'u hunain neu archwilio'u hunain yn y drych drwy'r amser
  • ofn ennill pwysau neu ofn edrych yn dew
  • meddwl eu bod yn ddychrynllyd o ordew
  • bwyta'n ormodol ac wedyn gorfodi'u hunain i chwydu neu ymprydio
  • defnyddio carthyddion a thabledi dŵr heb fod angen amlwg amdanynt i'w weld
  • ymarfer corff yn ormodol megis gymnasteg, loncian neu seiclo
  • bwyta cudd gyda'r un math o fwyd, teisennau yn arbennig
  • casglu cyflenwadau cudd o fwyd

Cael help

Os ydych chi'n credu bod gennych chi, neu rywun rydych chi'n ei nabod, anhwylder bwyta yna mae'n bwysig mynd i weld y meddyg teulu. O'u gadael heb eu trin, gall problemau bwyta effeithio'n ddifrifol ar eich iechyd. Mae cymorth arbenigol ar gael ar gyfer unigolion priodol.

Ar wefan NHS Choices gallwch gael gwybod mwy am anhwylderau bwyta, sut y cânt eu trin, a beth allwch chi ei wneud i helpu ffrind neu berthynas.

Mae'r Gymdeithas Anhwylderau Bwyta, a elwir yn ‘beat’ bellach, yn darparu sawl llinell gymorth a gwasanaeth e-bost. Gallwch weld manylion y gwasanaethau hyn ar eu gwefan.

Mwy o ddolenni defnyddiol

Additional links

Y cyfan am iechyd

Dod o hyd i wybodaeth ar gannoedd o gyflyrau a thriniaethau ar wefan NHS Choices

Allweddumynediad llywodraeth y DU