Salwch a achosir gan y firws influenza yw'r ffliw - mae'n glefyd heintus sy'n ymgartrefu ym mhibellau gwynt uchaf y corff ac mae'n gallu lledaenu'n rhwydd o un person i'r llall. Mae achosion o'r ffliw tymhorol yn dilyn patrwm arferol y tymhorau ac maent yn ymddangos yn flynyddol, fel arfer yn y gaeaf. Yn wahanol i'r ffliw pandemig, gallwch gael brechiad i warchod eich hun rhag y ffliw tymhorol.
Os oes gennych chi'r ffliw, mae'n debyg iawn y byddwch yn datblygu'r symptomau canlynol:
Yn yr hydref, o fis Medi, mae'r GIG yn rhoi brechiad ffliw am ddim i bawb dros 65 oed, neu i bawb sy'n disgyn i'r grwpiau risg clinigol canlynol (gan gynnwys plant dros chwe mis oed):
Gan fod y firws ffliw yn newid bob blwyddyn, bydd angen i’r brechiad ffliw cyd-fynd â’r fersiwn diweddaraf o’r firws. Golyga hyn bod angen i bobl cael y bigiad bob blwyddyn.
Os ydych yn byw mewn cartref gofal/nyrsio neu lety preswyl hirdymor tebyg, dylech siarad â'ch nyrs neu'r rheolwr am gael brechiad ffliw. Dylai gweithwyr iechyd proffesiynol sy'n gweithio'n uniongyrchol ym maes gofalu am gleifion gael eu brechu hefyd.
Hefyd, os mai chi yw prif ofalwr person hŷn neu anabl, yna dylech ofyn i'ch Meddyg Teulu a ddylech chi gael brechiad fel y gallwch barhau i ofalu amdanynt.