Mae'n ddigon posibl mai'r unig beth sydd angen i chi ei wneud i gadw'ch traed mewn cyflwr da yw dilyn arferion hylendid syml a thorri'ch ewinedd, ond os oes problemau'n codi, mae'n syniad da ceisio cymorth proffesiynol gan giropodydd.
Arbenigwyr ar rannau isaf y coesau yw ciropodyddion (neu bodiatregwyr, fel y'u gelwir weithiau) ac maent yn gallu diagnosio a thrin problemau gyda'r traed. Gallant hefyd roi cyngor i chi am sut i atal problemau a sut i ofalu am eich traed.
Dylech geisio cymorth os oes gennych broblem megis:
Mae pobl hŷn gyda diabetes a'r rheiny gydag esgyrn wedi'u camffurfio oherwydd arthritis yn fwy tebygol o fod angen help proffesiynol gan giropodydd.
Gallwch ddysgu mwy am broblemau cyffredin gyda'r traed, a sut i'w trin, ar wefan NHS Choices, sy'n cynnwys fideos ac awgrymiadau am gadw'ch traed yn iach.
Efallai bod gennych hawl i gael gwasanaethau am ddim gan giropodydd dan y GIG, ond fel arfer, gwasanaethau i drin problemau meddygol gyda'r traed yw'r rhain yn hytrach na gofal arferol. Caiff y gwasanaethau hyn eu darparu am ddim mewn nifer o wahanol leoliadau, gan gynnwys canolfannau iechyd lleol, canolfannau dydd a meddygfeydd lleol.
Os ydych chi'n dioddef o ddiabetes, arthritis gwynegol neu broblemau cylchrediad difrifol, byddwch chi ar frig rhestr y GIG am ofal traed, er efallai na fydd ar gael ym mhob ardal. Efallai y byddwch yn gallu mynd at y gwasanaeth yn uniongyrchol neu drwy gael eich cyfeirio gan eich meddyg. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â'ch Ymddiriedolaeth Gofal Sylfaenol leol.
Os nad oes triniaeth GIG am ddim ar gael yn eich ardal chi, efallai bydd eich meddyg yn awgrymu y dylech fynd i weld ciropodydd preifat. Os ydych chi'n penderfynu dewis un eich hun, mae'n bwysig eich bod yn holi am y cymwysterau canlynol neu aelodaeth o gymdeithasau i sicrhau eich bod yn mynd at ymarferydd â chymwysterau da:
Gall ffioedd preifat amrywio yn ôl lleoliad a phrofiad yr ymarferydd - oddeutu £25 i £40 y sesiwn.
Mae FeetforLife, gwefan Cymdeithas y Ciropodyddion a'r Podiatryddion, yn rhoi cyngor am ofalu am eich traed a lle i ddod o hyd i'ch ciropodydd cofrestredig agosaf.