Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Fferyllwyr

Siopau un stop ar gyfer materion iechyd yw fferyllfeydd, neu 'gemists' ar lafar gwlad. Maent yn darparu gwasanaethau megis dosbarthu meddyginiaethau, cynnig cyngor ar fân afiechydon, rhedeg clinigau ac yn eich helpu chi i gadw cyflyrau fel asthma neu ddiabetes dan reolaeth.

Cael gwybod a oes angen i chi fynd i weld meddyg

Rhaid i bob fferyllfa gofrestru â Chymdeithas Frenhinol Fferyllfeydd Prydain Fawr. Gallant roi cyngor arbenigol i chi am feddyginiaethau, a llawer o gyflyrau cyffredin, heb i chi orfod gwneud apwyntiad a hynny y tu allan i oriau gwaith arferol o bryd i'w gilydd hefyd.

Ambell waith, mae'n syniad da ceisio cyngor fferyllydd cyn mynd i weld eich meddyg lleol. Hefyd, gall y fferyllydd eich helpu i benderfynu a oes gwir angen arnoch i fynd i weld eich Meddyg Teulu ai peidio.

Gallant hefyd roi gwybodaeth i chi am wasanaethau iechyd lleol eraill.

Cael meddyginiaethau

Mae fferyllwyr yn arbenigwyr ym maes defnyddio meddyginiaethau ac mae dosbarthu meddyginiaethau yn rhan bwysig o'u gwaith. Gallwch gael meddyginiaethau dros-y-cownter (lle nad oes angen presgripsiwn arnoch gan y meddyg) a meddyginiaethau â phresgripsiwn gan eich fferyllydd.

Weithiau gall fferyllwyr ddarparu meddyginiaeth i chi am hyd at flwyddyn, heb i chi orfod mynd i weld eich Meddyg Teulu bob tro mae'r presgripsiwn yn dod i ben.

Cael cyngor am feddyginiaeth

Mae hunan-feddyginiaethu ar gyfer afiechydon cyffredin wedi tyfu yn ei boblogrwydd, yn enwedig wrth i nifer fawr o feddyginiaethau dros-y-cownter ymddangos ar y farchnad. Gall eich fferyllydd eich cynghori am y triniaethau mwyaf effeithiol gan wneud yn siŵr nad ydych yn trin eich hun gyda chynnyrch dros-y-cownter sy'n gwrthdaro â meddyginiaeth yr ydych yn ei chymryd ar bresgripsiwn. Gallant hefyd waredu hen feddyginiaethau.

Gallwch ofyn i'ch fferyllydd am Adolygiad o'ch Defnydd o Feddyginiaethau. Yn yr adolygiad hwn byddwch chi a'ch meddyg yn taro golwg fanwl dros eich meddyginiaeth. Mae'n rhoi cyfle i chi gael gwybodaeth am eich triniaeth. Cewch chi gadw copi o'r adolygiad eich hun ac fe anfonir copi at eich Meddyg Teulu.

Cael cyngor am iechyd

Oeddech chi'n gwybod bod fferyllwyr yn gymwys i roi cyngor am lawer o broblemau gwahanol, gan gynnwys mân afiechydon? Mae rhai fferyllfeydd hyd yn oed yn rhedeg clinigau ar gyfer cyflyrau megis diabetes, pwysedd gwaed uchel, colesterol uchel ac ar gyfer y rheiny sydd ag angen triniaeth gwrthgeulol. Mae gan lawer ohonynt ystafelloedd ymgynghori fel y gallant gynnig y gwasanaethau hyn mewn man preifat.

Dyma rai pethau y gall eich fferyllydd eich helpu â nhw:

Dyma rai pethau y gall eich fferyllydd eich helpu â nhw:

  • heintiau ar y llygaid, poen stumog, cyflyrau ar y croen, alergeddau, cur a phoenau
  • offer cymorth cyntaf, fitaminau a chyffuriau cyffredin
  • bwyta a byw'n iach, gan gynnwys rhoi'r gorau i ysmygu
  • monitro pwysedd gwaed a diabetes a llefydd i gyfnewid nodwyddau, gosod rhwymau cynnal, cynnyrch stoma a nwyddau anymataliaeth
  • iechyd menywod, gan gynnwys triniaeth ar gyfer llindag (thrush), dulliau atal cenhedlu brys a phrofion beichiogrwydd
  • problemau gyda phlant, gan gynnwys brech clytiau/cewyn, hel dannedd, peswch ac annwyd
  • cyffuriau lleihau colesterol

Dyma rai pethau nad yw eich fferyllydd wedi'i hyfforddi i'ch helpu â nhw:

Dyma rai pethau na all eich fferyllydd eich helpu â nhw:

  • rhoi pwythau, trin clwyf neu ailosod bandais
  • anafiadau i gyhyrau a chymalau, gan gynnwys tynnu cyhyr ac ysigiadau
  • briwiau agored, cytiau, ysigiadau difrifol ac esgyrn sydd wedi torri
  • briwiau heintus a phethau estron yn y corff
  • anafiadau pen a rhywun sy'n anymwybodol
  • os tybir bod esgyrn wedi torri neu os yw rhywun yn colli llawer o waed
  • poen parhaus yn y frest neu anawsterau anadlu
  • gor-ddôs, llyncu cyrff estron neu wenwyno


Bydd angen i chi gael cymorth meddygol o’ch meddyg lleol neu ddarparwr gwasanaeth GIG addas.

Allweddumynediad llywodraeth y DU