Mae Rhwydweithiau Cyswllt Lleol yn cael eu sefydlu ledled y wlad er mwyn eich helpu i ddylanwadu ar y ffordd y caiff eich gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol eu rhedeg. Gall unrhyw un gymryd rhan a bydd yr erthygl hon yn rhoi gwybod sut.
Unigolion a grwpiau cymunedol sy'n gweithio gyda'i gilydd i wella gwasanaethau cyhoeddus yw LINk. Eu gwaith yw dod o hyd i beth y mae'r cyhoedd yn ei hoffi a beth nad ydynt yn ei hoffi am wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol lleol. Yna byddant yn gweithio gyda'r bobl sy'n cynllunio ac yn rhedeg y gwasanaethau hyn er mwyn eu gwella. Gall hyn gynnwys siarad yn uniongyrchol â gweithwyr iechyd proffesiynol am wasanaeth nad yw'n cael ei gynnig neu awgrymu ffyrdd y gellid gwella gwasanaeth presennol. Mae gan LINk bwerau hefyd i helpu gyda'r tasgau ac i sicrhau bod newidiadau yn digwydd.
Bydd LINk yn:
Mae nifer o bobl yn crybwyll oriau agor eu meddygfa leol wrth LINk. Mae'r meddygon yn y feddygfa leol yn dweud yr hoffent agor ar nosweithiau ac ar benwythnosau, ond nad oes ganddynt ddigon o adnoddau.
Mae'r LINk yn cynnig helpu staff y feddygfa i weld pa oriau fyddai'n fwyaf cyfleus ar gyfer pobl leol drwy ofyn i'r gymuned am ei barn. Mae hefyd yn holi LINKs mewn ardaloedd eraill sut maent wedi delio â'r un mater.
Mae ymchwil y LINks yn canfod y byddai'n well gan bobl sy'n gweithio apwyntiadau ben bore fel y gallant weld meddyg heb fod yn hwyr i'r gwaith.
O ganlyniad, mae'r meddygon wedi penderfynu y bydd y feddygfa'n cau am un prynhawn yr wythnos fel y gallant agor yn gynt ar gyfer apwyntiadau cynnar. Maent hefyd yn dechrau gwasanaeth ffonio'n ôl er mwyn i bobl gael ymgynghoriad sydyn dros y ffôn.
Mae nifer o fanteision o ddod yn rhan mewn LINk, sy'n cynnwys:
Eich penderfyniad chi yw sut a phryd yr ydych am gymryd rhan - efallai mai dim ond pan gysylltir â chi y byddwch yn dymuno mynegi eich barn, neu efallai y byddwch am gymryd mwy o ran - gan helpu i godi ymwybyddiaeth o fater neu helpu i ganfod atebion (er enghraifft - cyfarfod â darparwyr neu fod yn rhan o grŵp gwaith).
Unrhyw un: gofalwyr, defnyddwyr gwasanaeth, arweinwyr cymunedol, cynrychiolwyr cleifion....mae barn pawb yn bwysig. Gall grwpiau hefyd ymuno: elusennau, grwpiau ffydd, sefydliadau tenantiaid, cynghorau pobl ifanc, sefydliadau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig a ffederasiynau busnes...unrhyw un sydd am sicrhau y gwrandewir ar anghenion eu cymuned.
Mae llawer o ffyrdd y gallwch gymryd rhan. Gallwch dreulio ychydig funudau'n cymryd rhan mewn arolwg neu dreulio mwy o amser yn cynrychioli'r gymuned pan fydd gwasanaeth iechyd neu ofal cymdeithasol yn cael ei drafod gyda darparwyr gwasanaethau.
Nid oes strwythur sefydlog ar gyfer LINk ac mae'n anhebygol y bydd dwy LINk yn cael eu rhedeg yr un ffordd. Dim ond os bydd y gymuned gyfan yn berchen ar LINk ac yn cymryd rhan ynddi y bydd yn gweithio.
Mae mwy o arian wedi'i roi i gynghorau lleol i ariannu LINKs ond bydd pob LINk yn penderfynu ar y ffordd orau o weithredu a pha flaenoriaethau i ganolbwyntio arnynt. Dylai'r rhan fwyaf o LINKs fod wedi'u rhoi ar waith erbyn diwedd 2008.
I gael gwybod beth sy'n digwydd yn eich ardal chi, cysylltwch ag adran eich cyngor lleol sydd â chyfrifoldeb dros wasanaethau cymdeithasol. Gallwch hefyd gael mwy o wybodaeth o'r daflen; 'Helpu i greu gwasanaeth iechyd a gofal cymdeithasol gwell eglurhad ar y Rhwydweithiau Cyswllt Lleol (LINk).'
Fel arall, gallwch lwytho rhestr o gysylltiadau cyhoeddus ar gyfer LINks