Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Cymorth cyntaf

Gall cymorth cyntaf drin pob math o fân anafiadau ond dylech weld meddyg ar ôl damweiniau mwy difrifol. Mewn argyfwng, gall cymorth cyntaf arbed bywyd cyn bod y gwasanaethau brys yn cyrraedd.

Blychau cymorth cyntaf

Gallai eich blwch cymorth cyntaf gynnwys:

  • plasteri
  • rhwymynnau
  • pinnau cau neu dâp
  • tabledi neu foddion lladd poen (paracetamol neu aspirin) - dylech ddarllen y label bob tro a dilyn y cyfarwyddiadau'n ofalus iawn; mae mathau arbennig ar gael ar gyfer plant
  • llwy feddygol/chwistrell i roi moddion i fabis a phlant - mae'r rhain yn fwy diogel a chywir na llwy de
  • hylif gwrthseptig neu halwyn ar gyfer glanhau clwyfau
  • gwlân cotwm
  • thermomedr
  • gefel fach (ar gyfer sblintiau)
  • siswrn miniog
  • eli haul (ffactor 25 neu uwch ar gyfer plant)
  • eli atal pryfed ar gyfer plant

Cadwch eich blwch meddygol yn uchel ac o gyrraedd plant.

Efallai y dewiswch gael dau flwch: un mawr ar gyfer y cartref ac un llai ar gyfer mynd allan.

Defnyddiwch y blwch cymorth cyntaf rhyngweithiol hwn er mwyn gweld sut mae defnyddio'r prif eitemau yn eich blwch, gydag arweiniad ar fideo ac awgrymiadau.

Cyrsiau cymorth cyntaf

Mae llawer o fudiadau'n cynnal cyrsiau cymorth cyntaf. I gael gwybod mwy am y cyrsiau yn eich ardal chi, cysylltwch ag un o'r mudiadau isod. Os oes gennych blentyn ifanc, gallwch hefyd holi'ch ymwelydd iechyd am y cyrsiau cymorth cyntaf sydd ar gael.

Pryd i ffonio am ambiwlans

Mewn rhai sefyllfaoedd dylech chi ffonio am ambiwlans ar unwaith (er y gallai gwybod rhywfaint o gymorth cyntaf helpu). Dyma rai o'r sefyllfaoedd hynny:

  • pan fydd person yn anymwybodol, neu'n effro ac yn anymwybodol am yn ail
  • os tybir bod person wedi cael strôc
  • pan fydd person yn colli llawer o waed
  • os tybir bod esgyrn wedi torri
  • pan fydd gan berson glwyf dwfn, er enghraifft ar ôl cael ei drywanu
  • os tybir bod person wedi cael trawiad ar y galon
  • os yw person yn cael anhawster anadlu
  • os yw person wedi cael llosgiadau difrifol
  • os yw person yn cael adwaith alergaidd difrifol

Yn yr adran hon...

Additional links

Diogelwch Tân

Camau syml i'ch diogelu chi a'ch teulu rhag tân

Cysylltiadau defnyddiol

Allweddumynediad llywodraeth y DU