Ceir oddeutu 20,000 o benodiadau cyhoeddus, mewn amrywiaeth enfawr o ddiddordebau, o'r celfyddydau i chwaraeon a diddordebau defnyddwyr i feysydd mwy arbenigol megis plaleiddiaid neu therapi genynnau.
I chwilio am swydd gyhoeddus wag, defnyddiwch y ddolen isod.
Isod ceir rhai adrannau safonol y gofynnir i chi eu llenwi yn fwy na thebyg.
Manylion personol
Bydd hyn yn cynnwys eich enw a'ch manylion cyswllt.
Nodweddion personol a phrofiad
Gofynnir i chi ddarparu tystiolaeth eich bod yn berchen ar y sgiliau a'r nodweddion sy'n ofynnol ar gyfer y swydd. Gall hyn fod ar ffurf portread; hanes gyrfa byr; cwestiynau penodol wedi'u cynllunio er mwyn datgelu sgiliau a nodweddion penodol; neu gyfuniad o'r uchod. Ystyriwch eich atebion yn ofalus. Cofiwch y gellir ennill profiad mewn amrywiaeth o sefyllfaoedd nid dim ond yn y gwaith a sicrhewch eich bod yn cyfeirio'n ôl at fanyleb y person a manyleb y swydd a ddarperir yn yr hysbyseb neu mewn pecyn gwybodaeth.
Efallai hefyd y gofynnir i chi restru'ch cymwysterau os yw'r rhain yn berthnasol i'r swydd.
Gwrthdaro rhwng buddiannau
Gofynnir i bob ymgeisydd ddatgan unrhyw fuddiannau ariannol neu eraill neu unrhyw gysylltiadau personol a allai, os cânt eu penodi, gael eu hystyried yn wrthdaro rhwng buddiannau - gwirioneddol neu ymddangosiadol - rhwng dyletswyddau cyhoeddus a buddiannau preifat. Gallai hyn gynnwys buddiannau ariannol, swyddi cyfarwyddwyr, opsiynau cyfranddaliadau yn ogystal â buddiannau preifat anariannol perthnasol megis cysylltiadau gyda sefydliadau allanol.
Ni fydd datgan gwrthdaro posibl mewn buddiannau yn eich rhwystro rhag cael cyfweliad. Ond, bydd yn gadael i'r panel cyfweld archwilio gyda chi y ffordd orau o roi sylw i unrhyw faterion, a'u rheoli, petaech yn llwyddiannus yn eich cais.
Geirdaon
Efallai y gofynnir i chi ddarparu enwau canolwyr ar gyfer cael geirdaon ganddynt - dau fel arfer. Os gofynnir hynny, cewch wybod pa fath o eirda sy'n ofynnol (proffesiynol neu bersonol) a phryd y gofynnir am y geirdaon hynny.
Ffurflen monitro penodiadau cyhoeddus
Cesglir data ystadegol ar ryw, ethnigrwydd ac anabledd at ddibenion monitro'n unig. Mae hyn yn gadael i'r llywodraeth olrhain cynnydd gyda gwneud byrddau yn fwy agored a gwella amrywiaeth. Gellir defnyddio'r wybodaeth hon i ateb cwestiynau seneddol neu ymholiadau eraill. Ni fydd yn cael ei defnyddio mewn unrhyw ffordd a allai ddangos pwy ydych chi heb i chi roi eich caniatâd o flaen llaw.
Gweithgarwch gwleidyddol
Gofynnir i chi hefyd am fanylion gweithgarwch gwleidyddol. Ni fydd y ffaith eich bod yn weithgar yn wleidyddol mewn unrhyw ffordd yn ffactor wrth ystyried eich cais. Mae gwybodaeth am weithgarwch gwleidyddol yn ofynnol gan y Comisiynydd Penodiadau Cyhoeddus fel rhan o'i swyddogaeth fonitro.
Datganiad
Gofynnir i chi lofnodi datganiad yn cadarnhau bod y wybodaeth ar y ffurflen yn gyflawn ac yn gywir hyd y gwyddoch chi ac yn cytuno i fanylion eich penodiad gael eu gwneud yn gyhoeddus mewn datganiad i'r wasg petaech yn llwyddiannus.
Efallai y gofynnir i chi gynnwys CV gyda'ch cais, naill ai yn lle rhai o'r adrannau uchod neu yn ychwanegol at lenwi'r ffurflen.