Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Y broses anrhydeddau - eglurhad

Bydd pobl o bob cefndir ac o bob rhan o'r gymdeithas yn cael anrhydeddau am wneud gwahaniaeth i'w cymunedau. Ceir sawl gwahanol fath o wobr, a phob un yn cydnabod gwahanol fath o gyfraniad.

Y system anrhydeddau

Mae system anrhydeddau Prydain ymhlith yr hynaf yn y byd. Mae wedi esblygu dros 650 o flynyddoedd wrth i'r wlad ganfod dulliau newydd o gydnabod teilyngdod, dewrder a gwasanaeth.

Cyhoeddir rhestrau anrhydeddau ddwywaith y flwyddyn, ddechrau'r Flwyddyn Newydd, ac yng nghanol mis Mehefin ar ddyddiad pen-blwydd swyddogol y Frenhines. Gall unrhyw un gael gwobr os ydyn nhw'n cyrraedd y safon ofynnol o ran teilyngdod neu wasanaeth, ac mae'r rhestrau anrhydeddau yn cynnwys amrywiaeth eang o bobl o wahanol gefndiroedd. Gall unrhyw un enwebu unigolyn am wobr.

Y broses enwebu

Gall pobl fynd i mewn i'r system mewn dwy ffordd:

  • enwebiad gan unigolyn neu gan sefydliad yn y sector cyhoeddus neu'r sector preifat sy'n gyfarwydd â gwaith yr ymgeisydd.
  • argymhelliad gan un o adrannau'r llywodraeth sy'n nodi bod ymgeisydd yn gwneud gwaith da yn ei faes diddordeb. (Gall enwau ymgeiswyr ddod i law fel enwebiadau i'r adran honno, o ffynhonnell gyhoeddus neu breifat.)

Mae'n bosib y bydd pob achos yn mynd drwy sawl cam cyn cyrraedd Ysgrifenyddiaeth Anrhydeddau a Phenodiadau Swyddfa'r Cabinet.

Caiff ffurflenni enwebu a anfonir yn uniongyrchol (neu'n anuniongyrchol drwy Balas Buckingham neu 10 Stryd Downing) i dîm Enwebiadau'r Ysgrifenyddiaeth Anrhydeddau a Phenodiadau i'w didoli a'u gwirio. Bydd rhai achosion yn cael eu cyfeirio at adran berthnasol o'r llywodraeth i'w hystyried. Delir â'r gweddill yn ganolog. Ceisir sylwadau ac adborth gan Arglwyddi Rhaglaw, adrannau a chyrff allanol sydd â diddordeb o bosib mewn elfen o waith yr ymgeisydd. Pan fydd yr achos yn barod, bydd yn cael ei anfon at y tîm Anrhydeddau.

Bydd yr ymgeiswyr a bennir gan adran (ynghyd ag achosion enwebu) hefyd yn cael eu gwirio a'u didoli. Asesir achosion yr adran gan bwyllgor mewnol. Yna, bydd yr adran yn cyflwyno ei ymgeiswyr i rif 10 Stryd Downing ac, oddi yno, byddant yn mynd at dîm Anrhydeddau'r Ysgrifenyddiaeth Anrhydeddau a Phenodiadau.

Ar ôl i'r achos gyrraedd tîm Anrhydeddau bydd yn cael ei baratoi i'w ystyried gan un o gyfres o is-bwyllgorau asesu arbenigol. Cyflwynir ymgeiswyr tebyg gyda'i gilydd er mwyn i bob pwyllgor allu eu cymharu ochr yn ochr. Mae pob pwyllgor yn cynnwys uwch weision sifil ac arbenigwyr annibynnol.

Anfonir eu hasesiadau i'r prif bwyllgor dethol. Mae'r prif bwyllgor yn ystyried cydbwysedd y cynigion ac yn anfon ei argymhellion at Ysgrifennydd y Cabinet a fydd, yn ei dro, yn cyflwyno'r rhestr i'r Prif Weinidog iddo yntau ei chyflwyno i'r Frenhines.

Ar ôl i'r Frenhines roi ei chymeradwyaeth anffurfiol, anfonir llythyrau at bawb a enwebwyd yn gofyn iddynt a fyddent yn fodlon derbyn y wobr a gynigir. Ar ôl iddynt ateb cyflwynir rhestr derfynol i'r Frenhines er mwyn iddi ei chymeradwy'n ffurfiol.

Cyhoeddir y rhestr yn y London Gazette a bydd Siawnsri Canolog yr Urddau Marchog ym Mhalas San James yn trefnu arwisgiadau ar gyfer yr ymgeiswyr llwyddiannus.

Yr Ysgrifenyddiaeth Anrhydeddau a Phenodiadau

Mae System Anrhydeddau'r DU yn cael ei rheoli gan Ysgrifenyddiaeth Anrhydeddau a Phenodiadau Swyddfa'r Cabinet.

Crëwyd y 'Gangen Seremonïol' yn 1937, ac mae'n gyfrifol am waith yn ymwneud â pholisïau anrhydeddau ar draws y llywodraeth. Yr oedd yn cael ei adnabod fel yr Ysgrifenyddiaeth Seremonïol yn 2001, ac er 2008 mae'n cael ei alw'n Ysgrifenyddiaeth Anrhydeddau a Phenodiadau.

Mae’r Ysgrifenyddiaeth yn gyfrifol am y canlynol:

  • paratoi Rhestrau Anrhydeddau'r Prif Weinidog bob hanner blwyddyn
  • rhoi cyngor ar bob mater sy'n ymwneud ag anrhydeddau i Bennaeth y Gwasanaeth Sifil Cartref
  • cydgysylltu polisïau ar wobrwyo addurniadau a medalau yn y DU: rhoi cyngor yn ôl yr angen i'r Swyddfa Dramor a Chymanwlad ac i'r Weinyddiaeth Amddiffyn
  • derbyn, cydnabod a phrosesu enwebiadau ar gyfer anrhydeddau a wneir gan y cyhoedd
  • polisi ar achosion unigol sy'n arwain at wobrau dewrder sifil a'u hasesu
  • asesu a phrosesu argymhellion am y Fedal Gwasanaeth i'r Ymerodraeth

Urddolaethau

Nid yw'r urddolaethau yn anrhydeddau. Er mis Mai 2000 mae Comisiwn Penodiadau Tŷ'r Arglwyddi wedi gwirio'r Urddolion a enwebir gan bleidiau gwleidyddol. Mae Comisiwn Penodiadau Tŷ'r Arglwyddi hefyd yn argymell pobl ar gyfer urddolaethau nad ydynt yn ymwneud â phleidiau gwleidyddol.

Additional links

Arbed Arian
Arbed Ynni

Ewch i dudalen LLEIHAU'CH CO2 i ganfod ffyrdd hawdd o arbed arian ac ynni

Allweddumynediad llywodraeth y DU