Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Prisio ystâd rhywun ar gyfer Treth Etifeddu

Wrth brisio ystâd rhywun sydd wedi marw, bydd angen ichi gynnwys yr asedau yr oedd yn eu meddiant (eiddo, eiddo personol ac arian) cyn eu marwolaeth a rhai asedau a roddwyd i ffwrdd ganddynt yn ystod y saith mlynedd cyn eu marwolaeth. Rhaid i'r prisiad adlewyrchu'n gywir y pris y byddai'n rhaid ei dalu o fewn rheswm am yr asedau hynny ar y farchnad agored adeg marwolaeth yr unigolyn.

Pryd rydych chi'n gwneud y prisiad?

Prisio ystâd yr ymadawedig yw un o'r pethau cyntaf y bydd angen i chi ei wneud fel y cynrychiolydd personol. Fyddwch chi ddim fel arfer yn gallu ysgwyddo'r gwaith o reoli ystâd yr ymadawedig (a elwir yn 'wneud cais am brofiant' neu weithiau 'wneud cais am grant cynrychiolaeth/cadarnhau') hyd nes y bydd rhywfaint neu'r cyfan o unrhyw Dreth Etifeddu sy'n ddyledus wedi'i thalu.

Ond cofiwch mai dim ond ar werthoedd dros £312,000 y mae'r Dreth Etifeddu'n daladwy am y flwyddyn dreth 2008-2009.

Camau allweddol wrth brisio ystâd

Cam un

Cymryd gwerth yr holl asedau y maent yn berchen arnynt, ynghyd â gwerth:

  • eu cyfran o unrhyw asedau y maent yn berchen arnynt ar y cyd â pherson arall: er enghraifft, cartref y maent yn berchen arno gyda'u partner
  • unrhyw asedau sy'n cael eu cadw mewn ymddiriedolaeth, o'r hon yr oedd ganddynt hawl i gael budd
  • unrhyw asedau yr oeddynt wedi'u rhoi i ffwrdd, ond wedi cadw buddiant ynddynt: er enghraifft, os oedd rhywun wedi rhoi eiddo i'w plant ond yn dal i fyw ynddo heb dalu rhent
  • rhai asedau yr oeddynt wedi'u rhoi i ffwrdd yn ystod y saith mlynedd diwethaf (am fanylion asedau y gallwch eu hanwybyddu, darllenwch yr erthygl 'Eithriadau Treth Etifeddu')

Cam dau

O'r cyfanswm uchod, didynnu popeth yr oedd yr ymadawedig yn gyfrifol am ei dalu, er enghraifft:

  • unrhyw forgeisiau neu fenthyciadau eraill heb eu talu
  • biliau heb eu talu
  • costau angladd

(Os yw'r dyledion yn fwy na gwerth asedau'r ymadawedig, ni ellir gosod y gwahaniaeth yn erbyn gwerth eiddo ymddiriedolaeth a gynhwysir yn yr ystâd.)

Cam tri

Gwerth yr holl asedau, llai dyledion y gellir eu didynnu, yw'r ystâd. Am y flwyddyn treth 2008-2009, £312,000 yw'r drothwy uchod ble mae'r gyfradd ar 40 y cant ar y gwerth etifeddiaeth.

Allwch chi ddefnyddio amcangyfrifon os nad ydych yn gwybod yr union werth?

Os nad ydych yn gwybod union swm neu werth ryw eitem, megis ad-daliad Treth Incwm neu fil tw, gallwch ddefnyddio amcangyfrif. Ond yn hytrach na dyfalu gwerth, ceisiwch gael amcangyfrif sy'n seiliedig ar y wybodaeth sydd ar gael ichi.

Bydd cyfarwyddiadau ynghylch sut i ddangos amcangyfrifon ar y ffurflen y byddwch yn ei llenwi.

Ffurflenni i'w llenwi

Bydd y ffurflenni y byddwch angen cofnodi'r prisiad arnynt yn amrywio, yn dibynnu ar y prisiad disgwyliedig. Byddwch yn llenwi ffurflen IHT205 ar gyfer ystadau lle nad ydych yn disgwyl gorfod talu Treth Etifeddu (a elwir yn 'ystadau eithriedig') a ffurflen IHT400 lle rydych yn disgwyl gorfod talu. Mae'r ffurflenni'n wahanol ar gyfer ystadau eithriedig yn yr Alban.

I gael gwybod mwy am gyfrifo a thalu Treth Etifeddu ac i gael dolen i'r holl ffurflenni perthnasol, darllenwch ein herthygl cysylltiedig ar dalu Treth Etifeddu.

Cael help gyda'r prisio

Dylech allu prisio rhai o asedau'r ystâd yn gymharol hawdd, er enghraifft, arian mewn cyfrifon banc neu stociau a chyfranddaliadau. Gydag asedau eraill, efallai y bydd angen cymorth prisiwr proffesiynol arnoch (neu syrfewr siartredig ar gyfer prisio eiddo). Os penderfynwch gyflogi prisiwr, sicrhewch eich bod yn gofyn iddynt roi gwerth yr ased ar y farchnad agored ichi. Mae hyn yn cynrychioli pris gwerthu realistig yr ased, nid gwerth yswiriant neu werth ased yr un fath yn ei le.

Os yw materion yr ystâd yn gymhleth, efallai y byddwch am weithio gyda chyfreithiwr i'ch helpu chi brisio'r ystâd a thalu'r dreth. Os nad ydych yn defnyddio cyfreithiwr, gallwch ofyn i adran Gyllid a Thollau EM ddefnyddio ffurflen IHT400 i gyfrifo unrhyw Dreth Etifeddu sy'n ddyledus (darllenwch fwy yn ein herthygl gysylltiedig 'Talu Treth Etifeddu').

Allweddumynediad llywodraeth y DU