Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Cael gwared ar wastraff peryglus

Trwy wella'r ffordd y rheolwn yr holl wastraff sy'n cael ei ystyried yn beryglus, rydym yn lleihau'r risg y gall ei beri heddiw ac yn y dyfodol. Dowch i wybod yma sut i gael gwared ar wastraff domestig peryglus.

Beth yw gwastraff peryglus?

Mae gwastraff yn beryglus pan fo'n cynnwys nodweddion a all fod yn niweidiol i iechyd pobl neu i'r amgylchedd. Nid yw'r term 'peryglus' wastad yn golygu bod gwastraff o'r fath yn niweidiol yn syth, er y gall rhai mathau fod.

Pa fathau o wastraff sy'n beryglus?

Mae'r gwastraff domestig sy'n gallu bod yn beryglus yn cynnwys:

  • asbestos
  • plaladdwyr
  • tiwbiau fflwrolau
  • olewau
  • rhai mathau o baent
  • batrïau a chyfarpar trydanol wedi'u taflu megis setiau teledu a sgriniau cyfrifiadur, oergelloedd a rhewgelloedd

Sut i gael gwared ar wastraff peryglus

Ni ddylid fel arfer cael gwared ar wastraff peryglus yn y gwastraff trefol cymysg arferol (megis gwastraff y cartref a gwastraff gardd). Mewn rhai achosion, bydd eich cyngor lleol yn gallu casglu'r gwastraff oddi wrthych. Efallai y bydd yn rhaid talu am hyn. Neu efallai y gallwch chi fynd â'ch gwastraff i safle anwynder dinesig (gwastraff y cartref a ailgylchu) neu yn ddi-dâl. Gall eich cyngor lleol roi cyngor ychwanegol i chi.

Nid yw’r rheoliadau presennol ar gyfer gwastraff peryglus yn gosod dyletswyddau ar bobl sy'n cynhyrchu gwastraff peryglus mewn adeiladau domestig (ac eithrio contractwyr sy'n cael gwared ar asbestos). Fodd bynnag, bydd gwastraff tebyg a gynhyrchir mewn adeiladau sefydliadol megis carchardai, gwersylloedd, adeiladau addysgol, cartrefi gofal, neuaddau cyfarfod cyhoeddus ac elusennau yn gorfod cydymffurfio â'r rheoliadau.

Bydd y dolenni isod yn gofyn i chi roi manylion ble'r ydych yn byw ac yna'n mynd â chi at wefan eich awdurdod lleol ble gallwch gael mwy o wybodaeth.

Additional links

Arbed Arian
Arbed Ynni

LLEIHAU’CH CO2 – canfod dulliau hawdd i arbed arian ac ynni

Hoffi Bwyd Casáu Gwastraff

Cael ryseitiau blasus sy'n defnyddio bwyd dros ben a chyngor ar sut i leihau eich gwastraff bwyd

Allweddumynediad llywodraeth y DU