Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Ailgylchu

Gellir ailgylchu bron dwy ran o dair o sbwriel y cartref. Dysgwch sut i ailgylchu ystod eang o nwyddau, yn cynnwys pren, olew injan, tiwbiau golau fflwroleuol, tecstiliau, batris a setiau teledu. Mae ailgylchu'n arbed llawer o ynni a deunyddiau crai, ac yn golygu y bydd llai o wastraff yn mynd i safleoedd tirlenwi.

Ailgylchu ar garreg y drws a banciau ailgylchu cymunedol

Dywed saith o bob deg berson yn y DU eu bod nhw’n ailgylchu ac yn bwriadu dal ati i’w wneud

Erbyn hyn, mae nifer o gynghorau'n casglu papur, gwydr a deunyddiau plastig a bydd rhai hefyd yn casglu gwastraff metel a gwastraff organig. Fel arfer gall eich cyngor lleol ddweud yr hyn y gellir ei ailgylchu a'r hyn na ellir ei ailgylchu. Mae llawer o finiau ailgylchu a chyfleusterau yn dangos lluniau o'r hyn y gellir eu rhoi ynddynt (a'r hyn na ddylid eu rhoi).

Mae'n hawdd ailgylchu papur a chardbord. Gellir ailgylchu rhai plastigion hefyd, er enghraifft poteli llaeth plastig, poteli dŵr, a photeli o gynnyrch glanhau tŷ (ond ni ellir ailgylchu pethau fel hambyrddau bwyd plastig a phlastigion lapio fel arfer). Nid yw banciau poteli ar gyfer poteli'n unig - gellir rhoi popeth gwydr ynddynt, gan gynnwys jariau.

Bydd y dolenni isod yn gofyn i chi roi manylion eich cyfeiriad ac yna'n mynd â chi at wefan eich cyngor lleol lle gallwch gael mwy o wybodaeth am fannau casglu - a sut y gallwch ailgylchu mwy.

Tecstiliau

Gellid ailgylchu mwy na hanner y dillad y byddwn yn eu taflu.

Mae'r rhan fwyaf o siopau elusen yn delio â dillad ar gyfer eu hailwerthu, neu gallech fynd â dillad nad oes eu hangen arnoch i fanciau dillad. Mae rhai cynghorau hefyd yn cymryd tecstiliau mewn casgliadau ailgylchu ar garreg y drws.

Batris

Defnyddio batris y gellir eu hailwefru yw'r ffordd orau o leihau gwastraff. Gellir ailgylchu batris ceir. Dylid mynd â nhw i safle gwastraff cartref eich cyngor lleol. Er nad yw adnoddau ar gyfer ailgylchu mathau eraill o fatris ar gael yn gyffredinol ym mhob man, erbyn hyn, mae gan rai cynghorau gynlluniau casglu, a bydd rhai cynhyrchwyr a gwerthwyr yn fodlon cymryd hen fatris yn ôl. Os na allwch ddod o hyd i rywle lle gallwch ailgylchu eich hen fatris, mae'n bwysig eich bod yn cael gwared arnynt yn y dull cywir oherwydd gallant gynnwys sylweddau peryglus a allai niweidio'r amgylchedd.

Ffonau symudol

Mae ffonau'n cael eu cynllunio i bara am lawer o flynyddoedd - ceisiwch gadw'ch ffôn yn hwy drwy osgoi uwchraddio os nad oes gwir angen gwneud hynny. Pan fyddwch angen cael gwared â'ch ffôn symudol, mae nifer cynyddol o opsiynau ar gyfer eu hailgylchu a'u hailddefnyddio. Erbyn hyn, mae nifer o siopau'n cymryd hen ffonau yn ôl er mwyn eu hailgylchu, a cheir mudiadau ac elusennau sy'n derbyn ffonau symudol i'w hadnewyddu a'u hailgylchu.

Cetris argraffu

Mae amryw o elusennau a mannau gwaith yn casglu cetris argraffu i'w hail-lenwi ac mae mwy na thraean o'r 40 miliwn a ddefnyddir bob blwyddyn yn y DU eisoes yn cael eu hailgynhyrchu.

Eitemau eraill

Gellir ailgylchu ystod helaeth o bethau eraill – cewch wybod mwy gan ymgyrch RecycleNow.

Y mater ehangach

Mae casgliadau ailgylchu ymyl palmant ar gael yn awr i naw ym mhob deg o gartrefi

Mae pobl yn y DU yn ailgylchu tair gwaith gymaint o sbwriel nag yr oeddynt 10 mlynedd yn ôl, ond gallai'r teulu cyffredin ddyblu, neu dreblu hyd yn oed, faint y byddant yn ei ailgylchu. Mae ailgylchu'n lleihau'r angen am dirlenwi ac yn arbed deunyddiau newydd ac ynni, gan helpu i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd.

Dim ond pump y cant o'r ynni sydd ei angen i wneud alwminiwm newydd a ddefnyddir pan fydd alwminiwm yn cael ei ailgylchu - a dim ond pump y cant o garbon sy'n cael ei ryddhau wrth wneud hynny. Gall ailgylchu dim ond un can alwminiwm arbed digon o ynni i redeg set deledu am dair awr.

Additional links

Arbed Arian
Arbed Ynni

LLEIHAU’CH CO2 – canfod dulliau hawdd i arbed arian ac ynni

Hoffi Bwyd Casáu Gwastraff

Cael ryseitiau blasus sy'n defnyddio bwyd dros ben a chyngor ar sut i leihau eich gwastraff bwyd

Allweddumynediad llywodraeth y DU