Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Byw'n wyrdd: sut mae'n mynd hyd yn hyn?

Nid oes llawer o broblemau amgylcheddol mwy difrifol na newid yn yr hinsawdd. Mae hyn a cholli mwy a mwy o gynefinoedd naturiol a rhywogaethau yn cyflwyno heriau enfawr, ond mae atebion i'w cael. Mae angen i'r holl gymdeithas – y llywodraeth, busnesau ac unigolion – weithio gyda'i gilydd i symud at ffordd fwy gwyrdd o fyw.

Newid yn yr hinsawdd - ein her fwyaf

Rhagwelir y bydd lefelau'r môr yn codi 18 i 59 cm dros y ganrif nesaf a thymereddau'n codi hyd at bum gradd, gyda chanlyniadau difrifol. Mae'n debyg mai lleihau gollyngiadau'r nwyon tŷ gwydr sy'n achosi newid yn yr hinsawdd yw'r her fwyaf sy'n wynebu'r ddynol ryw. Mae ffordd bell i fynd, ond mae pethau'n symud yn y cyfeiriad iawn.

Rhai llwyddiannau

Heddiw, mae’r aer yn lanach nag ar unrhyw adeg ers y chwyldro diwydiannol, rhag llawer o lygryddion

Er bod rhai heriau mawr o'n blaen, o edrych yn ôl dros y rhai degawdau diwethaf, mae nifer o broblemau amgylcheddol anodd wedi'u datrys yn llwyddiannus.

Mwrllwch
Cyn lleied â 50 mlynedd yn ôl, roedd prif ddinasoedd y DU yn rheolaidd yn dioddef o fwrllwch tew a achoswyd gan losgi glo, ac roedd miloedd yn marw bob blwyddyn o ganlyniad iddo.

Ymdriniwyd â'r broblem drwy gyflwyno parthau 'tanwydd di-fwg', glo glanach a defnyddio trydan neu nwy. Heddiw, mae ein haer yn lanach nag ar unrhyw adeg ers y chwyldro diwydiannol, rhag llawer o lygryddion - er bod heriau'n dal i fodoli o ran lleihau gollyngiadau ymhellach, yn enwedig o egsôsts ceir.

Llygredd plwm
Roedd ceir yn arfer gollwng symiau peryglus o blwm, ac roedd y broblem ar ei gwaethaf yn y 1980au. Mae plwm yn wenwyn sy'n casglu yng nghyrff pobl ac mae'n arbennig o niweidiol i blant. Ers y cyflwynwyd petrol plwm isel yn 1985, mae'r lefelau wedi gollwng yn sylweddol. Erbyn 1999, nid oedd plwm yn cael ei ddefnyddio mewn petrol o gwbl.

Haen oson
Mae'r haen oson yn amddiffyn y blaned rhag ymbelydredd uwchfioled (UV). Dros ugain mlynedd yn ôl cafwyd prawf cychwynnol bod yr haen oson yn disbyddu dros Antartica. Gwelwyd bod yr haen uwchben y DU hefyd yn teneuo, gan adael i fwy o olau UV ddod i mewn, sy'n gallu achosi llosg haul, heneiddio'n rhy gynnar a chanser y croen.

Achoswyd hyn gan fath o gemegyn a ddefnyddiwyd mewn aerosolau ac oergelloedd, yn cynnwys clorofflworocarbonau (CFCs). Mae'r rhain bellach wedi diflannu'n raddol mewn gwledydd datblygedig a byddant yn diflannu mewn gwledydd sy'n datblygu erbyn 2010. Oherwydd y cytundeb hwn i beidio â defnyddio CFCs mae'r haen oson bellach yn gwella a dylai fynd yn ôl i sut oedd yn edrych cyn 1980 erbyn 2050 i 2075.

Er 1970, mae lleihad wedi bod mewn gollyngiadau sy’n achosi glaw asid

Glaw asid
Achosir glaw asid pan fydd gollyngiadau nwyon diwydiannol, yn bennaf sylffwr deuocsid a nitrogen ocsid, yn cyfuno gyda diferion dŵr yn yr awyr i ffurfio asid gwan. Mae'r glaw sy'n disgyn wedyn yn amharu ar gydbwysedd cemegol afonydd a llynnoedd, yn enwedig mewn ardaloedd â phridd asidig, megis Cumbria, yr Alban ac Eryri. Yn Sweden, mae 18,000 o lynnoedd mor asidig nes bod yr holl bysgod ynddynt wedi marw.

Ers y darganfuwyd y broblem, mae gorsafoedd pŵer wedi dechrau defnyddio technolegau sy'n tynnu sylffwr, ac mae cytundebau rhyngwladol wedi'u cytuno er mwyn lleihau gollyngiadau llygryddion i'r aer. Er 1970, mae lleihad o 84 y cant wedi bod mewn gollyngiadau sylffwr deuocsid ac mae ocsid nitraidd wedi'i leihau o draean. Mae gwelliannau wedi bod mewn nifer o leoedd, er y bydd yn cymryd blynyddoedd lawer i'r sefyllfa wella'n llwyr.

Llygredd mewn afonydd ac ar draethau
Mae nifer o afonydd sy'n llifo drwy ardaloedd trefol wedi gwella'n gyflymach o effeithiau llygredd. Yn y 1960au, ystyriwyd bod rhannau o'r afon Tafwys yn 'fiolegol farw'. Bellach, mae 121 math o bysgod yn byw yno. Mae carthion yn gorlifo a llygredd yn dal i beri problemau, ac mae mwy i'w wneud, ond oherwydd gwelliannau mewn triniaeth carthion, mae'r afon Tafwys yn lanach nag y bu ers canrifoedd – patrwm a ailadroddir mewn afonydd ledled y wlad.

Mae gwelliannau mewn triniaeth carthion hefyd wedi bod o fudd i draethau, a bellach mae 149 ohonynt wedi cael gwobr y Faner Las, o'u cymharu â 12 yn 1987.

Plaleiddiaid ac adar ysglyfaethus
Roedd lleihad difrifol yn niferoedd adar ysglyfaethus yn y 1950au a'r 1960au. Disgynnodd niferoedd adar megis bwncathod, hebogiaid tramor, cudyllod coch ac eryrod yn hanesyddol o isel. Darganfuwyd bod hyn oherwydd plaleiddiaid organoglorin. Tynnwyd y rhain oddi ar y farchnad yn raddol, ac mae niferoedd yr hebog tramor bellach yn uwch nag ar unrhyw adeg yn y ganrif ddiwethaf

Yr hyn y gallwch chi ei wneud

Mae faint o wastraff y cartref sy’n cael ei ailgylchu neu gompostio wedi cynyddu i 31 y cant

Mae'r cyhoedd wedi chwarae rhan mewn nifer o lwyddiannau amgylcheddol yn y gorffennol, ac mae angen i chi weithredu mwy nag erioed yn awr er mwyn brwydro newid yn yr hinsawdd.

Mae adran 'amgylchedd a byw'n wyrdd' Directgov yn cynnwys gwybodaeth am sut y gallwch wneud gwahaniaeth. Mae llawer o bobl wedi dechrau arni eisoes:

  • mae Mwy na 60 y cant o gartrefi yn inswleiddio wal ddwbl i arbed ynni (o'i gymharu ag un ym mhob hanner cant 30 mlynedd yn ôl) a disgwylir i hyn godi i 3 miliwn erbyn 2011 - ac mae 96 y cant o dai sy'n gallu inswleiddio atig bellach yn gwneud hynny
  • roedd ailgylchu'n anghyffredin ddegawd yn ôl – heddiw, cesglir deunydd i'w ailgylchu o naw o bob deg cartref
  • mae camau a gymerwyd gan unigolion o ran defnyddio llai o ynni ac ailgylchu wedi helpu'r DU tuag at gyrraedd ei thargedau o ran lleihau gollyngiadau nwyon tŷ gwydr erbyn 2010, ond mae targedau anoddach wedi'u gosod ar gyfer 2020 a 2050

Additional links

Arbed Arian ac arbed ynni

Bydd atgofion ebyst ar LEIHAU’CH CO2 yn eich dangos sut i’w wneud

Cyfrifo eich ôl-troed carbon!

Rhowch gynnig ar gyfrifiannell LLEIHAU'CH CO2 a chael gwybod sut y gallwch chi fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd

Cynlluniwr taith

Cynlluniwch eich taith gyfan mewn car neu ar drafnidiaeth gyhoeddus a chyfrifwch eich allyriadau CO2

Allweddumynediad llywodraeth y DU