Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Rhannu car a chlybiau ceir

Gan fod mwy o geir ar y ffyrdd, mae cynlluniau rhannu car yn cael eu cyflwyno er mwyn helpu i leihau tagfeydd a gollyngiadau CO2. Mae’r fantais o rannu cerbyd hefyd wedi arwain at y syniad o gyflwyno lonydd rhannu, gan gynnwys arbrawf traffordd a gyflwynwyd yng Ngwanwyn 2008. Gallwch gael budd o ymuno â chlwb ceir hefyd – ac mae’n helpu’r amgylchedd.

Manteision rhannu car

Bydd cynlluniau rhannu car yn caniatáu i bobl rannu cerbydau ar gyfer rhai siwrneiau. Mae manteision hyn yn cynnwys:

  • ansawdd aer gwell a llai o ollyngiadau carbon - o ganlyniad i lai o draffig
  • costau teithio llai i bob person
  • siwrneiau byrrach - o ganlyniad i lai o geir ar y ffordd
  • gwell siawns o ddod o hyd i fan parcio
  • gwell diogelwch personol wrth gerdded at y car ac oddi wrtho

Dod o hyd i neu greu cynlluniau rhannu car

Mae yna:

  • gynlluniau trefnedig - rhai gynlluniau ffurfiol, fel Carplus, ar gael i bawb ac yn weithredol dros y rhyngrwyd, ac mae eraill ond i bobl mewn mudiadau neu fusnesau penodol
  • drefniadau llai ffurfiol - wrth gynllunio teithiau gyda theulu, ffrindiau a chydweithwyr

Edrychwch ar wefan eich cyngor lleol am gynlluniau trefnedig yn eich ardal.

Mae Carplus – elusen sy’n hybu defnydd ceir cyfrifol – yn rhestru cynlluniau lleol.

Clybiau ceir

Bydd clwb ceir yn sicrhau bod gan ei aelodau gerbyd i'w 'logi'. Caiff y ceir eu parcio yn agos at gartrefi neu fannau gwaith mewn mannau parcio wedi'u neilltuo, a gellir defnyddio'r ceir (a thalu amdanynt) wrth yr awr, fesul diwrnod neu fesul wythnos. O ran lleihau'n dibyniaeth ar geir, bydd clybiau ceir yn chwarae rhan hanfodol oherwydd eu bod yn gadael i bobl gael mynediad at geir ac yn eu galluogi i fynd ar siwrneiau angenrheidiol heb iddynt orfod bod yn berchen ar gar eu hunain.

Mae defnyddio clwb ceir yn hawdd iawn ac yn llai o drafferth na bod yn berchen ar gar, er enghraifft:

  • llogir car trwy gyfrwng swyddfa ganolog dros y ffôn neu'r rhyngrwyd
  • gellir llogi ceir 24 awr y dydd am gyn lleied ag awr ar y tro
  • caiff ceir eu gadael mewn lleoedd parcio, weithiau lai na 10 munud ar droed o lle'r ydych yn byw neu'n gweithio
  • cedwir yr allweddi naill ai mewn blwch diogel gerllaw, neu yn y car, a bydd rhaid cael cerdyn clyfar er mwyn cael mynediad iddo
  • bydd gyrwyr yn talu ffi fisol ac yn cael eu bilio yn ôl cyfanswm yr oriau y llogwyd y car a faint o filltiroedd a yrrwyd
  • nid chi fydd yn gyfrifol am roi gwasanaeth i'r car nac am ei gynnal a'i gadw

Lonydd rhannu car

Cynllunnir lonydd rhannu car ar gyfer cerbydau gyda mwy nag un teithiwr ynddynt, ac maent yn cael eu cyflwyno ar ffyrdd gyda thagfeydd mawr, er mwyn hybu rhannu car. Gellir defnyddio camerâu i weld faint o deithwyr sydd mewn car, a gellir erlyn gyrwyr sy'n defnyddio'r lonydd yn anghywir.

Mae lonydd rhannu car i'w cael yn Leeds a Swydd Gaerloyw, ac ym mis Mawrth 2008 agorwyd y lôn rhannu car cyntaf, sy’n cysylltu'r M606 i’r de yn agos i Bradford i’r M62 i’r gorllewin tuag at Leeds.

Mwy o ddolenni defnyddiol

Additional links

LLEIHAU’CH CO2

LLEIHAU’CH CO2 – canfod dulliau hawdd i arbed tanwydd ac arian

Cynlluniwr taith

Cynlluniwch eich taith gyfan mewn car neu ar drafnidiaeth gyhoeddus a chyfrifwch eich allyriadau CO2

Allweddumynediad llywodraeth y DU