Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Gwyliau: dewisiadau mwy gwyrdd

Mae preswylwyr y DU yn mynd ar fwy na 40 miliwn o wyliau tramor a thros 100 miliwn o arosiadau dros nos yn y wlad hon bob blwyddyn. Gall dewisiadau a wneir ynghylch ble i fynd, sut i fynd a beth i'w wneud wedi cyrraedd yno naill ai fod o fudd i'r amgylchedd neu ei niweidio.

Dewisiadau teithio

O geir y daw rhan sylweddol o ollyngiadau carbon y DU. Mae teithio mewn awyren yn cyfrannu'n gynyddol at ollyngiadau CO2 (ar hyn o bryd, mae'n achosi tua chwech y cant o gyfanswm y DU). Po bellaf yr ydych yn teithio, yn enwedig mewn awyren, y mwyaf yw'ch cyfraniad chi at newid yn yr hinsawdd. Os ydych eisiau gwyliau mwy gwyrdd, dyma rai pethau i'w hystyried:

  • gall dewis mynd ar wyliau yn nes at adref, neu gymryd llai o wyliau hirach yn hytrach na nifer o wyliau byr, helpu i leihau effaith eich gwyliau ar newid yn yr hinsawdd
  • yn aml, mae opsiwn arall heblaw hedfan neu yrru, yn enwedig pan fyddwch yn mynd i ffwrdd am gyfnod hirach - ar gyfartaledd, tua traean o'r gollyngiadau CO2 o daith awyren ddomestig neu un fer yn Ewrop a achosir wrth deithio'r un pellter ar drên
  • os ydych yn gyrru i'ch man gwyliau, gall defnyddio technegau gyrru effeithlon helpu i leihau eich defnydd o danwydd, arbed arian a lleihau eich effaith ar yr amgylchedd
  • os ydych yn llogi car ar wyliau, bydd dewis model mwy effeithlon yn helpu i leihau eich effaith ar newid yn yr hinsawdd
  • os oes rhaid i chi hedfan, un dewis yw gwrthbwyso'r gollyngiadau carbon y bydd eich taith yn eu cynhyrchu trwy dalu am brosiectau sy'n lleihau gollyngiadau mewn mannau eraill

Ar wyliau

Bydd llawer o'r pethau y gallwch eu gwneud er mwyn bod yn fwy gwyrdd ar wyliau yr un fath â'r pethau y gallwch eu gwneud gartref - ond mae rhai pethau ychwanegol hefyd, megis peidio â phrynu anrhegion a wnaed o rywogaethau dan fygythiad. Dyma rai awgrymiadau:

  • gwneud yn fawr o fwyd a diod a gynhyrchir yn lleol, a bydd gweithgareddau ac atyniadau lleol yn cefnogi pobl yr ardal yr ydych yn ymweld â hi ac yn lleihau effeithiau trafnidiaeth ar yr amgylchedd
  • bydd diffodd aerdymheru, gwres a goleuadau pan nad ydych yn defnyddio eich llety gwyliau yn gymorth i leihau effeithiau newid yn yr hinsawdd
  • ceisiwch beidio â gwastraffu dŵr – mae rhai gwledydd yn dioddef prinder dŵr a gall arbed dŵr helpu i leihau niwed i gynefinoedd naturiol

Rhywogaethau dan fygythiad dramor - eich cyfrifoldebau chi
Gwneir rhai anrhegion a bwydydd sydd ar gael mewn rhai gwledydd o blanhigion neu anifeiliaid sydd dan fygythiad, er enghraifft, croen anifeiliaid, ifori, tegeirian, cafiâr neu gwrel.

Gall fod yn anodd gwahaniaethu rhwng nwyddau a ganiateir a rhai na chaniateir, neu ddarganfod a yw wedi dod o ffynhonnell dan fygythiad, wrth i chi ei brynu.

Gwneud cyfraniad cadarnhaol i'r ardal yr ydych yn ymweld â hi

Mae'n bosib y gall eich gwyliau helpu i gefnogi pobl leol a'r amgylchedd:

  • mae rhai sefydliadau a chwmnïau yn cynnig gwyliau sy'n ceisio cael cyn lleied o effaith â phosib ar yr amgylchedd - gallant helpu i ddod o hyd i lety gwyliau sydd ag anghenion ynni isel a gweithgareddau sydd o fudd i gymunedau lleol
  • mae yna gynlluniau achredu dibynadwy ar gael ar gyfer llety gwyrdd, megis yr Ecolabel Ewropeaidd a'r 'Green Tourism Business Scheme'
  • ceir llawer o gyfleoedd i wirfoddoli a helpu gyda'r prosiectau sy'n gwarchod a gwella cynefinoedd a gwarchodfeydd natur
  • pan fyddwch ar eich gwyliau, neu os ydych am ymweld â rhywle yn y DU, gallwch gefnogi prosiectau neu atyniadau sy'n amddiffyn bywyd gwyllt, megis gwarchodfeydd natur a phrosiectau cadwraethol

Y mater ehangach

Trafnidiaeth yw ffynhonnell chwarter gollyngiadau carbon deuocsid y DU, ac mae canran uchel o hyn yn ymwneud â hamdden - er enghraifft, mae pump o bob chwech taith awyren a wneir o'r DU yn cario teithwyr sy'n mynd ar wyliau.

Additional links

LLEIHAU’CH CO2

LLEIHAU’CH CO2 – canfod dulliau hawdd i arbed tanwydd ac arian

Cynlluniwr taith

Cynlluniwch eich taith gyfan mewn car neu ar drafnidiaeth gyhoeddus a chyfrifwch eich allyriadau CO2

Allweddumynediad llywodraeth y DU