Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Labeli ar gyfer paent, tecstilau a chynhyrchion eraill

Yn ogystal â'r ecolabeli mwy cyffredinol, ceir labeli gwyrdd sydd ond yn berthnasol i fathau arbennig o gynhyrchion, megis paent neu decstilau. Dyma ddwy enghraifft o'r labeli y gallech ddod ar eu traws.

Paent: Labeli VOC

Mae'r rhan fwyaf o baent, farneisiau a chynhyrchion cysylltiedig yn cynnwys Cyfansoddion Organig Anweddol (VOCs). Mae cyfansoddion organig anweddol yn achosi llygredd aer a gallent fod yn niweidiol i iechyd pobl, anifeiliaid a phlanhigion.

Mae trothwyon cyfreithiol wedi'u cyflwyno ar faint o gyfansoddion organig anweddol gaiff eu cynnwys mewn paent a chynhyrchion cysylltiedig. Erbyn hyn, mae'n rhaid i'r rhan fwyaf o gynhyrchion farnais a phaent a ddefnyddir yn y cartref ddangos label sy'n datgan y trothwy cyfreithiol hwn, a faint o VOC sydd yn y cynnyrch. Dyma enghraifft o'r label. Mae'n datgan uchafswm rheoleiddiol yr UE ar sawl gram a geir mewn litr (g/l) – yn 2007 a'r uchafswm newydd a ddaw i rym yn 2010. Yna ceir cynnwys VOC y cynnyrch.

Mae rhai gwneuthurwyr yn dal i ddefnyddio eu logos eu hunain sy'n nodi'r cynnwys VOC, ond mae'n rhaid dangos y label gorfodol sy'n nodi'r cynnwys VOC bob amser.

Tecstiliau: Safon 100 Oeko-Tex

Image of the Oeko-Tex Standard 100 logo

Mae Safon 100 Oeko-Tex yn system ardystio ryngwladol ar gyfer tecstilau a dillad, sy'n edrych ar bob cam yn y broses gynhyrchu. Bydd cynhyrchion sy'n cael eu labelu yn cael eu profi am ystod eang o sylweddau niweidiol, yn seiliedig ar y darganfyddiadau gwyddonol diweddaraf ac ar reoliadau cyfreithiol, gan sefydliadau annibynnol. Rhaid i bob rhan o'r eitemau fodloni'r safonau a ddiffinnir.

Additional links

Hoffi Bwyd Casáu Gwastraff

Cael ryseitiau blasus sy'n defnyddio bwyd dros ben a chyngor ar sut i leihau eich gwastraff bwyd

Arbed Arian Arbed Ynni

Ewch i dudalen LLEIHAU'CH CO2 i ganfod ffyrdd hawdd o arbed arian ac ynni

Allweddumynediad llywodraeth y DU