Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Labeli cerbyd

Gall Label Economi Tanwydd y Deyrnas Unedig ar gyfer pob car newydd eich helpu i ddewis cerbyd sy'n defnyddio tanwydd yn effeithiol ac yn gollwng llai o garbon i'r aer. Mae’n debyg i’r Label Ynni Ewropeaidd. Drwy ddewis car sy'n defnyddio tanwydd yn effeithiol, gallwch helpu i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd.

Label Economi Tanwydd y DU

Image showing the UK Fuel Economy Label

Mae'r label yn dangos faint o garbon deuocsid y mae car yn ei ollwng. Carbon deuocsid yw'r prif nwy tŷ gwydr sy'n gyfrifol am newid yn yr hinsawdd.

Mae'r label hefyd yn rhoi awgrym o gostau tanwydd ar gyfer 12,000 o filltiroedd yn ogystal â'r Dreth Cerbyd am 12 mis fel y gallwch weld faint y bydd y rhain yn eu costio cyn i chi brynu. Mae llai o ollyngiadau carbon deuocsid yn golygu llai o Dreth Cerbyd a chostau rhedeg is.

Cyflwynwyd y label yn wirfoddol gan y diwydiant ceir o dan adain y Bartneriaeth Cerbydau Carbon Isel a sefydlwyd gydag arian gan y Llywodraeth. Mae aelodau'n cynnwys cwmnïau ceir a grwpiau amgylcheddol.

Additional links

Hoffi Bwyd Casáu Gwastraff

Cael ryseitiau blasus sy'n defnyddio bwyd dros ben a chyngor ar sut i leihau eich gwastraff bwyd

Arbed Arian Arbed Ynni

Ewch i dudalen LLEIHAU'CH CO2 i ganfod ffyrdd hawdd o arbed arian ac ynni

Allweddumynediad llywodraeth y DU