Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Arbed dŵr yn yr ardd

Mewn tywydd poeth a sych, gall y dŵr a ddefnyddiwn y tu allan fod gymaint â 50 y cant o gyfanswm ein defnydd. Fodd bynnag, yn y DU mae'n bosibl cael gardd hardd a chynhyrchiol drwy ddefnyddio ychydig iawn o ddŵr o'r prif gyflenwad. Cael gwybod mwy ynghylch beth y gallwch chi ei wneud…

Awgrymiadau dŵr bob dydd

Mae pethau y gallwch wneud yn cynnwys:

  • defnyddiwch gan dŵr yn hytrach na phibell i roi dŵr i'ch gardd
  • os ydych chi'n defnyddio pibell, defnyddiwch sbardun i reoli'r llif
  • osgowch ddefnyddio caniau dŵr â phen rhidyll, heblaw ar gyfer eginblanhigion ifanc, gan nad yw llawer o'r dŵr yn cyrraedd y gwreiddiau lle mae ei angen
  • os ydych chi'n rhoi'r dŵr yn gynnar yn y bore neu'n hwyr yn y nos, ni fydd y dŵr yn anweddu yng ngwres y dydd cyn y gall gyrraedd y gwreiddiau
  • gadewch i blanhigion a llwyni sychu nes iddynt ddangos arwyddion o sigo – gall rhoi dŵr yn rhy aml gadw gwreiddiau'n fas a gwanhau planhigion
  • mae chwynnu'n rheolaidd yn sicrhau mai eich planhigion gaiff y dŵr ac nid chwyn
  • rhowch flaenoriaeth i blanhigion ifanc ac eginblanhigion; bydd planhigion hŷn yn goroesi'n hirach heb ddŵr

Arbed dŵr wrth gadw eich lawnt yn iach

Fel arfer, y lawnt yw'r rhan fwyaf sychedig mewn gardd, ond mae camau rhwydd y gallwch eu cymryd i leihau faint o ddŵr y mae ei angen ar eich lawnt:

  • mae gadael i'r gwair dyfu'n hirach yn ystod cyfnodau sych yn helpu i gadw gwlybaniaeth yn y pridd
  • os ydych chi'n defnyddio chwistrellwr, efallai y bydd eich cwmni dŵr yn gofyn i chi osod mesurydd, oherwydd gallant ddefnyddio cymaint o ddŵr mewn awr ag y defnyddia teulu o bedwar mewn diwrnod
  • bydd socian y gwair yn anaml yn fwy eiffeithiol na'i chwistrellu'n aml, gan y bydd hyn yn annog gwreiddiau i chwilio am ddŵr yn ddyfnach yn y tir
  • cofiwch, hyd yn oed os aiff eich lawnt yn frown yn y tywydd sych, nid yw hynny'n golygu ei bod wedi marw – fel arfer, bydd yn gwella pan ddaw'r glaw yn ôl
  • os ydych chi'n bwriadu ailwneud eich lawnt neu ailblannu rhan ohoni, dewiswch fathau o wair sy'n ffynnu mewn amgylchiadau sych fel peisgwellt neu weunwellt cylfinog llyfn

Gosod casgen ddŵr

Ar gyfartaledd, mae miloedd o litrau o ddŵr glaw yn disgyn ar do cyffredin bob blwyddyn. Os casglwch y dŵr hwn a'i ddefnyddio ar eich gardd, mae'n well i'ch lawnt a'ch planhigion a hefyd yn helpu'r amgylchedd. Hefyd:

  • gosodwch gaead i atal dail rhag casglu neu anifeiliaid bach rhag syrthio i mewn a boddi
  • os ydych chi am gasglu mwy o ddŵr nag sy'n ffitio mewn un gasgen, mae'n bosibl cael offer cysylltu i gysylltu dwy neu fwy
  • yn aml, bydd cwmnïau dŵr a chynghorau'n gwerthu casgenni dŵr am brisiau is

Defnyddio dŵr llwyd yn yr ardd

Gelwir unrhyw ddŵr sydd wedi cael ei ddefnyddio yn y cartref, heblaw dŵr o doiledau, yn ddŵr llwyd. Gellir ailddefnyddio dŵr golchi llestri, dŵr cawod, dŵr sinc a dŵr golchi dillad yn yr ardd yn ystod cyfnodau sych:

  • gellir defnyddio dŵr llwyd o faddonau a chawodydd i roi dŵr i blanhigion nad ydynt yn fwytadwy
  • sicrhewch ei fod wedi oeri cyn i chi ei ddefnyddio
  • osgowch ei dywallt yn uniongyrchol ar ddeiliant

Cynllunio gardd ddŵr-effeithlon

Pethau i’w hystyried:

  • bydd pridd iach wedi'i gompostio yn cadw gwlybaniaeth a maeth
  • os dewiswch blanhigion sy'n ymdopi'n dda â sychder, bydd angen llai o ddŵr ar eich gardd
  • mae plannu llwyni a choed newydd drwy blastig yn helpu i gadw gwlybaniaeth a rheoli chwyn
  • mae rhoi mwlts rhydd (megis rhisgl neu gompost cartref garw) o gwmpas planhigion yn atal dŵr rhag anweddu

Y mater ehangach

Gyda mwy o alw am ddŵr, mae angen inni i gyd edrych ar ffyrdd o arbed yr adnodd werthfawr hon. Gall arbed dŵr yn yr ardd helpu i leihau'r risg o orchmynion sychder a chyfyngiadau dŵr, helpu i amddiffyn bywyd gwyllt a lleihau effeithiau newid yn yr hinsawdd.

Additional links

Arbed Arian Arbed Ynni

LLEIHAU’CH CO2 - canfod dulliau hawdd i arbed arian ac ynni

Cadw’n Gynnes Cadw’n Iach

Gwybodaeth a chyngor ynghylch sut i gadw'n gynnes y gaeaf hwn a pha gymorth ariannol sydd ar gael

Allweddumynediad llywodraeth y DU