Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Bwyd a diod mwy gwyrdd: canllaw cyflym

Gall cynhyrchu, cludo a bwyta bwyd fod yn gyfrifol am hyd at draean o'n cyfraniad at newid yn yr hinsawdd, ac mae'n ychwanegu at broblemau amgylcheddol eraill hefyd. Gall rhai newidiadau bychan i'r ffordd yr ydych yn dewis a pharatoi bwyd helpu i amddiffyn yr amgylchedd, a chefnogi ffermwyr a chynhyrchwyr sy'n gofalu am gefn gwlad.

1. Ceisio peidio â gwastraffu bwyd

Mae cartref cyffredin yn y DU yn gwario £424 y flwyddyn ar gyfartaledd ar fwyd sy'n mynd i'r bin – os aiff i safle tirlenwi bydd yn cynhyrchu methan, sy'n nwy tŷ gwydr a ystyrir ei fod dros 20 gwaith yn fwy pwerus na charbon deuocsid. Mae taflu llai o fwyd i ffwrdd yn cynhyrchu llai o fethan ac yn lleihau effeithiau amgylcheddol niweidiol eraill megis cynhyrchu, pecynnu a chludo bwyd.

2. Beth ydych chi'n ei fwyta

Mae rhai bwydydd yn cael mwy o effaith ar yr amgylchedd nag eraill. Er enghraifft, mae bwyd a dyfir mewn tai gwydr wedi'u gwresogi neu a gludir mewn awyren yn defnyddio llawer o ynni. Mae cynhyrchu cig a chynhyrchion llaeth yn cael llawer mwy o effaith ar newid yn yr hinsawdd ac effeithiau amgylcheddol eraill na chynhyrchu'r rhan fwyaf o rawnfwyd, corbys a ffrwythau a llysiau awyr agored.

3. Prynu pysgod cynaliadwy

Mae logo'r Cyngor Stiwardiaeth Forol (MSC) yn rhoi sicrwydd bod cynnyrch bwyd môr wedi dod o bysgodfa a reolir yn dda ac nad yw wedi cyfrannu at y broblem o or-bysgota.

4. Prynwch yn ffres ac yn y tymor

Mae'n debygol y bydd prynu bwyd a diod pan maent yn eu tymor yn lleol, a heb eu prosesu, neu wedi'u prosesu'n ysgafn, yn golygu bod llai o ynni wedi'i ddefnyddio i'w cynhyrchu. Gall prynu bwyd sydd wedi teithio llai hefyd fod yn ddewis cadarnhaol, gan ei fod yn lleihau gollyngiadau cludiant, yn enwedig wrth gymharu â chynnyrch a gludir mewn awyren.


 

5. Bwyd a gynhyrchir gyda pharch at fywyd gwyllt a'r amgylchedd

Cynhyrchir peth bwyd at safonau penodol sy'n helpu i leihau effeithiau negyddol ar yr amgylchedd a chefnogi bywyd gwyllt. Darganfyddwch fwy am y cynlluniau labelu a'u hystyr.

6. Defnyddio offer ynni-effeithlon i goginio a storio eich bwyd

Wrth brynu oergell, rhewgell neu bopty trydan, dewiswch un â'r radd effeithlonrwydd ynni uchaf, gan ddefnyddio'r labeli Ynni Ewropeaidd neu Energy Saving Recommended. Fel arfer, mae nwy'n ddewis mwy effeithlon na thrydan ar gyfer coginio.

7. Compostio gwastraff y gegin

Bydd compostio gwastraff bwyd yn helpu i leihau effeithiau newid yn yr hinsawdd a achosir gan fwyd sy'n pydru mewn safleoedd tirlenwi, ac yn gwneud gwrtaith da i'ch gardd. Mae llawer o gynghorau'n cynnig biniau compost am bris gostyngedig, neu'n casglu gwastraff cegin.

8. Lleihau teithiau car ar gyfer siopa bwyd

Os gallwch chi, bydd lleihau pa mor aml yr ewch i'r siopau yn y car, neu ddefnyddio mathau eraill o drafnidiaeth, yn lleihau effeithiau newid yn yr hinsawdd a llygredd aer.

9. Dŵr tap

Yn y DU, mae dŵr yfed o'r prif gyflenwad yn bodloni safonau uchel iawn. Wrth yfed dŵr, cofiwch fod dŵr tap yn defnyddio tua 300 gwaith yn llai o ynni na dŵr potel (oherwydd pecynnu a chludo), ac nid yw'n gadael poteli i'w taflu.

Additional links

Cyfrifo’ch ôl-troed carbon!

Rhowch gynnig ar y cyfrifiannell Act on CO2 i gael gwybod sut y gallwch fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd

Allweddumynediad llywodraeth y DU