Gall grwpiau di-elw wneud cais am grantiau hyd at £1 miliwn tuag at y gost o osod systemau ynni adnewyddadwy i gynhyrchu trydan. Mae technolegau megis biomas, paneli solar a thyrbinau gwynt yn dod yn fwyfwy poblogaidd. Gall y dewisiadau amgen effeithiol hyn yn lle tanwyddau ffosil helpu i leihau allyriadau carbon a biliau tanwydd.
Ystyr microgynhyrchu yw pan fydd unigolion, busnesau a chymunedau yn cynhyrchu pŵer a gwres isel mewn carbon er mwyn diwallu eu hanghenion eu hunain. Mae'n defnyddio ystod o dechnolegau fel ynni dŵr, pŵer solar neu ynni'r gwynt.
Mae grantiau ar gyfer rhoi’r technolegau migrogynhyrchu hyn ar waith ar gael ar gyfer adeiladau'r sector cyhoeddus (gan gynnwys ysgolion, ysbytai, cymdeithasau tai ac awdurdodau lleol) ac elusennau. Mae'r grantiau'n talu am gyfran (hyd at 50 y cant) o'r gost o osod y technolegau, a gallwch hawlio hyd at £1 milliwn ar gyfer pob safle.
Darperir y grantiau gan yr Adran Busnes, Arloesi a Sgiliau. Cyflwynir y grantiau drwy’r Sefydliad Ymchwil Adeiladau fel rhan o Gam 2 y Rhaglen Adeiladau Isel mewn Carbon (LCBP2).
Mae lefelau’r grant ar gyfer y sector di-elw yn amrywio yn ôl technoleg ac yn cyfrannu at gyfanswm y gost o’u gosod (heb gynnwys TAW) fel a ganlyn:
|
Technoleg |
Canran |
|---|---|
|
Biomas |
35 y cant |
|
Pympiau sy’n codi gwres o’r ddaear |
35 y cant |
|
Ffotofoltaigau solar |
50 y cant |
|
Systemau Gwresogi Solar |
30 y cant |
|
Tyrbinau gwynt |
30 y cant |
Gall sefydliadau wneud cais am hyd at uchafswm o £1 miliwn ar gyfer pob safle. Gall safle gynnwys mwy nag un eiddo a gellir cael cymorth grant ar gyfer uchafswm o dri math o dechnoleg cymwys ym mhob eiddo. Gall un sefydliad wneud nifer o geisiadau ar gyfer sawl safle gwahanol.
Rhaid i’r dechnoleg gael ei chyflenwi a’i gosod gan gyflenwyr fframwaith cymeradwy Cam 2 y Rhaglen Adeiladau Isel mewn Carbon.
Mae'r grantiau ar gael drwy'r Adran Busnes, Arloesi a Sgiliau. Gallwch naill ai lwytho'r nodiadau cyfarwyddyd a'r ffurflen gais o'u gwefan neu wneud cais ar-lein.
Gall grwpiau sy’n cynhyrchu ynni hefyd fanteisio ar wobrau eraill am wneud hynny: