Mae wyth deg y cant o'r ynni a ddefnyddir yn y cartref yn cael ei ddefnyddio ar gyfer gwresogi. Drwy droi eich thermostat i lawr, inswleiddio'n dda a chael boeler mwy effeithlon, gallwch helpu i leihau'ch biliau tanwydd a'ch allyriadau carbon. Mae cymorth ariannol ar gael hefyd er mwyn sicrhau bod eich cartref yn defnyddio ynni'n fwy effeithlon.
Ynni a ddefnyddir yn y cartref sy'n gyfrifol am fwy na chwarter allyriadau carbon y DU. Un o'r prif bethau y gallwch ei wneud i helpu i leihau newid yn yr hinsawdd yw defnyddio llai o ynni i wresogi.
Gallwch yn awr gael help i arbed hyd at £300 ar eich biliau ynni bob blwyddyn
Gallwch gael cymorth i wneud i'ch cartref ddefnyddio ynni'n fwy effeithlon drwy'r Rhaglen Arbed Ynni yn y Cartref.
Mae pob cartref yn y DU yn gymwys i gael o leiaf 50 y cant oddi ar gost inswleiddio atig a waliau ceudod. Ceir amrywiaeth o ddyfeisiadau arbed ynni, megis bylbiau golau rhad-ar-ynni, dyfeisiadau monitro ynni yn y cartref a phlygiau arbed ynni. Gallai defnyddio'r mesurau hyn eich helpu i arbed hyd at £300 bob blwyddyn ar eich biliau ynni. Cysylltwch â'ch cyflenwr ynni i gael rhagor o fanylion.
Mae'n bosib y bydd pensiynwyr neu bobl sy'n dod o aelwydydd incwm isel hefyd yn gymwys i gael gwelliannau, inswleiddio er enghraifft, ar gyfer eu cartrefi yn rhad ac am ddim, ynghyd â chefnogaeth arall.
I gael gwybod pa gymorth rydych yn gymwys i'w gael, cysylltwch â llinell gyngor LLEIHAU'CH CO2 ar 0800 512 012.
Trowch y thermostat i lawr 1 radd a gallech arbed 10 y cant ar eich biliau gwres
Gallwch wastraffu llai o lawer o ynni drwy ddefnyddio botymau rheoli eich gwres canolog yn ofalus. Gall y rhain gynnwys:
Gallwch arbed arian a lleihau'ch ôl-troed carbon drwy gymryd ychydig o gamau syml:
Defnyddir dros 80 y cant o ynni'r cartref er mwyn gwresogi a chael dŵr poeth, felly, gall boeler sy'n defnyddio ynni'n fwy effeithlon wneud byd o wahaniaeth. Cadwch lygad am y label 'Energy Saving Recommended' pan fyddwch yn dewis boeler newydd. Dim ond ar y cynhyrchion gorau am ddefnyddio ynni'n effeithiol y rhoddir y label hwn, sef yr 20 y cant gorau ar y farchnad fel rheol.
a yw deunydd inswleiddio'ch atig yn 270 milimedr o drwch?
Mae dros hanner y gwres a gollir mewn cartref cyffredin yn dianc drwy'r waliau neu'r to. Drwy inswleiddio'r atig a waliau ceudod gallwch leihau faint o wres sy'n dianc. Gall hyn, ynghyd â system atal drafft, helpu i ostwng hyd at £180 ar eich biliau tanwydd bob blwyddyn.
Inswleiddio waliau ceudod
Gellir inswleiddio waliau ceudod mewn tŷ tair ystafell wely cyffredin mewn ychydig oriau, a gellir gwneud hyn o'r tu allan. Mae angen i'ch adeilad gael waliau ceudod. Gallwch inswleiddio waliau solet hefyd, ond mae hyn yn brosiect mwy a drutach.
Inswleiddio atig
Mae'n hawdd inswleiddio atig - gallwch ei wneud eich hun hyd yn oed. Hyd yn oed os ydych wedi inswleiddio'ch atig yn barod, edrychwch pa mor drwchus yw'r deunydd. Drwy ychwanegu haen arall er mwyn iddo fod yn 270 milimedr o drwch fel yr argymhellir, byddwch yn arbed ynni ac arian.
Er mai waliau a thoeau sy'n bennaf gyfrifol am golli gwres, gallwch wneud pethau eraill hefyd:
Weithiau gall ynni adnewyddadwy fod yn opsiwn ar gyfer gwresogi a phweru cartrefi. Y technolegau ynni adnewyddadwy mwyaf cyffredin yw ynni solar, pŵer y gwynt, pŵer dŵr (hydro) a biomas, sy'n cynnwys llosgi cynhyrchion planhigion neu wastraff anifeiliaid. Drwy ddefnyddio ynni adnewyddadwy gallwch wneud cyfraniad sylweddol at leihau effeithiau newid yn yr hinsawdd.