Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Arbed dŵr yn eich cartref

Cyflenwad penodol o ddŵr sydd ar gael, ac mae prinder dŵr yn broblem mewn rhannau o'r DU. Drwy arbed dŵr, gallwch helpu i amddiffyn bywyd gwyllt fel adar a physgod sy'n byw mewn afonydd ac ar wlypdiroedd. Gallwch hefyd leihau'r ynni y mae ei angen arnoch i drin dŵr, gan helpu i leihau'r newid yn yr hinsawdd.

Gosod toiled fflysh isel neu fflysh deuol

Mae dros hanner pobl y DU yn dweud eu bod yn ceisio gwastraffu llai o ddŵr

Defnyddir tua thraean o ddŵr cartref drwy fflysho toiledau. Mae'n debyg eich bod yn fflysho cymaint o ddŵr mewn diwrnod ag y byddwch yn ei yfed mewn mis cyfan. Mae llawer o bethau y gallwch eu gwneud i ddefnyddio llai o ddŵr wrth fflysho:

  • pan fyddwch yn prynu toiled newydd, prynwch doiled sy'n arbed dŵr, neu sydd â fflysh isel neu fflysh deuol
  • gosodwch ddyfais dadleoli dŵr (a elwir weithiau'n 'hipo') yn nhanc dŵr toiled fflysh uchel - byddwch yn defnyddio oddeutu un neu ddau litr yn llai o ddŵr gyda phob fflysh. Mae'r rhan fwyaf o gwmnïau dŵr yn darparu dyfeisiadau dadleoli am ddim i'w cwsmeriaid
  • gosodwch ddyfais fflysh amrywiol ar doiledau fflysh uchel sydd gennych yn barod - bydd hyn yn rhoi dewis i chi o ran faint o fflysh i'w ddefnyddio er mwyn helpu i arbed dŵr

Cael cawod yn lle bath

Gall cawod sydyn ddefnyddio llai o lawer o ddŵr na bath. Ond gall cawodydd pwerus ddefnyddio mwy o ddŵr na bath mewn llai na phum munud. Meddyliwch am wneud y canlynol:

  • gosod pen sy'n defnyddio dŵr yn effeithlon ar eich cawod bresennol. Gall hyn arwain at ddefnyddio 30 y cant arall yn llai o ddŵr heb effeithio ar berfformiad y gawod (ni ddylid gosod y rhain ar gawodydd trydanol oherwydd gall arwain at orgynhesu'r dŵr)
  • osgoi cawodydd pwerus sy'n defnyddio llawer o ddŵr - gallwch yn hawdd ddefnyddio mwy o ddŵr na phetaech yn cael bath

Defnyddio offer dŵr-effeithlon

Mae cylchau hanner llwyth yn defnyddio mwy o lawer na hanner yr ynni a'r dŵr a ddefnyddir ar gyfer llwyth llawn

Mae faint o ddŵr a ddefnyddir gan beiriannau golchi llestri a pheiriannau golchi dillad yn amrywio'n sylweddol.

Mae label ynni Ewropeaidd (UE) ar bob peiriant golchi llestri a pheiriant golchi dillad newydd sy'n dangos faint o ddŵr y maent yn ei ddefnyddio ym mhob golch, yn ogystal â pha mor ynni-effeithlon ydynt. Dyma bethau yr hoffech eu hystyried o bosib:

  • os oes gennych ddewis, chwiliwch am beiriant sy'n defnyddio llai na 50 litr o ddŵr ym mhob golch
  • ceisiwch chwilio am beiriant golchi llestri sy'n defnyddio llai na 15 litr o ddŵr ym mhob golch
  • sicrhewch fod llwyth llawn yn eich peiriant golchi llestri neu beiriant golchi dillad cyn ei droi ymlaen – mae cylchau hanner llwyth yn defnyddio mwy o lawer na hanner yr ynni a'r dŵr a ddefnyddir ar gyfer llwyth llawn

Gwella gwaith plymio

Dyma bethau i feddwl amdanynt:

  • trwsio dripiau – gall tap sy'n diferu neu'n gorlifo wastraffu llawer o ddŵr (mae dim ond 2 ddiferyn yr eiliad yn gwastraffu tua 26 litr o ddŵr mewn diwrnod), ond dim ond rhai ceiniogau y bydd wasier newydd yn ei gostio, a gellir ei osod mewn munudau
  • gall gosod awyrydd neu ben chwistrell ar dapiau basn ymolchi leihau hyd at 50 y cant ar y dŵr a ddefnyddir - mae awyrydd yn cymysgu aer a dŵr
  • bydd rhoi lagin ar eich pibellau allanol yn helpu i atal pibellau rhag byrstio a gollwng dŵr yn y gaeaf

Arbed dŵr yn yr ardd

Mae sawl ffordd o arbed dŵr yn yr ardd:

  • bydd defnyddio can dŵr yn hytrach na phibell yn gwneud gwahaniaeth mawr i faint o ddŵr y byddwch yn ei ddefnyddio yn eich gardd - gall pibell ddŵr ddefnyddio mwy o ddŵr mewn awr nag y mae teulu o bedwar yn ei ddefnyddio mewn diwrnod
  • ystyriwch brynu casgen ddŵr i gasglu dŵr glaw ar gyfer yr ardd – mae defnyddio dŵr glaw'n arbed dŵr o'r prif gyflenwad a'r ynni a ddefnyddir i'w drin

Peidio â thywallt dŵr yn syth i lawr y draen

Ffyrdd o osgoi hyn:

  • gellir casglu'r dŵr oer sy'n dod o'r tap cyn iddo boethi a'i ddefnyddio i roi dŵr i blanhigion
  • cadwch jwg o ddŵr yn yr oergell yn hytrach na rhedeg y tap i gael dŵr oer
  • gall cau'r tapiau wrth frwsio eich dannedd neu eillio arbed pum litr y funud

Y mater ehangach

Mae llai o ddŵr ar gael i bob person yn y DU nag yn Sbaen neu Bortiwgal. Y mwyaf o ddŵr a ddefnyddir yn ein cartrefi, y llai fydd ar gael mewn afonydd, llynnoedd a gwlypdiroedd naturiol – gan fygwth bywyd gwyllt a'r amgylchedd. Er enghraifft, pan fydd lefelau dŵr mewn afonydd yn disgyn, gellir colli ffynonellau bwyd i adar, a gall lefelau ocsigen fynd yn beryglus o isel i bysgod.

Bydd dŵr domestig hefyd yn cael ei drin cyn ac ar ôl ei ddefnyddio, ac mae gwresogi dŵr yn cyfrif am lawer o'r ynni a ddefnyddir mewn cartrefi. Y mwyaf o ddŵr a ddefnyddiwch, y mwyaf o ynni y mae ei angen, sy'n cyfrannu at newid yn yr hinsawdd.

Allweddumynediad llywodraeth y DU