Bydd angen i'ch cyflogwr gael gwybod a yw'n gyfreithiol i chi weithio yn y DU ac a oes angen caniatâd arnoch. Bydd angen i chi ddangos prawf o'ch hawl i weithio.
Os ydych chi'n awyddus i ddod i weithio yn y DU, eich dinasyddiaeth fydd yn penderfynu a gewch chi ai peidio. Oni bai eich bod yn ddinesydd Prydeinig neu'n ddinesydd o un o wledydd Ardal Economaidd Ewrop (AEE), mae'n bosib y bydd angen fisa arnoch cyn i chi deithio yma.
Os oes rhaid i chi gael fisa, bydd angen i chi gael eich cymeradwyo gan swyddogion Cenhadaeth Dramor Brydeinig yn eich gwlad enedigol. Unwaith i chi gael y gymeradwyaeth, bydd y dystysgrif cymeradwyo mynediad, neu'r fisa, yn cael ei rhoi yn eich pasport neu yn eich dogfen deithio.
Os ydych chi'n dod o un o aelod-wladwriaethau newydd yr Undeb Ewropeaidd, efallai y bydd angen i chi gael caniatâd Asiantaeth Ffiniau’r DU i weithio yn y DU.
Os ydych yn ddinesydd yn un o'r gwladwriaethau a ymunodd â'r Undeb Ewropeaidd yn 2004, efallai y bydd y Cynllun Cofrestru Gweithwyr yn berthnasol i chi. Mae hwn yn effeithio ar ddinasyddion o'r gwledydd canlynol (gwledydd A8):
Fodd bynnag, does dim angen i chi gofrestru i weithio yn y DU:
Mae ambell sefyllfa arall pan na fydd angen i chi gofrestru os ydych chi'n dod o un o'r gwladwriaethau hyn.
Fel gweithiwr/wraig asiantaeth neu dros dro, bydd angen i chi gofrestru i weithio o fewn mis i chi ddechrau'r gwaith.
Os ydych yn ddinesydd yn un o'r gwladwriaethau a ymunodd â'r Undeb Ewropeaidd yn 2007, efallai y bydd gofynion awdurdodi gweithwyr yn berthnasol i chi. Mae hyn yn effeithio ar ddinasyddion o'r gwledydd canlynol (gwledydd A2):
Onid ydynt wedi'u heithrio, mae angen i ddinasyddion Bwlgaria neu Rwmania gael awdurdod gan Asiantaeth Ffiniau'r DU cyn dechrau gweithio mewn unrhyw fath o swydd yn y DU.
Nid oes angen i chi gael eich awdurdodi os ydych yn hunangyflogedig.
Os ydych chi'n fyfyriwr/wraig rhyngwladol, mae'n bosib na fydd angen caniatâd arnoch i weithio yma tra'ch bod yn astudio. Os ydych chi'n dod o un o wledydd AEE, neu os ydych chi'n ddinesydd o'r Swistir, fe gewch weithio heb gyfyngiad ar y math o waith nac ar faint o waith a wnewch onid ydych yn ddinesydd o un o wladwriaethau newydd yr UE. Os ydych yn fyfyrwyr o wlad A2 bydd arnoch angen caniatâd gan Asiantaeth Ffiniau'r DU i weithio. Cewch weithio am hyd at 20 awr yr wythnos ac ar sail amser llawn yn ystod gwyliau neu os ydych ar gwrs galwedigaethol. Os ydych yn fyfyriwr o wlad A8 a'ch bod yn dymuno gweithio dylech holi a oes angen i chi gofrestru'r gwaith gyda'r Cynllun Cofrestru Gweithwyr.
Fel arall, dylech edrych ar stamp y fisa yn eich pasport. Os yw'n dweud 'gwaherddir', chewch chi ddim gweithio yn y DU. Os yw'n caniatáu i chi ddod i mewn i'r DU neu aros yma fel myfyriwr/wraig, fe gewch weithio yma, ar yr amod:
Os ydych chi'n dymuno gweithio yn y DU, rhaid i chi wneud cais dan y system newydd sy'n seiliedig ar bwyntiau. Os nad ydych yn dod o un o wledydd AEE neu o'r Swistir, mae'n debygol y bydd angen i chi ymgeisio dan un o'r haenau hyn i weithio yma.
Ceir pum haen yn y system seiliedig ar bwyntiau:
Cyflwynwyd haen 1 o'r system seiliedig-ar-bwyntiau newydd yn gynharach eleni. Dylech ymgeisio dan yr haen hon os ydych chi'n weithiwr sgilgar iawn, yn entrepreneur, yn fuddsoddwr mewn gwaith ar-ôl-astudio a'ch bod am aros am gyfnod hwy yn y Deyrnas Unedig. Mae hyn yn berthnasol os ydych chi yma nawr fel rhan o'r Rhaglen Mudwyr Medrus Iawn a ddaeth i ben pan gyflwynwyd haen 1.
Agorwyd haen 2 a haen 5 i fewnfudwyr ar 27 Tachwedd 2008. Os ydych yn dymuno dod i'r DU drwy'r llwybrau hyn rhaid i chi gael Tystysgrif Nawdd wedi'i darparu gan gorff sydd wedi cael trwydded nawdd gan Asiantaeth Ffiniau'r DU. Byddwch wedyn yn defnyddio hyn fel rhan o'ch cais i weithio. Bydd angen i chi hefyd ddarparu tystiolaeth eich bod wedi bodloni meini prawf eraill a fydd yn rhoi pwyntiau i chi ar gyfer eich cais.
Nid yw haen 3, y llwybr ar gyfer gweithwyr heb lawer o sgiliau, ar waith ar hyn o bryd. Bydd y system seiliedig-ar-bwyntiau i fyfyrwyr, haen 4, yn cael ei chyflwyno yn 2009.
Gellir dod o hyd i fwy o wybodaeth ar wefan Asiantaeth Ffiniau'r DU.
Os ydych chi'n dod o un o wledydd AEE, bydd angen i chi ddangos un o'r canlynol i ddarpar gyflogwr: cerdyn adnabod cenedlaethol neu dystysgrif cofrestru'r Swyddfa Gartref, neu os ydych chi'n dod o wlad A2 neu A8 a bod angen caniatâd arnoch i weithio gan Asiantaeth Ffiniau'r DU, eich dogfen waith.
Gall cyflogwyr wynebu dirwyon di ben draw os byddant yn cyflogi gweithwyr anghyfreithlon, felly mae angen iddynt sicrhau nad oes neb y maen nhw'n ei gyflogi'n gweithio'n anghyfreithlon yn y DU. Fodd bynnag, er mwyn eu gwarchod eu hunain rhag deddfau camwahaniaethu, dylent drin pob ymgeisydd am swydd yn gyfartal. Felly peidiwch â theimlo'ch bod yn cael eich sarhau os gofynnir i chi brofi eich cenedligrwydd, oherwydd gofynnir i ddinasyddion y DU hyd yn oed ddarparu tystiolaeth.
I gael mwy o wybodaeth ynghylch lle i gael cymorth gyda materion cyflogaeth, ewch i'r dudalen cysylltiadau cyflogaeth neu darllenwch fwy am undebau llafur.