Bydd cyflogwyr yn defnyddio trefniadau disgyblu i roi gwybod i weithwyr nad yw eu perfformiad neu eu hymddygiad yn unol â'r safon ddisgwyliedig, a hefyd i annog gwelliant.
Weithiau, trefn gwyno yw'r ffordd orau i'ch cyflogwr roi gwybod i chi pan fo rhywbeth o'i le. Mae'n ei alluogi i esbonio'n glir pa welliant sy'n ofynnol a dylai roi cyfle i chi roi eich ochr chi i'r sefyllfa.
Rhaid i'r cyflogwr roi ei drefn gwyno ar bapur a dylai sicrhau ei bod ar gael yn hwylus i chi (er enghraifft drwy roi manylion yn y llawlyfr staff). Dylai gynnwys y rheolau, pa berfformiad ac ymddygiad a allai arwain at gamau disgyblu, a pha gamau y gallai'r cyflogwr eu cymryd.
Yn ystod trefn ddisgyblu, os bydd eich cyflogwr yn gwneud rhywbeth sy'n ymddangos yn afresymol, dylech ddweud wrthynt (ar bapur) ac awgrymu ffyrdd o ddatrys y broblem. Efallai y bydd yn penderfynu bwrw ymlaen beth bynnag, ac felly gallech benderfynu defnyddio'r mater fel sail ar gyfer apelio.
Os byddwch yn wynebu camau disgyblu ac yn ansicr beth i'w wneud, gallwch bob amser gael cyngor ar eich hawliau. Mae'r Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu (Acas) a Chyngor Ar Bopeth (CAB) yn darparu cyngor di-dâl a diduedd ac efallai y gallwch gael cymorth gan undeb os ydych yn aelod.
Yn ôl y gyfraith, ar hyn o bryd rhaid cynnwys cyfres o gamau sylfaenol mewn trefn gwyno - gelwir y rhain yn 'drefniadau sylfaenol statudol'. Os bydd eich cyflogwr yn eich diswyddo heb ddilyn y broses hon a chithau wedyn yn cyflwyno achos o ddiswyddo annheg, bydd y diswyddo fel arfer yn 'annheg yn awtomatig'. Fel arfer byddwch wedi gorfod gweithio i'r cyflogwr am o leiaf blwyddyn cyn y gallwch hawlio eich bod wedi'ch diswyddo'n annheg.
Gan ddechrau ar 6 Ebrill 2009, bydd y camau gorfodol hyn yn cael eu diddymu, sy'n golygu na fyddant yn gyfraith rhagor ac na fydd yn rhaid i chi na'ch cyflogwr eu dilyn. Bydd Cod Ymarfer statudol diwygiedig Acas yn pennu'r egwyddorion sy'n gysylltiedig â'r hyn y dylai'r cyflogwr a'r cyflogai ei wneud er mwyn sicrhau safon ymddygiad derbyniol.
Os ydych chi'n byw yng Ngogledd Iwerddon ni fydd y newidiadau sy'n gysylltiedig â datrys anghydfodau yn berthnasol. I gael gwybod mwy am y trefniadau datrys anghydfodau yng Ngogledd Iwerddon ewch i wefan yr Adran Cyflogaeth a Dysgu.
Yn ychwanegol at y trefniadau sylfaenol statudol, mae camau eraill y byddai disgwyl i gyflogwr eu cymryd er mwyn bod yn rhesymol. Mae Acas a'r Asiantaeth Cysylltiadau Llafur (LRA, Gogledd Iwerddon) yn cynhyrchu Cod Ymarfer ar drefniadau disgyblu.
Chewch chi ddim mynd â'ch cyflogwr i Dribiwnlys Cyflogaeth (Tribiwnlys Diwydiannol yng Ngogledd Iwerddon) dim ond am nad yw wedi dilyn y Cod, ond os gwnewch chi hawliad am ddiswyddo annheg, gellir rhoi ystyriaeth i'r Cod.
Gall eich cyflogwr nodi ei drefniadau disgyblu ei hun yn eich contract cyflogaeth. Fodd bynnag, ni chaiff eich cyflogwr ddatgymhwyso'r trefniadau disgyblu sylfaenol statudol. Os oes gan eich cyflogwr drefn ddisgyblu sy'n ffurfio rhan o'ch contract, gallwch wedyn siwio am dor-contact os na fydd yn ei dilyn.
Cyn cymryd camau disgyblu ffurfiol, efallai y bydd eich cyflogwr yn ceisio codi'r mater yn anffurfiol gyda chi i ddechrau. Mae hon yn aml yn ffordd dda o ddatrys problem yn gyflym.
Mae'r Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu (Acas) yn cynnig cyngor cyfrinachol a diduedd am ddim ar bob mater sy'n ymwneud â hawliau cyflogaeth.
Mae’r Asiantaeth Cysylltiadau Llafur (LRA) yn cynnig cyngor cyfrinachol a diduedd am ddim ar bob mater sy'n ymwneud â hawliau cyflogaeth i bobl sy'n byw yng Ngogledd Iwerddon.
Gall eich Canolfan Cyngor Ar Bopeth (CAB) lleol gynnig cyngor diduedd am ddim. Gallwch ddod o hyd i'ch swyddfa CAB leol yn y llyfr ffôn neu ar-lein.
Os ydych chi'n aelod o undeb llafur, fe allwch chi gael help, cyngor a chefnogaeth ganddyn nhw hefyd.