Mae trefn gwyno yn eich galluogi i gwyno neu godi problemau gyda'ch cyflogwr. Yma, cewch wybod beth i'w ystyried os ydych yn meddwl gwneud cwyn a beth sy'n digwydd oni fyddwch yn dilyn yr egwyddorion cwyno.
Fe'ch cynghorir i geisio siarad â'ch cyflogwr yn anffurfiol cyn gwneud cwyn ffurfiol, er mwyn gweld a wnaiff hynny helpu.
Gallwch godi problemau gyda'ch cyflogwr sy'n gysylltiedig â'r canlynol:
Os gwnaethoch geisio datrys eich cwyn yn anffurfiol ac na wnaeth hyn weithio, y cam nesaf fwy na thebyg yw ystyried defnyddio gweithdrefnau ffurfiol eich cyflogwr ar gyfer cwynion. Dylech ddod o hyd i'r rhain yn un o'r canlynol:
Dylid nodi gweithdrefnau ar gyfer ymdrin ag achosion o gwyno yn ysgrifenedig, byddwch yn benodol ac yn glir. Mae'n rhaid i'ch cyflogwr, o leiaf, roi enw'r sawl y gallwch geisio iawn (sydd wedi'i nodi'n gywir) yn ysgrifenedig i chi ar gyfer cwyn sy'n gysylltiedig â chyflogaeth.
Bydd Cod Ymarfer (y Cod) Acas (y Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu) ar weithdrefnau disgyblu a chwyno yn pennu'r egwyddorion sy'n gysylltiedig â'r hyn y dylech chi a'ch cyflogwr ei wneud er mwyn cyrraedd safon o ymddygiad sy'n rhesymol o ran ymdrin ag achosion o gwyno. Daeth y Cod i rym ar 6 Ebrill 2009.
Yn unol â'r Cod, mae gweithdrefn gwyno eich cyflogwr yn debygol o gynnwys:
Gellir cael rhagor o gyngor ac arweiniad yn 'Disgyblu a chwyno yn y gwaith. Canllaw Acas'. Mae'r arweiniad hwn, nad yw'n rhan o'r Cod ond a baratowyd gan Acas i helpu cyflogwyr a chyflogeion i ddeall y Cod a sut mae mynd ati i'w adlewyrchu yn eu trefniadau a'u hymddygiad
Os dechreuodd y digwyddiad rydych yn cwyno yn ei gylch cyn 6 Ebrill 2009, mae'n bosib y bydd angen i chi ddilyn y weithdrefn cyn-6 Ebrill 2009 er mwyn gwneud eich cwyn.
Bydd Tribiwnlysoedd Cyflogaeth yn ystyried y Cod wrth ystyried y rhan fwyaf o achosion o gwyno.
Ddylech chi ddim cael eich diswyddo am leisio cwyn ddidwyll am un o'ch hawliau cyflogaeth statudol (e.e. am gamwahaniaethu neu am holi a ydych wedi cael y cyflog iawn). Ddylech chi ddim ychwaith ddioddef anfantais (e.e. peidio â chael dyrchafiad neu golli goramser) am leisio cwyn ddidwyll ynghylch eich hawliau cyflogaeth.
Mae'r gyfraith hefyd yn eich gwarchod rhag cael eich trin yn annheg/colli eich swydd os byddwch yn datgelu gwybodaeth er lles y cyhoedd neu'n 'chwythu'r chwiban'.
Os ydych chi'n byw yng Ngogledd Iwerddon ni fydd y newidiadau sy'n gysylltiedig â datrys anghydfodau yn berthnasol. I gael gwybod mwy am y trefniadau datrys anghydfodau yng Ngogledd Iwerddon, ewch i wefan yr Adran Cyflogaeth a Dysgu.
Mae’r Asiantaeth Cysylltiadau Llafur (LRA) yn cynnig cyngor cyfrinachol a diduedd am ddim ar bob mater sy'n ymwneud â hawliau cyflogaeth i bobl sy'n byw yng Ngogledd Iwerddon.
Mae Acas yn cynnig cyngor cyfrinachol a diduedd am ddim am bob mater sy'n ymwneud â hawliau cyflogaeth.
Gall eich Canolfan Cyngor Ar Bopeth (CAB) leol gynnig cyngor diduedd am ddim. Gallwch ddod o hyd i'ch swyddfa CAB leol yn y llyfr ffôn neu ar-lein.
Os ydych chi'n aelod o undeb llafur, fe allwch chi gael help, cyngor a chefnogaeth ganddyn nhw hefyd.