Bydd diswyddo annheg yn digwydd pan gewch eich diswyddo ond nad oes gan eich cyflogwr reswm dilys dros eich diswyddo a/neu ei fod wedi ymddwyn yn afresymol.
Diswyddo yw pan fydd eich cyflogwr, gyda neu heb rybudd, yn rhoi terfyn ar eich cyflogaeth. Gall ddigwydd hefyd pan na fydd contract cyfnod penodol yn cael ei adnewyddu neu pan fydd cyflogwr yn gorfodi rhywun i ymddeol. Gellir diswyddo ar lafar neu yn ysgrifenedig.
Diswyddiad oherwydd ymddygiad cyflogwr (constructive dismissal) yw pan fydd gweithredoedd eich cyflogwr (er enghraifft, bwlio difrifol) yn eich gorfodi chi i ymddiswyddo.
Os ydych chi'n weithiwr ac yn teimlo bod eich cyflogwr wedi'ch diswyddo'n annheg, mae'n bosib y gallwch ddwyn achos o ddiswyddo annheg mewn Tribiwnlys Cyflogaeth.
Yn y rhan fwyaf o achosion bydd gofyn eich bod wedi gweithio am flwyddyn cyn y gallwch ddwyn achos am ddiswyddo'n annheg.
Os cawsoch eich diswyddo cyn 1 Hydref 2006, bydd gofyn eich bod hefyd dan eich oed ymddeol arferol (neu'n 65 oed os nad oes gennych oedran ymddeol arferol.
Eich gwaith chi yw profi eich bod wedi'ch diswyddo. Fel arfer bydd hyn yn glir ond gall fod yn fwy anodd os ydych yn hawlio eich bod wedi cael eich diswyddo o ganlyniad i ymddygiad cyflogwr.
Mae’n rhaid i’r cyflogwr ddangos:
Rhaid ei fod wedi ymchwilio i'r sefyllfa'n ddigonol ac o leiaf ddilyn y camau yn y drefn ddiswyddo statudol sylfaenol (os yw hynny'n berthnasol). Os na fyddant yn dilyn y drefn sylfaenol, fel arfer, ystyrir bod eich diswyddiad yn annheg.
Os yw eich cyflogwr wedi ymchwilio'n deg, ond ei fod yn dod i'r casgliad anghywir (er enghraifft, os cafodd y ffeithiau'n anghywir), dylech fod yn ymwybodol na fydd hyn o anghenraid yn golygu bod y diswyddo'n annheg.
Rhaid i'ch cyflogwr allu dangos ei fod wedi bod yn gyson a heb eich diswyddo am rywbeth y maent yn gadael i weithwyr eraill ei wneud fel arfer.
Efallai y gallwch hawlio ichi gael eich diswyddo'n annheg os gallwch ddangos na chawsoch wybod gan eich cyflogwr am reol neu bolisi perthnasol y cwmni.
O ran ymddeoliad, nid yw'r angen i weithredu'n rhesymol a dilyn y drefn ddiswyddo statudol sylfaenol yn berthnasol. O ran tegwch y diswyddiad, bydd hynny'n dibynnu ar a gydymffurfiodd eich cyflogwr â'r ddyletswydd i ystyried gadael i chi weithio ar ôl oedran ymddeol ai peidio.
Mae diswyddo anghyfreithlon yn wahanol i ddiswyddo annheg. Gyda hyn, mae'ch cyflogwr yn torri'ch contract wrth eich diswyddo, fel arfer drwy eich diswyddo heb rybudd neu heb ddilyn y drefn sy'n ofynnol o dan eich contract. Gall diswyddiad fod yn anghyfreithlon ac yn annheg.
Mae rhai rhesymau dros ddiswyddo yn annheg yn awtomatig, gan gynnwys:
Os cawsoch eich diswyddo am unrhyw un o'r rhesymau hyn, does dim rhaid ichi fod wedi gweithio i'r cyflogwr am y flwyddyn arferol o wasanaeth neu fod o dan eich oed ymddeol arferol er mwyn mynd â'r mater i Dribiwnlys Cyflogaeth.
Gall diswyddo fod yn deg os digwydd:
Os cewch eich diswyddo wrth gymryd rhan mewn gweithredu diwydiannol answyddogol neu anghyfreithlon, gallwch golli'r hawl i hawlio diswyddo annheg.
Os ydych wedi'ch cyflogi am flwyddyn (neu os ydych yn feichiog neu ar absenoldeb mamolaeth neu fabwysiadu) mae gennych hawl i gael datganiad ysgrifenedig o'r rhesymau dros eich diswyddiad os gofynnwch am hynny.
Gall yr erthygl ar resymau dros ddiswyddo ddweud wrthych am y mathau o gamau y dylai'ch cyflogwr eu dilyn er mwyn gallu dangos eu bod wedi gweithredu'n rhesymol.
Fel arfer, bydd rhaid i'ch cyflogwr roi o leiaf y cyfnod rhybudd a nodir yn eich contract neu a warentir dan y gyfraith.
Dim ond oherwydd 'camymddwyn difrifol' y caniateir diswyddo heb rybudd, sef sefyllfa sy'n ddigon difrifol i'ch diswyddo heb roi rhybudd i chi yn y lle cyntaf (megis dwyn, twyll neu drais). Dylai cyflogwr archwilio'r amgylchiadau cyn diswyddo - hyd yn oed mewn achosion posibl o gamymddwyn difrifol.
Yn gyntaf, ceisiwch apelio dan drefn ddisgyblu neu ddiswyddo'ch cyflogwr, neu yn achos gwahaniaethu neu ddiswyddiad oherwydd ymddygiad cyflogwr posibl, cwyno dan drefn gwyno'r cyflogwr.
Gallech chi a'ch cyflogwr geisio cymodi drwy Acas, lle bydd arbenigwr yn eich helpu i ddatrys y broblem.
Opsiwn arall yw cyflafareddu unigol, lle mae cyflafareddwr annibynnol yn gwrando'r achos ac yn gwneud penderfyniad sy'n gyfreithiol-rwym.
Pethau i’w cofio
Cadwch gopïau o unrhyw lythyrau y byddwch yn eu hanfon, a nodiadau ysgrifenedig o gyfarfodydd a sgyrsiau ffôn.
Wrth i chi chwilio am swydd newydd, efallai y gallwch hawlio Lwfans Ceisio Gwaith, Budd-dal Tai, neu Fudd-dal Treth Gyngor.
Os nad ydych wedi gallu datrys y broblem gyda'ch cyflogwr yn uniongyrchol, efallai y bydd yn rhaid i chi fynd at Dribiwnlys Cyflogaeth. Cyn gwneud hyn, dylech fod wedi apelio o dan drefn gwyno neu ddiswyddo'ch cwmni. Rhaid eich bod wedi gwneud cais i'r Tribiwnlys o fewn tri mis i gael eich diswyddo onid yw'r trefniadau hyn heb eu cwblhau.
Os na ofynnwyd i Acas gymodi cyn i chi gwyno i dribiwnlys, byddant yn cynnig cymodi unwaith y byddwch wedi gwneud eich cwyn.
Os bydd tribiwnlys yn penderfynu o'ch plaid chi, gallech gael eich swydd yn ôl neu iawndal. Nid oes yn rhaid i chi gymryd eich swydd yn ôl, ond mae'n bosib y bydd eich iawndal yn is os na wnewch chi hynny.
Pwrpas yr iawndal yw eich rhoi yn yr un sefyllfa ariannol â phetaech heb gael eich diswyddo - chewch chi ddim iawndal am deimladau sydd wedi'u brifo. Disgwylir i chi leihau unrhyw golled ariannol gymaint â phosib drwy gofrestru ar gyfer neu chwilio am waith newydd.
Gall tribiwnlys leihau eich iawndal os penderfyna i'ch ymddygiad chwarae rhan yn eich diswyddiad, neu os nad ydych wedi cydymffurfio â'r drefn ddisgyblu statudol sylfaenol.
Efallai y gallwch hawlio taliad am rybudd, tâl gwyliau neu unrhyw dâl terfynol amlwg. Os credwch i'ch diswyddiad fod yn enghraifft o wahaniaethu anghyfreithlon, mae'n bosib y gallech ddwyn achos am hynny.
Mae'r Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu (Acas) yn cynnig cyngor cyfrinachol a diduedd am ddim am bob mater sy'n ymwneud â hawliau cyflogaeth. Fe allwch chi ffonio llinell gymorth Acas ar 08457 474747 rhwng 8.00 am a 6.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Mae’r Asiantaeth Cysylltiadau Llafur (LRA) yn cynnig cyngor cyfrinachol a diduedd am ddim am bob mater sy'n ymwneud â hawliau cyflogaeth i bobl sy'n byw yng Ngogledd Iwerddon. Gallwch gysylltu â'r LRA ar 028 9032 1442 rhwng 9.00 am a 5.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Gall y Gwasanaeth Cyngor ar Bopeth (CAB) hefyd gynnig cyngor diduedd am ddim. Gallwch ddod o hyd i'ch swyddfa CAB leol yn y llyfr ffôn neu ar-lein.
Os ydych chi'n aelod o undeb llafur, fe allwch chi gael help, cyngor a chefnogaeth ganddyn nhw hefyd.