Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dileu swydd: Cyflwyniad

Os yw'ch swydd yn mynd i gael ei dileu, dylech gael eich trin yn deg gan eich cyflogwr ac mae rhai camau y byddai disgwyl iddynt eu dilyn. Fe allech chi hefyd fod â'r hawl i gael tâl dileu swydd.

Beth yw dileu swydd?

Math ar ddiswyddo yw dileu swyddi. Dyma rai rhesymau:

  • mae technoleg newydd neu system newydd yn golygu nad oes angen bellach am eich swydd chi
  • nid yw'r gwaith y cawsoch eich cyflogi i'w wneud yn bodoli rhagor
  • mae'r angen am ostwng costau yn golygu bod rhaid lleihau niferoedd staff
  • mae'r busnes yn cau neu'n symud

Os bydd swydd person arall yn diflannu a'r person hwnnw'n cael ei symud i wneud eich swydd chi, mae hyn hefyd yn ddileu swydd yn eich achos chi. 'Bympio' yw'r gair am hyn, ond efallai y bydd yn anodd i'ch cyflogwr gyfiawnhau hyn o safbwynt tegwch.

Gweithdrefn

Mewn sefyllfa o ddileu swydd, dylai'r canlynol ddigwydd:

  • Dylai'r cyflogwr fod yn deg wrth ddewis pobl ar gyfer dileu eu swydd
  • Dylai ymgynghori â chi ynghylch dileu eich swydd
  • Dylech gael unrhyw dâl dileu swydd sy'n ddyledus i chi, a dylech gael y rhybudd priodol
  • Dylai eich cyflogwr ystyried unrhyw opsiynau eraill ar wahân i ddileu swydd

Os bydd cyflogwr yn defnyddio'r drefn dileu swyddi i guddio'r gwir reswm dros derfynu'ch cyflogaeth, neu os na fydd yn dilyn y drefn dileu swyddi yn iawn, gellir ei ystyried yn ddiswyddo annheg. Mae'r hawliau i gael taliadau dileu swydd ac ymgynghori ar y cyd yn cael eu hawlio ar wahân i ddiswyddo annheg.

Ble i gael cymorth

Mae'r Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu (Acas) yn cynnig cyngor cyfrinachol a diduedd am ddim am bob mater sy'n ymwneud â hawliau cyflogaeth. Fe allwch chi ffonio llinell gymorth Acas ar 08457 47 47 47 rhwng 8.00 am a 6.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Mae’r Asiantaeth Cysylltiadau Llafur (LRA) yn cynnig cyngor cyfrinachol a diduedd am ddim am bob mater sy'n ymwneud â hawliau cyflogaeth i bobl sy'n byw yng Ngogledd Iwerddon. Gallwch gysylltu â'r LRA ar 028 9032 1442 rhwng 9.00 am a 5.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Gall eich Canolfan Cyngor Ar Bopeth (CAB) lleol gynnig cyngor diduedd am ddim. Gallwch ddod o hyd i'ch swyddfa CAB leol yn y llyfr ffôn neu ar-lein.

Os ydych chi'n aelod o undeb llafur, fe allwch chi gael help, cyngor a chefnogaeth ganddyn nhw hefyd

Allweddumynediad llywodraeth y DU