Ar wahanol adegau yn eich bywyd, mae'n bosib y bydd angen mwy o gyngor a chymorth arnoch i'ch helpu i fynd i weithio. P'un ai a ydych chi'n rhiant unigol, yn anabl, yn gadael yr ysgol neu'r coleg, dros 50 oed, neu'n ddi-waith, mae cymorth ymarferol ar gael.
Os ydych chi'n rhiant unigol ac yn poeni am eich sefyllfa ariannol, os oes angen cymorth arnoch gyda gofal plant, neu os ydych yn meddwl mynd i weithio ond ddim yn siŵr lle i ddechrau, mae cymorth a chyngor ar gael.
Newidiadau pwysig i fudd-daliadau i rieni unigol
Ar 24 Tachwedd 2008 cyflwynwyd newidiadau i Gymhorthdal Incwm ar gyfer rhai rhieni unigol.
Golyga'r newidiadau hyn y gallai eich hawl i Gymhorthdal Incwm ddod i ben pan mae'ch plentyn ieuengaf yn cyrraedd 12 oed os dim ond am eich bod yn rhiant unigol yr ydych yn ei hawlio.
Yn hytrach na hynny, gyda chymorth y Ganolfan Byd Gwaith, bydd yn rhaid i chi wneud hawliad am fudd-dal arall ac os yw'r gallu gennych fe'ch anogir i chwilio am waith cyflogedig.
Mae hwn yn un o amryw o newidiadau i'r system fudd-daliadau i helpu pobl i gael y sgiliau ar gyfer gwaith ac i ddechrau gweithio mewn swydd â thâl.
Os oes gennych anabledd neu gyflwr iechyd, os ydych wedi cael anaf difrifol, neu'n gofalu am rywun, mae cymorth ar gael i chi. Mae cymorth a chyngor ar gael os nad ydych yn gallu gweithio, os ydych yn chwilio am waith neu'n meddwl ei bod yn bosib y byddwch yn chwilio am waith yn y dyfodol.
Gall symud o'r ysgol, o'r coleg neu'r brifysgol i fyd gwaith fod yn gam mawr. Hyd yn oed os oes gennych syniad go lew at beth yr ydych yn anelu, nid yw'r ffordd orau o gyrraedd yno bob amser yn glir. Ond mae llawer o gyfleoedd a help ar gael, gan gynnwys cael y profiad angenrheidiol a'r cymorth ariannol ar gyfer hyfforddi.
Os ydych chi'n ddi-waith, gall gymryd amser i ddod o hyd i swydd arall, waeth faint yw eich oed. Fodd bynnag, mae rhaglenni, adnoddau a gwybodaeth arbenigol ar gael i bobl dros 50 i'ch helpu i ddod o hyd i waith neu i ddysgu sgiliau newydd.
Beth bynnag yw'ch amgylchiadau, os ydych chi'n chwilio am swydd neu'n meddwl tybed sut y gallech chi wella'ch siawns o gael y gwaith rydych chi'n awyddus i'w gael, mae cyngor a chymorth ar gael. Mae'r Canllawiau i Bobl sy'n Ddi-Waith yn cynnwys help ymarferol i'ch helpu i fynd i weithio a chael cymorth ariannol yn ystod y cyfnod chwilio.