Ydych chi’n ystyried newid gyrfa? Weithiau, gall fod yn anodd penderfynu ai her newydd y mae arnoch ei hangen, ynteu a yw'n amser i chi symud i gyfeiriad cwbl wahanol. Os oes angen cymorth arnoch i wneud y penderfyniad cywir, gallwch gael cyngor diduedd yn rhad ac am ddim gan gynghorydd gyrfa.
Gall meddwl am yr hyn yr ydych wedi’i gyflawni yn eich gyrfa hyd yma fod yn lle da i ddechrau. Mae llwyddiant yn golygu pethau gwahanol i wahanol bobl, ond efallai yr hoffech ystyried y canlynol:
Dylai penderfynu a yw eich swydd bresennol wedi eich galluogi i ennill y llwyddiant yr hoffech ei gael roi syniad i chi a yw’n amser am newid ai peidio.
Os ydych yn credu y gallai newid gyrfa fod o fudd i chi, bydd angen i chi benderfynu a oes arnoch eisiau:
Efallai y bydd gofyn rhai o’r cwestiynau canlynol yn eich helpu i benderfynu ar hyn.
Os nad ydych yn mwynhau'r gweithgareddau bob dydd yn eich swydd y dyddiau hyn, ceisiwch ystyried beth allai fod wrth wraidd hyn - efallai eich bod wedi diflasu a bod angen her newydd arnoch. Efallai y dylech feddwl am symud i adran wahanol o fewn eich sefydliad - neu symud at gyflogwr gwahanol.
Os nad ydych yn mwynhau rhai pethau o'ch swydd o ddydd i ddydd o gwbl - neu os nad ydych yn cael y cyfle i ddefnyddio eich holl dalentau - gofynnwch i chi'ch hun a yw'r hyn yr ydych yn ei wneud yn gyffredin ar gyfer swydd yn eich maes gwaith chi. Os nad ydych yn fodlon â’r swydd ei hun, efallai na fydd symud adran neu symud cyflogwr yn gwella pethau. Mae’n bosib y byddwch am ystyried newid mwy radical.
Sut yr ydych yn cyd-dynnu gyda chydweithwyr, rheolwyr, cleientiaid a phobl eraill yn eich gweithle?
Meddyliwch a oes unrhyw broblemau'n codi oherwydd gwrthdaro rhwng personoliaethau unigolion penodol, natur y gweithle - neu oherwydd natur y swydd ei hun.
Os ydych yn hoffi’r bobl yr ydych yn gweithio gyda nhw ond nad ydych yn mwynhau’r gwaith ei hun, mae’n bosib y dylech ystyried newid eich rôl o fewn y sefydliad – neu chwilio am rôl wahanol gyda chyflogwr tebyg.
Os ydych yn chwilio am waith sy’n cyd-fynd yn well gyda’ch bywyd teuluol, nid yw newid swydd yn angenrheidiol bob amser.
Mae technoleg yn ei gwneud yn bosib i fwy o bobl dreulio amser yn gweithio o'u cartref. Cofiwch y gallech fod â'r hawl i ofyn i'ch cyflogwr wneud trefniadau ar gyfer gweithio hyblyg (er y gallant wrthod os oes ganddynt reswm busnes da dros wneud hynny).
Os ydych chi'n ystyried newid gyrfa'n gyfan gwbl ond nad ydych yn sicr i ba gyfeiriad i fynd, dechreuwch drwy holi eich hun am eich diddordebau, eich sgiliau a'ch profiad.
Ewch i ‘Pa yrfa sy’n addas i chi?' i gael gwybod mwy.
Os ydych chi'n teimlo fel newid ond yn bwriadu cadw at yr un math o waith, gallwch chwilio am swyddi gwag ar-lein. Gweler 'Dod o hyd i swydd yn awr'.
Mae gwahanol bobl yn chwilio am wahanol bethau yn eu gyrfa, ond mae ystyriaethau cyffredin yn cynnwys cyfleoedd i ddatblygu, cyflog a lleoliad.
Gweler 'Ystyriaethau gyrfa' i gael gwybod mwy.
P'un ai a ydych yn ystyried mentro i fath gwahanol o waith ynteu'n meddwl dringo yn eich gyrfa bresennol, gallai dysgu helpu i agor dewisiadau newydd.
Ceir amrywiaeth eang iawn o gyrsiau sy'n gysylltiedig â gwaith, a'r rheini ar gael ar ystod o lefelau. A does dim rhaid i chi roi'r gorau i'ch swydd bresennol – mae nifer o gyrsiau wedi'u llunio i'ch galluogi i gyfuno gwaith astudio ag ymrwymiadau gwaith.
Ffoniwch y Gwasanaeth Cyngor Gyrfa ar 0800 100 900. Gallwch hefyd drefnu galwad yn ôl gan gynghorydd, neu anfon cwestiwn dros e-bost.
Efallai y bydd modd i chi hefyd gael cyngor wyneb yn wyneb am ddim gan eich gwasanaeth nextstep lleol.