Mae un o bob pump yn dioddef o straen yn y gweithle, gyda hanner miliwn o bobl yn dweud iddynt fynd yn sâl o ganlyniad i hyn. Mae'r erthygl hon yn edrych ar y pethau sy'n achosi straen a sut i'w wella, ac mae hefyd yn esbonio'ch hawliau.
Os oes gennych swydd sy'n eich herio, dylech ddisgwyl teimlo rhywfaint o bwysau yn y gwaith. Fodd bynnag, os yw'r pwysau hwnnw'n ormodol a bod hynny'n cael effaith negyddol arnoch, yna, mae'r pwysau wedi troi'n straen.
Nid clefyd 'mo straen, ond fe all fod yn fygythiad i'ch iechyd a'ch diogelwch yn y gwaith. Yn ôl y gyfraith, rhaid i'ch cyflogwyr ofalu am eich iechyd a'ch diogelwch pan fyddwch yn y gwaith.
Rhai o'r pethau sy'n aml yn achosi straen cysylltiedig â'r gwaith yw cyfathrebu gwael, amgylchedd gweithio gwael a bod y sgiliau sydd gan rywun yn annigonol ar gyfer y swydd.
Mae straen hefyd yn gallu cael ei sbarduno gan ddigwyddiadau y tu allan i'r gwaith, megis profedigaeth, poeni am arian a salwch.
Os tybiwch eich bod yn dioddef o straen cysylltiedig â'r gwaith, mynnwch sgwrs â'ch cyflogwyr amdano. Bydd y math o straen rydych chi'n dioddef ohono yn effeithio ar sut y byddwch chi'n mynd at i ddatrys y peth. Er enghraifft,
Dylech hefyd gael sgwrs gyda'ch cyflogwyr os ydych chi'n dioddef o straen nad yw'n gysylltiedig â'ch gwaith. Mae'n bosib y byddan nhw'n gallu cynnig cymorth i chi tra byddwch yn datrys beth bynnag sy'n peri straen i chi yn eich bywyd personol.
Mae bwlio yn y gweithle, boed hynny'n fwriadol ynteu'n ddamweiniol, yn gallu peri straen. Os yw'r bwlio hwnnw'n cael ei ystyried yn fwlio rhywiol (gan gynnwys ymwneud â'ch rhywioldeb), yn aflonyddu (harasio) ar sail crefydd neu hil, neu'n gysylltiedig ag anabledd, bydd gennych hawliau dan y ddeddfwriaeth gwahaniaethu ar sail rhyw, hil neu anabledd. Hefyd, os oes gennych anabledd sy'n ei gwneud yn anos i chi ddelio â straen, neu'n fwy tebygol o ddioddef o straen (ee iselder), mae gan eich cyflogwyr ddyletswydd i addasu pethau er mwyn ceisio'ch helpu.
Os yw eich cyflogwyr yn gwrthod neu'n methu dileu'r hyn sy'n achosi eich straen, gallwch ddilyn y drefn gwyno a nodir yn eich contract cyflogaeth neu yn llawlyfr y cwmni. Os oes cynrychiolydd iechyd a diogelwch yn eich gweithle, fe all ef neu hi ddod gyda chi i'r cyfarfod gyda'ch cyflogwyr.
Os bydd eich cyflogwyr yn cynnig cymryd camau i'ch helpu (e.e. eich cyfeirio at arbenigwr iechyd galwedigaethol), dylech dderbyn eu cynnig, oni bai bod gennych reswm da dros beidio.
Os na allwch chi ddatrys anghydfod drwy'r drefn gwyno ac na allwch fwrw ymlaen â'ch gwaith yn y ffordd y mae'ch cyflogwyr yn dymuno i chi ei wneud, mae'n bosib y bydd gennych achos diswyddiad annheg "oherwydd ymddygiad eich cyflogwyr" os byddwch chi'n dewis gadael eich swydd. Fodd bynnag, gall hyn fod yn anodd ei brofi, felly mae'n bwysig cael cyngor cyfreithiwr arbenigol neu weithiwr proffesiynol arall.
Mae’r Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu (Acas) yn cynnig cyngor cyfrinachol a diduedd am ddim am faterion sy'n ymwneud â hawliau cyflogaeth. Fe allwch chi ffonio llinell gymorth Acas ar 08457 474 747 rhwng 8.00 am a 6.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Mae’r Asiantaeth Cysylltiadau Llafur (LRA) yn cynnig cyngor cyfrinachol a diduedd am ddim am bob mater sy’n ymwneud â hawliau cyflogaeth i bobl sy’n byw yng Ngogledd Iwerddon. Gallwch gysylltu â’r LRA ar 028 9032 1442 rhwng 9.00 am a 5.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Gall y Gwasanaeth Cyngor ar Bopeth (CAB) hefyd gynnig cyngor diduedd am ddim. Gallwch ddod o hyd i'ch swyddfa CAB leol yn y llyfr ffôn neu ar-lein.
Os ydych chi'n aelod o undeb llafur, fe allwch chi gael help, cyngor a chefnogaeth ganddyn nhw hefyd.