Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Cyfrifo'r Isafswm Cyflog Cenedlaethol: y pethau pwysig

Mae gan bron bawb sy'n gweithio yr hawl i gael yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol o leiaf. Er mwyn gweld a ydych yn cael eich talu ar gyfradd yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol bydd angen i chi wybod eich cyfnod cyfeirnod cyflog a pha elfennau o'r cyflog sy'n cyfrif at yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol.

Sut mae gwirio'ch cyflog

Mae'n rhaid i'ch cyflog cyfartalog fesul awr fod yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol o leiaf, wedi'i gyfrifo dros gyfnod a elwir yn 'gyfnod cyfeirnod cyflog'.

I gael gwybod a ydych yn cael yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol mae angen i chi wybod beth sy'n cyfrif tuag ato a beth nad yw'n cyfrif. Mae angen i chi hefyd wybod pa oriau y mae gennych yr hawl i gael tâl amdanynt - mae hyn yn dibynnu ar y pedwar math o waith yr ydych yn ei wneud dan reolau'r Isafswm Cyflog Cenedlaethol:

  • gwaith ar sail amser
  • oriau cyflogedig
  • gwaith fesul tasg neu waith ar sail allbwn
  • gwaith heb ei fesur

Y cyfnod cyfeirnod cyflog

Hwn fel arfer yw'r cyfnod y cewch eich talu amdano. Felly os cewch eich talu'n wythnosol bydd eich cyfnod cyfeirnod cyflog yn wythnos, ac os cewch eich talu bob mis bydd yn fis. Mae'n rhaid i chi gael eich talu, ar gyfartaledd, yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol o leiaf yn ystod bob cyfnod cyfeirnod cyflog.

Dan reolau'r Isafswm Cyflog Cenedlaethol, ni chaiff y cyfnod cyfeirnod cyflog fod yn hwy na mis calendr. Hyd yn oed os bydd eich cyflogwr yn eich talu dros gyfnodau hwy, er enghraifft unwaith bob chwarter, mae'n rhaid i chi gael yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol ar gyfartaledd ar gyfer bob mis calendr yn ystod y chwarter hwnnw.

Wrth gyfrifo p'un ai a ydych yn cael yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol ai peidio, nid dim ond y cyflog a gewch fydd yn cyfrif yn ystod y cyfnod cyfeirnod cyflog. Mae hefyd yn cynnwys y cyflog yr ydych yn ei ennill yn ystod y cyfnod hwnnw, ond nad ydych yn ei gael tan y cyfnod nesaf. Er enghraifft, os cewch eich talu bob mis a'ch bod yn gwneud rhywfaint o waith goramser ddiwedd mis Gorffennaf, ond na chewch eich talu tan fis Awst, mae'n cyfrif at eich cyflog ym mis Gorffennaf.

Cyflog sy'n cyfrif at yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol

Caiff y cyflog a gewch ei ddefnyddio i gyfrifo'r Isafswm Cyflog Cenedlaethol, a elwir yn Isafswm Cyflog Cenedlaethol.

Caiff yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol ei gyfrifo ar sail cyflog gros (cyn tynnu taliadau treth ac Yswiriant Gwladol). Yn ogystal â'r cyflog sylfaenol a gewch am y gwaith rydych wedi'i wneud, gall eich cyflog gros gynnwys mathau eraill o daliadau sy'n cyfrif at yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol:

  • comisiwn ar werthiannau, cyflog yn seiliedig ar berfformiad neu daliadau eraill ar sail pa mor dda rydych yn gwneud eich gwaith
  • tipiau, dim ond os cânt eu talu drwy'r cyflog

Mae llawer o daliadau nad ydynt yn cyfrif at Isafswm Cyflog Cenedlaethol a dylech eu tynnu o gyfanswm eich cyflog cyn cyfrifo p'un ai a ydych yn cael yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol ai peidio. Mae'r taliadau nad ydynt yn cyfrif fel a ganlyn:

  • benthyciadau
  • blaensymiau o gyflogau
  • taliadau pensiwn
  • cyfandaliadau ymddeol
  • taliadau colli swydd
  • taliadau dan gynlluniau awgrymiadau staff
  • unrhyw elfen bremiwm (sef unrhyw beth y cewch eich talu yn ychwanegol i'ch cyflog sylfaenol) am weithio ar amseroedd arbennig, ee goramser, cyfradd gŵyl y banc
  • lwfansau ar ben eich cyflog sylfaenol, er enghraifft am weithio oriau anghymdeithasol, mewn ardal benodol (ee Pwysiadau Llundain), mewn amgylchiadau peryglus, 'ar alwad', neu gyflawni dyletswyddau arbennig ar wahân i'ch dyletswyddau arferol

Didyniadau a thaliadau nad ydynt yn lleihau eich Isafswm Cyflog Cenedlaethol

Caiff rhai didyniadau o gyflog, neu daliadau a wnewch i'ch cyflogwr, eu hanwybyddu wrth gyfrifo Isafswm Cyflog Cenedlaethol. Felly os cewch gyflog o £5.73 yr awr (er enghraifft) ac y bydd didyniadau neu daliadau am unrhyw un o'r rhesymau a restrir isod yn lleihau hyn i £4, dylech weld p'un ai a yw £5.73 yr awr, nid £4, yn bodloni'r Isafswm Cyflog Cenedlaethol ai peidio yn eich achos chi.

Mae'r didyniadau a'r taliadau nad ydynt yn lleihau'r Isafswm Cyflog Cenedlaethol fel a ganlyn:

  • cosbau am gamymddwyn - ar yr amod bod y cosbau hyn yn eich contract
  • talu blaenswm cyflog yn ôl
  • talu gordaliad damweiniol o'ch cyflog yn ôl
  • costau unrhyw gyfranddaliadau neu warantau rydych wedi dewis eu prynu yn eich cwmni
  • arian rydych yn ei ddewis i gael ei dynnu o'ch cyflog, fel cyfraniad pensiwn neu dâl aelodaeth i undeb llafur - ar yr amod nad yw'r didyniad yn ofynnol fel rhan o'ch gwaith ac nad yw'n mynd i boced eich cyflogwr
  • taliadau rydych yn dewis eu gwneud i'ch cyflogwr i brynu nwyddau neu wasanaethau ganddo - er enghraifft, os byddwch yn gwario rhywfaint o'ch cyflog ar brydau yn ffreutur y staff

Didyniadau a thaliadau sy'n lleihau Isafswm Cyflog Cenedlaethol

Caiff rhai didyniadau o gyflog, neu daliadau a wnewch i'ch cyflogwr, eu hystyried wrth gyfrifo Isafswm Cyflog Cenedlaethol. Felly os cewch gyflog o £7 yr awr (er enghraifft) a bod didyniadau neu daliadau yn lleihau hyn i £5 yr awr am unrhyw un o'r rhesymau a restrir isod, dylech weld p'un ai a yw £5 yr awr, nid £7, yn bodloni'r Isafswm Cyflog Cenedlaethol ai peidio yn eich achos chi.

Mae'r didyniadau a'r taliadau sy'n lleihau'r Isafswm Cyflog Cenedlaethol fel a ganlyn:

  • ad-dalu arian a wariwyd gennych yn gysylltiedig â'ch gwaith megis cost prynu cyfarpar neu wisg
  • ad-dalu costau a dalwyd gennych wrth wneud eich gwaith megis costau teithio
  • didyniadau i dalu am eitemau mae eich cyflogwr wedi'u rhoi i chi sy'n angenrheidiol i chi wneud eich swydd fel cyfarpar neu wisg
  • didyniadau at ddefnydd eich cyflogwr ei hun a buddiannau megis prydau yn ffreutur y staff neu gludiant i'r gwaith ac yn ôl y maent yn eu darparu

Ydy 'buddiannau ymarferol' yn cyfrif at yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol?

dim yn rhwystro cyflogwyr rhag cynnig buddiannau ymarferol i chi, ond ar wahân i swm ar gyfer llety, ni ellir cyfrif gwerth cyfatebol hyn mewn arian at gyflog Isafswm Cyflog Cenedlaethol.

Mae enghreifftiau o fuddiannau ymarferol nad ydynt yn cyfrif at gyflog Isafswm Cyflog Cenedlaethol fel a ganlyn:

  • prydau bwyd
  • tanwydd
  • car
  • cyfraniad eich cyflogwr i’ch cronfa pensiwn
  • help wrth symud tŷ
  • yswiriant meddygol
  • talebau cinio
  • talebau gofal plant

Llety

Os yw'ch cyflogwr yn darparu llety i chi, gall rhywfaint o gost y llety hwnnw gyfrannu at eich Isafswm Cyflog Cenedlaethol.

Ble mae cael cymorth

Gall llinell gymorth yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol, sy'n cynnig cymorth a chyngor annibynnol ar yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol, ymdrin â galwadau mewn dros 100 o ieithoedd. Os nad ydych yn cael yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol gallwch wneud cwyn wrth linell gymorth yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol.

Allweddumynediad llywodraeth y DU