Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Hawl i dâl salwch

Mae faint o dâl y mae gennych yr hawl iddo pan fyddwch yn absennol o'r gwaith oherwydd salwch yn amrywio o'r naill swydd i'r llall, ac mae gwahanol gynlluniau tâl salwch ar gael - ond os cewch chi broblem, mae cyngor ar gael.

Faint o absenoldeb salwch gewch chi

Os byddwch chi'n absennol o'r gwaith oherwydd salwch, bydd eich cyflog yn dibynnu ar delerau eich contract cyflogaeth. Fe all y telerau hyn fod yn ysgrifenedig, neu'n destun cytundeb llafar gyda'ch cyflogwyr, yn ddealledig oherwydd 'defod ac arfer' neu'n gymysgedd o'r tri.

Os yw'ch cyflogwyr yn rhedeg eu cynllun tâl salwch eu hunain dylech gael eich talu am yr hyn sy'n ddyledus i chi yn ôl hwnnw. Os nad oes gennych yr hawl i ddim byd dan gynllun cwmni, dylai eich cyflogwyr ddal i dalu'r Tâl Salwch Statudol i chi os ydych chi'n gymwys.

Tâl salwch (cwmni, neu alwedigaethol) dan gontract

Mae'n bosib bod eich cyflogwyr yn cynnig cynllun tâl salwch sy'n fwy hael na'r lleiafswm sy'n ofynnol yn ôl y gyfraith (Tâl Salwch Statudol). Caiff eich cyflogwyr gynnig unrhyw gynllun nad yw'n is na'r lleiafswm yn ôl y gyfraith.

Pan fyddwch yn dechrau gweithio, rhaid i'ch cyflogwyr roi 'datganiad manylion cyflogaeth ysgrifenedig' i chi o fewn dau fis i chi ddechrau gweithio yn nodi manylion eich cynllun tâl salwch. Os nad yw eich cwmni'n cynnig cynllun dan gontract, rhaid i'r datganiad ysgrifenedig nodi hynny.

Cynllun arferol

Bydd cynllun tâl salwch nodweddiadol fel arfer yn dechrau ar ôl cyfnod sylfaenol o wasanaeth (er enghraifft, cyfnod prawf o dri mis). Yna, byddech yn derbyn eich cyflog arferol yn ystod unrhyw gyfnod pan fyddwch yn absennol o'r gwaith oherwydd salwch, hyd at nifer penodol o wythnosau. Ar ôl hyn, rydych yn debygol o gael hanner-cyflog am gyfnod pellach cyn bod unrhyw absenoldeb oherwydd salwch yn mynd yn absenoldeb heb dâl.

Pa fath o brawf o salwch fydd eich cyflogwyr yn gofyn amdano

Caiff eich cyflogwyr nodi sut y dylech ddweud wrthynt eich bod yn sâl (e.e. ffonio cyn rhyw amser penodol). Fel arfer, byddwch yn gallu hunan-dystysgrifo wythnos o salwch; y tu hwnt i hynny, fel arfer bydd angen nodyn gan y meddyg.

Dewis

Caiff eich cyflogwyr ddewis gwneud eithriad a thalu tâl salwch i chi hyd yn oed os nad ydych chi'n gymwys dan reolau'r cwmni. Hefyd, mae rhai cynlluniau tâl salwch yn dweud y caiff y 'cyflogwyr ddewis' talu'r taliadau ai peidio, sy'n golygu y gallant wrthod gwneud y taliad os ydyn nhw'n teimlo nad oes modd cyfiawnhau'r absenoldeb. Fodd bynnag, wrth wneud hynny, rhaid iddynt sicrhau nad ydynt yn gwahaniaethu o gwbl wrth benderfynu (sef nad ydynt yn ffafrio un categori o weithwyr yn fwy nag un arall pan fo gofyn iddynt beidio â gwneud hynny).

Os yw eich cyflogwyr wedi dewis talu tâl salwch dewisol i chi yn y gorffennol, nid yw hyn yn golygu bod rhaid iddynt wneud hynny yn y dyfodol. Fodd bynnag, weithiau, mae modd i drefniant dewisol ddod yn rhan o'ch contract drwy 'ddefod ac arfer'.

Tâl Salwch Statudol

Os nad oes gennych gynllun cwmni, cewch dâl salwch statudol gan eich cyflogwyr (os byddwch yn gymwys). Y gyfradd ar hyn o bryd ydy £75.40 yr wythnos. Nid yw'r Tâl Salwch Statudol yn dechrau tan y pedwerydd diwrnod y byddwch chi'n absennol oherwydd salwch, felly mae'n bosib na chewch eich talu am y tri diwrnod cyntaf.

Fyddwch chi'n cael mwy o arian os yw'r salwch oherwydd y gwaith?

Fel arfer, ni fydd achos eich salwch yn effeithio ar swm y tâl salwch a gewch chi. Mae'n bosib y bydd gan eich cyflogwyr gynllun arbennig ar gyfer anafiadau yn y gwaith - holwch nhw am fanylion.

Os yw eich cyflogwyr yn gyfrifol am eich analluogrwydd, mae gennych hawl yn ôl y gyfraith i ddwyn achos am anaf personol. Mae hyn yn berthnasol i anaf corfforol sydd wedi digwydd yn y gwaith neu anaf seicolegol, megis straen. Mynnwch sgwrs â thwrnai neu gynrychiolydd Undeb Llafur os ydych chi'n ystyried hyn.

Amser o'r gwaith i ofalu am rywun sy'n sâl ac yn dibynnu arnoch

Cewch amser o'r gwaith i ofalu am rywun sy'n sâl ac yn dibynnu arnoch. Fodd bynnag, nid oes rhaid i'ch cyflogwyr dalu i chi am yr amser hwn oni bai bod eich contract yn dweud bod rhaid iddyn nhw.

A yw derbyn tâl salwch yn effeithio ar eich hawl i wyliau?

Os ydych chi'n absennol o'r gwaith oherwydd salwch, fe allwch fel arfer hel pedair wythnos o amser gwyliau statudol gyda thâl, fel unrhyw gyflogai arall. Os byddwch chi'n absennol o'r gwaith am dros flwyddyn, mae'n debyg y byddwch chi'n colli'r hawl hon.

Beth i'w wneud os byddwch chi'n wynebu problemau

Os ydych chi'n ansicr ynghylch unrhyw beth sy'n berthnasol i dâl salwch, mynnwch sgwrs â'ch cyflogwyr gyntaf.

Os oes problem gyda chael eich tâl salwch:

  • edrychwch ar eich contract i weld faint y dylech ei gael
  • holwch eich cyflogwyr a oes problem wedi bod o ran talu eich tâl salwch
  • os byddwch chi'n anghytuno â phenderfyniad eich cyflogwyr ynghylch Tâl Salwch Statudol, gofynnwch iddyn nhw nodi eu rhesymau ar bapur - gall eich swyddfa Cyllid a Thollau EM benderfynu ar y mater
  • os byddwch chi'n anghytuno ynghylch penderfyniad am dâl salwch cwmni, ceisiwch ddilyn y camau a nodir yn yr adran datrys problemau yn y gwaith
  • os yw eich cyflogwyr yn gwrthod talu'r tâl salwch sy'n ddyledus i chi, ystyrir hyn yn 'ddidyniad anghyfreithlon o gyflog'

Ble mae cael cymorth

Mae’r Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu (Acas) yn cynnig cyngor cyfrinachol a diduedd am ddim am bob mater sy'n ymwneud â hawliau cyflogaeth. Fe allwch chi ffonio llinell gymorth Acas ar 08457 47 47 47 rhwng 8.00 am a 6.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Gall eich Canolfan Cyngor Ar Bopeth (CAB) leol gynnig cyngor diduedd am ddim. Gallwch ddod o hyd i'ch swyddfa CAB leol yn y llyfr ffôn neu ar-lein.

Os ydych chi'n aelod o undeb llafur, fe allwch chi gael cyngor a chefnogaeth ganddyn nhw hefyd.

Allweddumynediad llywodraeth y DU