Mae’r Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd yn diffinio unigolyn anabl fel rhywun gyda nam corfforol neu feddyliol sy’n cael effaith andwyol sylweddol a hirdymor ar ei allu ef neu hi i wneud gweithgareddau arferol bywyd bob dydd.
At ddibenion y Ddeddf:
Mae rhai cyflyrau, megis tueddiad i gynnau tân yn fwriadol a chlwy'r gwair, yn cael eu heithrio'n benodol.
Mae pobl sydd wedi cael anabledd yn y gorffennol sy'n cyd-fynd â'r diffiniad hwn hefyd yn cael eu gwarchod dan gwmpas y Ddeddf. Ceir darpariaethau ychwanegol sy'n ymwneud â phobl gyda chyflyrau cynyddol.
Fe wnaeth Deddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 2005 ddiwygio diffiniad anabledd.
Sicrhaodd bod pobl gyda HIV, canser a sglerosis ymledol yn cael eu gwarchod gan y Ddeddf o'r amser pan wneir y diagnosis, yn hytrach nag o'r adeg pan fo'r cyflwr yn cael rhywfaint o effaith niweidiol ar eu gallu i wneud gweithgareddau arferol bob dydd.
Mae'r Llywodraeth wedi cyhoeddi canllawiau statudol, yn bennaf i gynorthwyo cyrff dyfarnu megis llysoedd a thribiwnlysoedd i benderfynu a yw person yn anabl ai peidio at ddibenion y Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd. Mae’r canllawiau presennol, 'Guidance on matters to be taken into account in determining questions relating to the definition of Disability', wedi bod mewn grym ers 1 Mai 2006.Daeth y Comisiwn Hawliau Anabledd i ben ar 28 Medi 2007, ond mae ei wefan yn dal ar gael. Gallwch ddarllen y canllaw presennol, canllaw 1996 a chodau ymarfer y Comisiwn Hawliau Anabledd ar y Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd ar wefan y Comisiwn Hawliau Anabledd.
Mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, a agorodd ar 1 Hydref 2007, yn gwneud y gwaith a arferai gael ei wneud gan y Comisiwn Hawliau Anabledd. Mae ganddynt linell gymorth benodol ar gyfer anableddau:
Llinell Gymorth Anabledd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol / Equality and Human Rights Commission Disability Helpline
RHADBOST MID02164
Stratford upon Avon
CV37 9BR
Rhif ffôn: 08457 622 633
Ffôn testun: 08457 622 644
Mae'r llinell gymorth ar agor rhwng 9am a 5pm ddydd Llun, dydd Mawrth, dydd Iau a dydd Gwener; a rhwng 8am a 8pm ddydd Mercher.
Ffacs: 08457 778 878
E-bost: info@equalityhumanrights.com