Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Y Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd

Yma, cewch wybod am y ddeddfwriaeth sydd ar waith i hyrwyddo hawliau sifil pobl anabl ac amddiffyn pobl anabl rhag gwahaniaethu.

Hawliau pobl anabl mewn bywyd bob dydd

Mae'r erthygl hon yn sôn yn bennaf am y Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd. Drwy ddilyn y ddolen isod, gallwch ddysgu am eich hawliau mewn gwahanol agweddau ar fywyd, gan gynnwys cael mynediad at siopau, caffis a banciau a defnyddio'u gwasanaethau.

Y Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd

Nod Deddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 1995 yw rhoi diwedd ar y gwahaniaethu y mae llawer o bobl anabl yn ei wynebu. Ychwanegwyd yn sylweddol at y Ddeddf hon, gan gynnwys Deddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 2005. Mae'n awr yn rhoi hawliau i bobl anabl yn y meysydd canlynol:

  • cyflogaeth
  • addysg
  • mynediad at nwyddau, cyfleusterau a gwasanaethau, yn cynnwys clybiau preifat fwy a gwasanaethau trafnidiaeth
  • prynu neu rentu tir neu eiddo, gan gynnwys ei gwneud yn haws i bobl anabl rentu eiddo ac i denantiaid wneud addasiadau ar gyfer pobl anabl
  • swyddogaethau o gyrff cyhoeddus, er enghraifft rhoi trwyddedau

Mae'r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus hyrwyddo cyfle cyfartal i bobl anabl. Mae hefyd yn caniatáu i'r llywodraeth bennu safonau sylfaenol er mwyn i bobl anabl allu defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn hwylus.

Ceir mwy o wybodaeth ar wefan yr Adran Gwaith a Phensiynau, gan gynnwys manylion am y newidiadau a wnaed gan Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 2005.

Daeth y Comisiwn Hawliau Anabledd i ben ar 28 Medi 2007, ond mae'r wefan yn dal ar gael a cheir arni ddigon o wybodaeth, gan gynnwys golwg gyffredinol ar brif bwyntiau'r Ddeddf. Mae hefyd yn darparu fersiynau llawn ar ffurf PDF (y ddwy Ddeddf) a word (Deddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 2005 yn unig).

Cael copi o'r Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd

Mae'r ddwy Ddeddf wedi'u cyhoeddi ar wefan Swyddfa Gwybodaeth y Sector Cyhoeddus.

Copi papur

Cyhoeddir fersiynau print o’r ddwy Ddeddf gan Y Llyfrfa (TSO) a gellir eu prynu. Y rhifau ISBN yw ISBN 0105450952 ar gyfer y Ddeddf 1995 ac ISBN 0105411051 ar gyfer y Ddeddf 2005.

Fersiynau Braille a phrint bras

Gallwch hefyd archebu copïau Braille a phrint bras o'r Ddeddf drwy ffonio'r Llyfrfa ar 0870 600 5522 neu drwy anfon e-bost at customer.service@tso.co.uk. Mae gan y rhain yr un ISBN â'r fersiwn print.

Fersiwn hawdd ei darllen

Gallwch archebu fersiwn Hawdd ei Darllen (ISBN 0117035998) ar wefan Y Llyfrfa, drwy ffonio 0870 600 5522 neu drwy anfon e-bost i customer.service@tso.co.uk.

Fideo Iaith Arwyddion Prydain (BSL)

Gallwch archebu fersiwn fideo BSL o'r Ddeddf (ISBN 011703598X) ar wefan Y Llyfrfa, drwy ffonio 0870 600 5522 neu drwy anfon e-bost i customer.service@tso.co.uk.

Tâp sain

Gellir archebu canllaw i'r Ddeddf ar ffurf tâp sain (ISBN 0117036005) ar wefan y Llyfrfa, drwy ffonio 0870 600 5522 neu drwy anfon e-bost i customer.service@tso.co.uk.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU