Mae cynilo'n bwysig, ond gall fod yn anodd dechrau arni. Mae'r Porth Cynilo yn gynllun a gefnogir gan y llywodraeth i helpu pobl i gronni cynilion. Am bob punt a gynilir, bydd y llywodraeth hefyd yn cyfrannu arian.
Mae cynllun peilot y Porth Cynilo wedi dod i ben erbyn hyn. Fe'i rhedwyd yn llwyddiannus mewn chwe ardal yn y wlad. Roedd y cyfrifon ar agor o fis Mawrth 2005 tan fis Mawrth 2007, lle'r oedd cyfrifon unigol yn aeddfedu ar ôl 18 mis.
Os oedd gennych chi gyfrif Porth Cynilo a bod gennych chi unrhyw ymholiadau am eich taliad cyfatebol neu am unrhyw agwedd arall ar eich cyfrif, ewch i'ch cangen Halifax leol neu ffoniwch linell gymorth Halifax ar 08457 263646.
Gofynnodd y llywodraeth i'r sefydliad ymchwil annibynnol, MORI, werthuso'r Porth Cynilo. Gallai MORI gysylltu â deiliaid cyfrif Porth Cynilo yn y dyfodol i ofyn cwestiynau iddynt am y cynllun. Caiff atebion eu trin yn gwbl gyfrinachol a dim ond at ddibenion gwerthuso'r Porth Cynilo y’u defnyddir.
Gallwch ddod i wybod am lwyddiant cynlluniau peilot y Porth Cynilo, a chyhoeddiadau diweddaraf y llywodraeth am gamau nesaf, drwy fynd i wefan Trysorlys EM.