Os oes gennych chi nam neu gyflwr iechyd sy'n ei gwneud yn anodd byw ar eich pen eich hun, gallai gwneud addasiadau i'ch cartref neu gael cefnogaeth ychwanegol eich helpu i fyw yn eich cartref eich hun.
Os ydych yn byw yn eich cartref eich hun, mae tri phrif beth i'w hystyried:
Mae gennych hawl i gael asesiad o'ch anghenion gan adran gwasanaethau cymdeithasol eich cyngor lleol.
Yn dilyn asesiad iechyd a gofal cymdeithasol, gall therapydd galwedigaethol argymell cyfarpar a syniadau ar gyfer addasu'ch cartref.
Efallai fod gennych hawl i gael cymorth ariannol, megis Grant Cyfleusterau i'r Anabl, i dalu am addasu neu wella'ch cartref.
Mae Asiantaethau Gwella Cartrefi'n sefydliadau nid-er-elw a all helpu gydag addasiadau i'ch cartref.
Mae'r Gronfa Byw'n Annibynnol yn darparu taliadau i bobl ag anableddau difrifol. Gellir defnyddio'r taliad i'ch helpu i fyw'n annibynnol, er enghraifft, drwy gyflogi cynorthwy-ydd personol
Gall swyddfa dai eich cyngor lleol ddweud wrthych am wasanaethau'r cyngor ac am eiddo cymdeithasau tai yn eich ardal, a gallant roi cyngor ynghylch pa rai allai fod yn addas i chi.
Gall y swyddfa dai roi gwybod i chi hefyd am dai â chefnogaeth neu dai gwarchod ac am gartrefi gofal yn eich ardal.
Mae tai â chefnogaeth neu dai gwarchod yn galluogi pobl i fyw'n annibynnol ond gyda chefnogaeth ddyddiol ychwanegol.
Mae cartrefi gofal yn cynnig mwy o gefnogaeth nag y gellir ei darparu yn eich tŷ eich hun. Mae rhai'n cynnig gofal nyrsio amser llawn, tra bo eraill yn cefnogi pobl gydag anabledd penodol neu angen meddygol.