Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Addasu'ch cartref

Os oes angen gwneud gwelliannau neu addasiadau i'ch cartref er mwyn i chi allu parhau i fyw'n annibynnol yno, gallwch ofyn i adran gwasanaethau cymdeithasol eich cyngor lleol i asesu'ch cartref.

Fel arfer, bydd therapydd galwedigaethol yn asesu pa addasiadau sy'n briodol er mwyn diwallu'ch anghenion neu anghenion person anabl sy'n byw yn eich cartref. Os ydynt yn cytuno bod angen gwneud addasiadau i'ch cartref, byddwch yn cael Grant Cyfleusterau i Bobl Anabl.

Grantiau Cyfleusterau i Bobl Anabl

Mae'n ofynnol dan y gyfraith i awdurdodau lleol roi Grantiau Cyfleusterau i Bobl Anabl i ymgeiswyr cymwys er mwyn gwneud tai'n addas ar gyfer pobl anabl. Fodd bynnag, efallai y disgwylir ichi dalu rhai o'r costau, yn dibynnu ar eich amgylchiadau ariannol.

Mae Grantiau Cyfleusterau i Bobl Anabl ar gael i berchnogion a thenantiaid yn y sectorau tai preifat a thai cymdeithasol (yn Lloegr) a hynny hyd at derfyn o £25,000.

Gellir defnyddio'r grantiau ar gyfer unrhyw addasiadau a fydd yn ei gwneud hi'n haws i'r person anabl fynd i mewn i'ch cartref ac o'i gwmpas, neu (er enghraifft) ar gyfer darparu cyfleusterau wedi'u haddasu'n briodol yn y gegin a'r ystafell ymolchi neu'r system wresogi a chyfarpar rheoli'r gwres.

Cymorth ychwanegol a all fod ar gael

Weithiau, gall cynghorau lleol ddarparu cymorth megis benthyciadau cost isel yn ogystal â grantiau i berchnogion tai preifat ac eraill i helpu i adnewyddu, atgyweirio neu addasu'u cartrefi.

Gallant hefyd ddarparu mathau eraill o gymorth, er enghraifft helpu rhywun i symud i le mwy addas os yw'n fodlon y byddai hyn yn rhoi'r un math o fudd ag y ceid o wella neu addasu'r eiddo cyfredol.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch ag Adran Dai neu Iechyd yr Amgylchedd eich cyngor lleol.

Gostyngiad TAW ar nwyddau a gwasanaethau i bobl anabl

Does dim rhaid i bobl anabl dalu TAW ar gost rhywfaint o'r gwaith adeiladu sy'n gysylltiedig ag addasu'u cartrefi. Os yw addasiad yn gymwys i gael gostyngiad TAW, does dim rhaid talu TAW ychwaith ar y gwaith a wneir i baratoi ar gyfer yr addasiad a'r gwaith a wneir i dacluso wedyn.

Gostyngiad ar y Dreth Gyngor i bobl anabl

Os byddwch yn addasu'ch cartref er mwyn i chi, neu berson anabl arall, allu byw yno, efallai y cewch ostyngiad o un band yn eich Treth Gyngor (er enghraifft, o Fand D i Fand C). Mae hyn yn arbennig o ddefnyddiol os yw gwerth eich eiddo wedi codi o ganlyniad i'r gwaith addasu.

Rhaglen Cefnogi Pobl

Un o raglenni'r llywodraeth yw Cefnogi Pobl sy'n darparu cefnogaeth sy'n gysylltiedig â thai i helpu pobl fregus fyw mor annibynnol ag sy'n bosibl yn y gymuned, naill ai yn eu cartrefi eu hunain neu mewn hosteli, mewn tai gwarchod neu mewn tai â chefnogaeth arbenigol arall. Gall helpu pobl hwn i aros yn annibynnol.

Gwneud gwaith

Asiantaethau Gwella Cartrefi

Os ydych chi yn trefnu i waith addasu gael ei wneud, efallai y gallwch gael cymorth gan Asiantaeth Gwella Cartrefi. Mudiadau di-elw yw'r rhain, a reolir yn aml yn lleol gan gynghorau neu gymdeithasau tai. Gallant wneud y canlynol:

  • rhoi cyngor am ddim am y gwaith sydd angen ei wneud
  • rhoi cefnogaeth i denantiaid sydd am addasu'u cartrefi
  • trefnu i osod cyfarpar a gwneud addasiadau bychan
  • trefnu gwaith addasu mwy
  • rhoi trefn ar yr ochr ariannol
  • dod o hyd i syrfëwr, pensaer neu adeiladwr
  • cadw golwg ar y gwaith

Gall Foundations, corff cyswllt cenedlaethol ar gyfer Asiantaethau Gwella Cartrefi, roi manylion asiantaethau yn eich ardal i chi.

Cael gwybod am ganiatâd cynllunio a rheoliadau adeiladu'n lleol

Mae'n bwysig cael caniatâd cynllunio a chael gwybod am y rheoliadau adeiladu cyn ichi ddechrau ar unrhyw waith adeiladu mawr. Bydd y dolenni isod yn gofyn i chi roi manylion ble'r ydych yn byw ac yna'n mynd â chi at wefan eich awdurdod lleol ble gallwch gael mwy o wybodaeth.

Dewis masnachwyr ac adeiladwyr

Os penderfynwch hurio masnachwr neu adeiladwr eich hun, mae'n bwysig dewis rhywun sy'n gweithredu'n gyfreithlon ac sy'n gymwys i wneud y gwaith. Ceir mwy o wybodaeth am ddewis adeiladwr yn adran 'cartref a chymuned' Directgov.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU